Jasad
Gwedd
| Enghraifft o: | cylchgrawn |
|---|---|
| Golygydd | Joumana Haddad |
| Cyhoeddwr | Joumana Haddad |
| Iaith | Arabeg |
| Dechrau/Sefydlu | 2008 |
| Sylfaenydd | Joumana Haddad |
| Pencadlys | Beirut |
| Gwefan | http://www.jasadmag.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06zkdsx |
Cylchgrawn diwylliannol Libanaidd yw Jasad (Arabeg, yn golygu "corff"). Mae'n gylchgrawn Arabeg a sefydlwyd yn 2008 ac a gyhoeddir yn Beirut, Libanus, gan Al Joumana Publishing. Y sefydlwr, cyhoeddwr a golygydd yw'r bardd a newyddiadurwr Joumana Haddad[1]
Mae Jasad yn gylchgrawn dadleuol am ei fod yn trafod pynciau a ystyrir yn 'tabŵ' gan rai pobl yn y gymdeithas Arabaidd, yn cynnwys trafod rhyw yn agored a chyhoeddi llenyddiaeth a chelf erotig.[2] Ei brif thema yw 'llenyddiaeth, celf a gwyddoniaeth y corff.' Cyhoeddwyd y rhifyn gyntaf yng Ngaeaf 2008.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Arabeg) Gwefan y cylchgrawn