Jean Bodel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jean Bodel
Jehan Bodel - Li congié.jpg
Ganwyd 1165 Edit this on Wikidata
Arras Edit this on Wikidata
Bu farw 1205 Edit this on Wikidata (40 oed)
Achos: Gwahanglwyf Edit this on Wikidata
Arras Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Bardd, Ysgrifennwr, clerwr Edit this on Wikidata

Bardd a dramodydd yn yr iaith Hen Ffrangeg oedd Jean Bodel neu Jehan Bodel (tua 11671210) sy'n nodedig fel jongleur, trouvère, ac awdur fabliaux.

Roedd yn hanu o Arras, yn rhanbarth Artois, a oedd yn rhan o Swydd Fflandrys hyd at 1180. Mae'n debyg iddo weithio mewn swydd gyhoeddus yn Arras, ac yn sicr roedd yn aelod o puy, y frawdoliaeth lenyddol leol. Roedd bwriad ganddo ymuno â'r Bedwaredd Groesgad (1202–04), ond cafodd ei wahanglwyfo a bu farw mewn clafrdy yn Arras.[1]

Bodel yw awdur Le Jeu de Saint Nicolas (tua 1200), y ddrama firagl hynaf yn yr iaith Ffrangeg. Ysgrifennodd hefyd bum pastourelle ( 1190–94, 1199), naw fabliau (1190–97), y chanson de geste La Chanson des Saisnes (cyn 1200), a'r delyneg Les Congés (1202).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jehan Bodel. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2019.