Janet Evans

Oddi ar Wicipedia
Janet Evans
Ganwyd1894 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1970 Edit this on Wikidata
Sir Aberteifi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadThomas John Evans Edit this on Wikidata

Gohebydd a gweinyddwraig oedd Janet Evans (c. 189411 Rhagfyr 1970) a aned yn Llundain i deulu Cymreig a gymerai ddiddordeb mawr mewn popeth Cymreig a bu'n ohebydd ar faterion Cymreig i nifer o bapurau Llundain.[1]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn 82 Addington Mansions, Highbury, Llundain i'r newyddiadurwr Thomas John Evans a Margaret (neé Davies) a oedd o Geredigion yn wreiddiol. Fe'i haddysgwyd mewn ysgol breifat cyn mynd i'r Central Foundation Girls' School lle mynychodd gyrsiau a gynhelid gan Brifysgol Llundain.[2]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Dysgodd law-fer a theipio a daeth yn ysgrifennydd personol i gyfarwyddwr cwmni allforio Amalgamated Anthracite Collieries Ltd.[3]

Teithiodd droeon ar gyfandir Ewrop ac aeth i America ddwywaith i ymweld â pherthnasau a darlithio i sefydliadau Cymreig. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd gweithiodd gyda'r B.B.C. yn Evesham, yn gwrando ar ddarllediadau Saesneg o wledydd tramor. Teithiodd trwy lawer o Gymru wrth ei gwaith fel Woman Power Officer Cymru rhwng 1942 a 1945.[4] Darlledai'n aml yng nghyfres 'Gwraig y tŷ', Woman's Hour a rhaglenni radio eraill rhwng c. 1947-54. Cymerodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol Cymry Llundain. Hi oedd y wraig gyntaf i fod yn gadeirydd Cymdeithas Cymry Llundain, a'r gyntaf i gael ei hethol yn aelod o gyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Ceredigion Llundain a bu'n is-olygydd Llawlyfr y Gymdeithas rhwng 1936-39, a bu'n olygydd am bum mlynedd pan ailgychwynnwyd y cylchgrawn yn 1952. Ar ôl ymddeol i Geredigion bu farw'n ferch weddw ar Ddiwrnod Llywelyn (11 Rhagfyr 1970) a chladdwyd ei llwch ym mynwent Capel Erw, Cellan.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Arlein; LlGC; adalwyd 24 Ebrill 2016.
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; LlGC; adalwyd 24 Ebrill 2016.
  3. The Cambrian News , 25 Dec. 1970.
  4. stdavidsdayinlondon.com; Archifwyd 2016-04-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd Mawrth 2016
  5. welshjournals.llgc.org.uk; adalwyd 24 Ebrill 2016.