Neidio i'r cynnwys

Jean Renoir

Oddi ar Wicipedia
Jean Renoir
Ganwyd15 Medi 1894 Edit this on Wikidata
18fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1979 Edit this on Wikidata
Beverly Hills Edit this on Wikidata
Man preswylBeverly Hills, Château des Brouillards Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, awdur, nofelydd, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, sgriptiwr ffilm, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadPierre-Auguste Renoir Edit this on Wikidata
MamAline Renoir Edit this on Wikidata
PriodCatherine Hessling, Dido Freire Edit this on Wikidata
PartnerMarguerite Renoir Edit this on Wikidata
PlantAlain Renoir Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur de la Légion d'honneur‎, Gwobr Louis Delluc, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Prix Charles-Blanc, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jeanrenoir.com/ Edit this on Wikidata

Gwneuthurwr ffilmiau, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, actor ac awdur o Ffrainc oedd Jean Renoir (15 Medi 189412 Chwefror 1979).[1][2] Ymhlith yr anrhydeddau niferus a ddyfarnwyd iddo yn ystod ei oes, derbyniodd Wobr Academi Cyflawniad Oes ym 1975.

Jean Renoir fel bachgen, wedi'i bortreadu tua 1896 gyda'i famaeth Gabrielle Renard mewn paentiad gan ei dad, Pierre-Auguste Renoir

Fe'i ganwyd yn ardal Montmartre ym Mharis. Roedd yn ail fab i Aline Renoir (née Charigot) a Pierre-Auguste Renoir (1841–1919), arlunydd Argraffiadol blaenllaw. Pierre Renoir, actor llwyfan a ffilm, oedd ei frawd hŷn, a chafodd ei frawd iau Claude Renoir (1901–1969) yrfa fer yn y diwydiant ffilm. Roedd Jean hefyd yn ewythr i Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre, oedd yn sinematograffydd a weithiodd gydag ef ar nifer o'i ffilmiau.

Ymunodd â byddin Ffrainc ym 1913. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1914, roedd yn rhingyll, ac yn ddiweddarach cododd i reng is-gapten. Yn Ebrill 1915 torrwyd ei goes gan fwled a bu'n gloff am weddill ei oes. Yn ystod ei gyfnod adferiad treuliodd lawer o'i amser mewn sinemâu ym Mharis, gan weld hyd at bump ar hugain o ffilmiau'r wythnos. Ym 1916, dychwelodd i'r frwydr a gwasanaethodd yn yr awyrlu, lle nad oedd ei goes ddrwg yn ei rwystro. Cafodd ei aseinio i sgwadron rhagchwilio lle dysgodd ffotograffiaeth.

Ym 1920, ymsefydlodd yn Cagnes-sur-Mer i weithio fel ceramegydd. Yno, yn 1920, priododd ag un o fodelau ei dad, Andrée Heuschling. Cafodd y syniad o'i gwneud hi'n seren ffilm, ac ysgrifennodd ffilm fer Catherine ou Une vie sans joie, a ariannodd ef ei hun ac a gyfarwyddwyd gan Albert Dieudonné. Dyma oedd y gyntaf o'i naw ffilm fud. Ymddangosodd ei wraig o dan yr enw Catherine Hessling yn y ffilm hon ac mewn tair ffilm arall o'i eiddo cyn i'r cwpl wahanu yn 1931.

Yn ystod y 1930au, yn oes y ffilmiau llafar, enillodd Renoir sylw fel gwneuthurwr ffilmiau. Mae ei ffilmiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys La Grande Illusion (1937), sydd â thema brawdgarwch, ac yn darlunio cyfres o ymdrechion gan garcharorion rhyfel Ffrengig i ddianc rhag caethiwed yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn hynod lwyddiannus. Yn 1939, gwnaeth La Règle du jeu, ffilm ddychan ar gymdeithas gyfoes Ffrainc. Er bod hon yn fethiant masnachol ac wedi cael ei gwawdio ar y pryd, yn y blynyddoedd diweddarach daeth i gael ei hystyried yn gampwaith, ac mae wedi ei rhestru'n rheolaidd gan feirniaid fel un o'r ffilmiau gorau erioed.

Ar ôl i'r Almaen oresgyn Ffrainc ym Mai 1940, ffodd Renoir i'r Unol Daleithiau ac i Hollywood, lle gwnaeth gyfres o ffilmiau Saesneg. Yn gynnar yn y 1950au dychwelodd i Ffrainc, a pharhaodd i weithio yno.

Gan fethu â chael cyllid ar gyfer ei ffilmiau, treuliodd Renoir ei flynyddoedd olaf yn Beverly Hills, Califfornia, gan ysgrifennu nofelau a'i hunangofiant.

Gweithiau

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Gweithiau llenyddol

[golygu | golygu cod]
  • Pierre-Auguste Renoir, mon père (Paris, 1962)
  • Les Cahiers du capitaine Georges (Paris, 1966)
  • Ma vie et mes films (Paris, 1974)
  • Écrits 1926-1971 (Paris, 1974)
  • Le Cœur à l'aise (Paris, 1978)
  • Julienne et son amour / En avant Rosalie (Paris, 1978)
  • Le Crime de l'Anglais (Paris, 1979)
  • Geneviève (Paris, 1979)
  • Lettres d'Amérique (Paris, 1984)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jean Renoir, My Life and my Films, cyf. Norman Denny (Llundain, 1974)
  2. Martin O'Shaughnessy, Jean Renoir, French Film Directors Series (Manchester University Press, 2019)