Janet Achurch

Oddi ar Wicipedia
Janet Achurch
GanwydJanet Sharp Edit this on Wikidata
17 Ionawr 1863, 1864 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1916 Edit this on Wikidata
Ventnor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodCharles Charrington Edit this on Wikidata

Roedd Janet Achurch (17 Ionawr 1864 - 11 Medi 1916) yn actores lwyfan ac actor-reolwr Seisnig. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Llundain ym 1883. Chwaraeodd lawer o rolau Shakespeare ond mae'n fwyaf adnabyddus fel arloeswr rolau mawr yng ngweithiau Ibsen a George Bernard Shaw. Ei rôl fwyaf nodedig oedd fel Nora yn y cynhyrchiad Saesneg cyntaf o Et Dukkehjem (Tŷ Dol) (1889). Roedd hi'n briod â'r actor Charles Charrington.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ei enw genedigol oedd Janet Sharp ac fe aned yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, bu farw ei mam yn ystod ei genedigaeth a chafodd ei magu gan ei thad William Prior Sharp, asiant yswiriant. Roedd ei nain a thaid mamol, James a Mary Achurch, yn rheoli'r Theatre Royal ym Manceinion. Daeth yn actores ar ôl dod â’i haddysg i ben ym 1881 ac ymuno â chwmni stoc Sarah Thorne ym Margate.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd ymddangosiad cyntaf Janet Achurch ar y llwyfan ym 1883 yn Theatr yr Olympic yn Llundain yn y ffars Betsy Baker. O 1883 hyd ei hymddeoliad ym 1913, ymddangosodd mewn ystod eang o rolau, yn Llundain, gan deithio o amgylch Lloegr, yn ogystal ag Awstralia, Seland Newydd, Tasmania, India a'r Aifft. Bu yn rhan o gwmni Frank Benson bu'n gyfrifol am Ŵyl Shakespeare o 1886 i 1916. Chwaraeodd roliau merched cryfaf Shakespeare gan gynnwys yr Arglwyddes Macbeth, Portia, Desdemona a Beatrice.[3] Ym 1889 cymerodd reolaeth ar y Novelty Theatre, Llundain. Y flwyddyn honno chwaraeodd un o'i rolau mwyaf nodedig fel Nora yn y première Seisnig o Et Dukkehjem (Tŷ Dol) gan Ibsen Fe wnaeth hyn wella ei enwogrwydd ei hun yn ogystal â safle Ibsen yn Lloegr.

Ysgrifennodd George Bernard Shaw rôl deitl ei ddrama Candida gyda hi mewn golwg ar gyfer y brif ran a byddai ond yn caniatáu i'r ddrama gael ei pherfformio pe bai Achurch yn chwarae rôl y teitl, a ddigwyddodd ym 1897 yn Theatr Ei Mawrhydi. Ym 1889, yn ystod ei thaith gyda'i gŵr, yr actor Charles Charrington yn yr Aifft, esgorodd ar blentyn marw-anedig yn Cairo, a bu bron â marw ei hun yn ystod yr enedigaeth. Arweiniodd ei hymgais i liniaru poen meddyliol y digwyddiad at ddibyniaeth ar forffin.

Ymddeoliad a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Roedd ei pherfformiad olaf ym 1913 fel Merete Bery yn The Witch gan Wiers-Jenssen. Oherwydd blinder a salwch, cyhoeddodd ei hymddeoliad cyn gynted ag y daeth y cynhyrchiad i ben. Bu farw o "wenwyn morffin" ar 11 Medi 1916, yn 52 mlwydd oed, yn Ventnor, Ynys Wyth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]