Jean Jaurès

Oddi ar Wicipedia
Jean Jaurès
GanwydAuguste Marie Joseph Jean Léon Jaurès Edit this on Wikidata
3 Medi 1859 Edit this on Wikidata
Castres Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1914 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, athro cadeiriol, newyddiadurwr, ysgrifennwr, hanesydd, gohebydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, arlywydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • L'Humanité
  • La Dépêche du Midi
  • Prifysgol Toulouse Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAdran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol Edit this on Wikidata
PriodLouise Bois Edit this on Wikidata
Gwobr/auCystadleuthau Cyffredinol, agrégation de philosophie Edit this on Wikidata

Gwleidydd sosialaidd o Ffrancwr oedd Jean Jaurès (3 Medi 185931 Gorffennaf 1914).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jean Jaurès ar 3 Medi 1859 yn Castres, Tarn, yn ne Ffrainc, i deulu dosbarth-canol a oedd yn dlawd o ganlyniad i fethiannau busnes. Enillodd Jean ysgoloriaeth i'r École Normale Supérieure ym Mharis. Gweithiodd yn athro yn lycée Albi o 1881 i 1883, ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Toulouse o 1883 i 1885.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Jaurès yn aelod annibynnol yn Siambr y Dirprwyon dros Tarn yn 1885. Collodd ei sedd yn etholiadau 1889, a dychwelodd i Brifysgol Toulouse. Derbyniodd ei ddoethuriaeth athroniaeth yno yn 1891. Ysgrifennodd un o'i theses, ar bwnc sosialaeth yn ysgrifeniadau Luther, Kant, Fichte, a Hegel, yn Lladin.

Siaradodd Jaurès yn gyhoeddus o blaid achos y glowyr yn ystod streic Carmaux yn 1892, a'r flwyddyn olynol fe'i etholwyd yn ddirprwy dros yr etholaeth honno. Ymaelododd â'r Sosialwyr Annibynnol, un o'r pum carfan o sosialwyr yn Siambr y Dirprwyon a'r un a oedd lleiaf o blaid syniadaeth chwyldroadol Karl Marx, dan arweiniad Alexandre Millerand. Ysgrifennodd Jaurès y llyfr Les Preuves i ddadlau dros achos y Capten Alfred Dreyfus, er yr oedd y sosialwyr Marcsaidd yn gwrthod amddiffyn swyddog milwrol a dyn y dosbarth canol. Collodd Jaurès ei sedd yn etholiadau 1898.[1]

Bu rhywfaint o gymodi rhwng y carfanau sosialaidd yn Ffrainc, a chynhaliwyd y gyd-gyngres gyntaf ganddynt yn 1899. Chwalodd y berthynas unwaith eto yn sgil penderfyniad Millerand i ymuno â'r llywodraeth adain-chwith dan René Waldeck-Rousseau, a daeth Jaurès i arwain y Blaid Sosialaidd Ffrengig (Parti Socialiste Français), grŵp ar wahân i Blaid Sosialaidd Ffrainc (Parti Socialiste de France). Ailetholwyd Jaurès yn 1902, a pharhaodd i gefnogi'r bloc adain-chwith yn Siambr y Dirprwyon ac ysgrifennu o blaid polisïau Waldeck-Rousseau.[1]

Yn y 1910au, cyflawnodd Jaurès ei gampwaith hanesyddol, Histoire socialiste de la Révolution française (1901–07), gwaith a ysbrydolwyd gan hanesyddiaeth Marx, Plutarch, a Jules Michelet. Cydsefydlodd y papur newydd L'Humanité yn 1904, a fe gyhoeddodd sawl erthygl yn arddel egwyddorion sosialaeth ddemocrataidd. Cyhoeddodd sawl llyfr ysgolheigaidd arall, gan gynnwys La Guerre franco-allemande 1870–1871 (1908) a L’Armée nouvelle (1910).

Yn 1904, condemniwyd llywodraethau'r bwrdais gan yr Ail Gyngres Gydwladol, ac ufuddhau a wnaeth Jaurès i'r gwaharddiad ar sosialwyr i gynnal llywodraethau an-sosialaidd. Cyfunodd y ddwy blaid sosialaidd Ffrengig yn 1905 gan ffurfio'r Section Française de l’Internationale Ouvrière (SFIO) yn wrthblaid i'r llywodraeth. O ganlyniad, ni ddaeth diwygiadau Waldeck-Rousseau i rym. O ran polisi tramor, dadleuodd Jaurès yn erbyn rhyfeloedd trefedigaethol ac o blaid gwrthfilitariaeth a nesâd rhwng Ffrainc a'r Almaen.[1]

Llofruddiaeth[golygu | golygu cod]

Ar 31 Gorffennaf 1914, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, fe'i saethwyd yn farw gan Raoul Villain, cenedlaetholwr a oedd yn gwrthwynebu heddychaeth Jaurès. Carcharwyd Villain trwy gydol y rhyfel, a fe'i cafwyd yn ddieuog o llofruddiaeth Jaurès gan reithgor yn 1919.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Jean Jaurès. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2019.