Neidio i'r cynnwys

Jeffrey Sachs

Oddi ar Wicipedia
Jeffrey Sachs
Ganwyd5 Tachwedd 1954 Edit this on Wikidata
Detroit Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
Ymgynghorydd y doethor
  • Martin Feldstein Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, academydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodAndrea Del Boca Edit this on Wikidata
Gwobr/auPadma Bhushan, Medal Canmlynedd Havard, Blue Planet Prize, Gwobr Economi Bydeang, Cymrawd y Gymdeithas Econometrig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, honorary doctor of the University of Łódź Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://jeffsachs.org Edit this on Wikidata

Mae Jeffrey David Sachs (ganwyd 5 Tachwedd 1954)[1] yn economegydd o'r Unol Daleithiau a dadansoddwr polisi cyhoeddus sy'n athro ym Mhrifysgol Columbia,[2][3] lle bu gynt yn gyfarwyddwr Sefydliad y Ddaear. Gweithiodd ar ddatblygu cynaliadwy a datblygu economaidd.[4] Yn aml iawn mae'n dadlau dros leiafrifoedd ac yn erbyn yr Unol Daleithiau. Ar y diwrnod olaf o Ionawr 2026, dywedodd fod llywodraeth Israel yn ceiso creu rhyfel byd eang ac y byddai'r UDA yn cymryd drosodd yr Ynys Werdd a llawer o wledydd eraill.

Sachs yw cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Cynaliadwy, Prifysgol Columbia a llywydd Rhwydwaith Datrysiadau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.[5] Mae'n Eiriolwr Nodau Datblygu Cynaliadwy i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (CU), António Guterres, ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs), set o 17 o nodau byd-eang a fabwysiadwyd mewn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn 2015.[6]

O 2001 i 2018, roedd Sachs yn gynghorydd arbennig i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Hyd at 2016 roedd ganddo swydd gynghori debyg yn ymwneud â Nodau Datblygu'r Mileniwm (MDGs),[7] sef wyth amcan a gymeradwywyd yn rhyngwladol i leihau tlodi eithafol, newyn a chlefydau, erbyn 2015. Mewn cysylltiad â'r MDGs, fe'i penodwyd yn gynghorydd arbennig i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2002 yn ystod tymor Kofi Annan[7][8]

O 2002 i 2006, roedd yn gyfarwyddwr gwaith Prosiect Mileniwm y Cenhedloedd Unedig ar yr NDM. Yn 2010, daeth yn gomisiynydd i'r Comisiwn Band Eang ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.[9] Mae Sachs wedi ysgrifennu sawl llyfr ac wedi derbyn sawl gwobr. Mae ei safbwyntiau ar economeg, ar darddiad COVID-19, ac ar oresgyniad Rwsia o Wcráin wedi denu sylw a pheth beirniadaeth.[10][11]

Sachs mewn cyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn 2009

Barn a sylwebaeth

[golygu | golygu cod]

Tsieina

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Stuart Lau a Luanna Muniz yn ysgrifennu yn Politico, mae Sachs yn "eiriolwr ers amser maith dros ddatgymalu goruchafiaeth America a chroesawu cynnydd Tsieina."[12] Dywedodd fod y term "hil-laddiad" yn anghywir mewn perthynas ag erledigaeth yr Uyghurs yn Tsieina. Mae wedi dadlau dros gysylltiadau agosach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina ac wedi rhybuddio am berygl tensiynau rhyngddynt.[13][14]

Gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ac Israel

[golygu | golygu cod]

Mae Sachs wedi dweud bod yr Unol Daleithiau yn "rhannol gyfrifol am hil-laddiad Israel" ac y gallai'r UDA atal y gwrthdaro drwy rewi cymorth milwrol i Israel.[15]

Mewn clip fideo a rannwyd gan Donald Trump, beirniadodd Sachs yr hyn a alwodd yn ymdrechion "obsesiynol" prif weinidog Israel Benjamin Netanyahu i lusgo'r Unol Daleithiau i ryfel ag Iran trwy lobïo (gan Netanyahu) o blaid Israel.[16]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jeffrey D. Sachs | American economist | Britannica". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2022. Cyrchwyd 9 Hydref 2022.
  2. Jacobson, Lindsey (24 Awst 2020). "Economists offer bleak view of President Trump's first term, citing deglobalization trends and 'protectionism'". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2020. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
  3. "China's yuan 10 years from being on par with US dollar, says US economist". South China Morning Post (yn Saesneg). 28 Tachwedd 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2022. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
  4. "Jeffrey Sachs: 'This is not a game for BlackRock to get an extra percentage point – that's absurd'". Buenos Aires Times. 27 Gorffennaf 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2022. Cyrchwyd 16 Medi 2020.
  5. "SDSN Association Board of Directors". Sustainable Development Solutions Network. 16 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Rhagfyr 2024. Cyrchwyd Medi 16, 2020.
  6. Jacobson, Lindsey (August 24, 2020). "Economists offer bleak view of President Trump's first term, citing deglobalization trends and 'protectionism'". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 18, 2020. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
  7. 7.0 7.1 "Jeffrey D. Sachs". UCL Institute for Innovation and Public Purpose (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Chwefror 2025. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2025.
  8. Shaw, Adam (2017-04-10). "UN tensions with Trump administration mount as both sides dig in". Fox News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-07-17. Guterres' spokesman Stephane Dujarric confirmed ... this week that Jeffrey Sachs, a world-renowned economist who has served as a senior U.N. adviser since 2002, will continue in that role.
  9. Jacobson, Lindsey (24 Awst 2020). "Economists offer bleak view of President Trump's first term, citing deglobalization trends and 'protectionism'". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2020. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
  10. "Open letter to Jeffrey Sachs on the Russia-Ukraine war". Prifysgol Berkeley (yn Saesneg). 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2024. Cyrchwyd 7 Mawrth 2024.
  11. "Economics professors condemn Jeffrey Sachs in open letter on Russia-Ukraine war". Columbia Spectator. 2023.
  12. Lau, Stuart; Luanna Muniz (12 Gorffennaf 2022). "Borrell's adviser pushes China's contested claim that COVID came from US". POLITICO. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.
  13. Schulze, Elizabeth (10 Awst 2020). "Geopolitical cold war with China would be a dangerous mistake, economist Jeffrey Sachs says". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ebrill 2021. Cyrchwyd 6 Mawrth 2023.
  14. Lee, Jihye (18 Awst 2022). "U.S.-China tensions are not helping Biden in inflation fight, economist says". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mawrth 2023. Cyrchwyd 6 Mawrth 2023.
  15. Jacobson, Lindsey (24 Awst 2020). "Economists offer bleak view of President Trump's first term, citing deglobalization trends and 'protectionism'". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 18, 2020. Cyrchwyd 15 Medi 2020.
  16. Jacobson, Lindsey (24 Awst 2020). "Economists offer bleak view of President Trump's first term, citing deglobalization trends and 'protectionism'". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 18, 2020. Cyrchwyd 15 Medi 2020.