Jennifer Lynch
Jennifer Lynch | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ebrill 1968 Philadelphia |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ysgrifennwr, actor |
Tad | David Lynch |
Mam | Peggy Reavey |
Partner | Andrew J. Peterson |
Plant | Sydney Lynch |
Cyfarwyddwr ffilm a theledu Americanaidd yw Jennifer Lynch (ganwyd 7 Ebrill 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur. Mae'n ferch i'r gwneuthurwr ffilm David Lynch ac yn awdur y llyfryn The Secret Diary of Laura Palmer (990).[1][2][3][4]
Fe'i ganed yn Philadelphia, Pennsylvania ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Ganolfan y Celfyddydau, Interlochen, Michigan. [5]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Mae hi'n ferch i'r artist a'r gwneuthurwr ffilmiau David Lynch, sy'n tarddu o'r Ffindir[6], a'r arlunydd Peggy Reavey. Dechreuodd ymarfer Myfyrdod Trosgynnol yn chwech oed.[7] Graddiodd Lynch o'r Academi Gelf Interlochen lle astudiodd y celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol.
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Boxing Helena
[golygu | golygu cod]Denodd sgript, a gomisiynwyd gan Lynch ar gyfer Boxing Helena, lawer o actoresau, gan gynnwys Madonna. Yn y pen draw, castiwyd Sherilyn Fenn, un o'r sêr yng nghyfres deledu ei thad Twin Peaks a'r ffilm Wild at Heart, fel y prif gymeriad Helena. Roedd Kim Basinger hefyd ynghlwm ac fe gafodd ei siwioar ôl ymddiswyddo o’r prosiect. Roedd y ddadl ynghylch yr achos hwnnw, yn ogystal â gwaedd gan ffeministiaid oherwydd testun sadistaidd Helena a chyhuddiadau o nepotistiaeth, yn cyd-fynd â beirniadaeth o'r ffilm wedi iddi gael ei rhyddhau ym 1993.
Surveillance
[golygu | golygu cod]Yn dilyn cyfnod tawel eitha hir, dychwelodd Lynch i'r arena gyhoeddus gyda'r ffilm Surveillance (Gwyliadwriaeth) ac, ym mis Hydref 2008, enillodd Surveillance y brif wobr yn yr Festival de Cine de Sitges.[8] Fis yn ddiweddarach, Lynch oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gwobr Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Arswyd Dinas Efrog Newydd.[9]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Sgwennwr | Cynhyrchydd | Y prif gast | Nodiadau |
1993 | Boxing Helena | Jennifer Lynch, Philippe Caland | Philippe Caland | Sherilyn Fenn, Julian Sands, Bill Paxton | |
2008 | Surveillance | Jennifer Lynch, Kent Harper | David Lynch, Kent Harper, Marco Mehlitz, David Michaels | Bill Pullman, Julia Ormond, French Stewart | |
2010 | Hisss | Jennifer Lynch | Vikram Singh, Govind Menon | Mallika Sherawat, Irrfan Khan | Gwadodd y ffilm |
2012 | Chained | Jennifer Lynch, Damian O'Donnell | Rhonda Baker, David Buelow, Lee Nelson | Vincent D'Onofrio, Eamon Farren, Julia Ormond | Hefyd ymddangosiad cameo |
TBA | A Fall from Grace | Jennifer Lynch, Eric Wilkinson | David Lynch, Forest Whitaker, Tim Roth, Paz Vega, Vincent D'Onofrio, Willow Shields | Ôl-gynhyrchiad | |
2022 | Dahmer – Monster: The Jeffrey Dahmer Story | Jennifer Lynch | Netflix | Evan Peters, Niecy Nash, Richard Jenkins, Penelope Ann Miller, Shaun J. Brown ve Colin Ford | Netflix |
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12917547x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12917547x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://seventh-row.com/a-history-of-women-directors-at-the-cannes-film-festival/.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Jennifer Chambers Lynch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
- ↑ Galwedigaeth: https://seventh-row.com/a-history-of-women-directors-at-the-cannes-film-festival/.
- ↑ "DAVID LYNCH: "DEN HÄR VÄRLDEN ÄR FULL AV HAT OCH ÅNGEST"". Nöjesguiden (yn Swedish). REDAKTION. 4 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 26 Mai 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ MOTTRAM, JAMES (February 22, 2009). "Out on a limb". The Independent on Sunday. London (UK). t. 14.
- ↑ Todd Brown (13 Hydref 2008). "Complete List of Sitges Winners Announced!". twitchfilm.com. IndieClick Film Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 6 Hydref 2012.
- ↑ Aaron Hillis (13 Mai 2009). "Summer Guide: Surveillance, Jennifer Lynch's First in 16 Years". Village Voice. Village Voice, LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-03. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.