Jane Hughes (Deborah Maldwyn)
Gwedd
| Jane Hughes | |
|---|---|
| Ffugenw | Deborah Maldwyn |
| Ganwyd | 1811 Pontrobert |
| Bu farw | 1878 Porthmadog |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
| Blodeuodd | 1840 |
Bardd Cymraeg oedd Jane Hughes (25 Mehefin 1811 – 1878), a fu'n adnabyddus i'w chyfoeswyr wrth ei henw barddol Deborah Maldwyn.[1][2]
Roedd hi'n un o ferched John Hughes (1775-1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur, a'i wraig Ruth Evans a fu'n forwyn yn Nolwar Fach, cartref yr emynyddes Ann Griffiths. Fe'i ganed ym Mhontrobert, Maldwyn, Powys yn 1811.[1]
Dechreuodd Jane grwydro Cymru ar ddiwedd y 1850au wedi marwolaeth ei rhieni. Roedd hi'n dilyn sasiynau'r Methodistiaid ac yn ennill ei bywoliaeth drwy werthu ei baledi crefyddol. Daeth yn bur adnabyddus ym myd Methodistiaid Cymru. Cyhoeddodd lawer o gerddi ar daflenni baledi a chyhoeddwyd dau gasgliad sylweddol o'i cherddi yn 1877.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Yr Epha Lawn o Ymborth Ysprydol (1877)
- Telyn y Cristion (1877)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
- ↑ James, E. Wyn (2021). "“Montgomeryshire Worthies”: biographical dictionary entries for John Davies (Tahiti), Ann Griffiths, and the Hughes family of Pontrobert". Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd/Historical Society of the Presbyterian Church of Wales) 45: 93-94.