James Rodríguez

Oddi ar Wicipedia
James Rodríguez

Rodríguez yn chwarae dros Colombia yng Nghwpan y Byd 2014
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJames David Rodríguez Rubio
Dyddiad geni (1991-07-12) 12 Gorffennaf 1991 (32 oed)
Man geniCúcuta, Colombia
Taldra1.80m
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolReal Madrid
Rhif10
Gyrfa Ieuenctid
1995–2007Envigado
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2007–2008Envigado Fútbol Club30(9)
2008–2010Banfield42(5)
2010–2013Porto63(25)
2013-2014AS Monaco FC34(9)
2014-Real Madrid24(11)
Tîm Cenedlaethol
2007Colombia dan 1711(3)
2011Colombia dan 205(3)
2011–Colombia27(11)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 22 Awst 2014.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 22 Awst 2014

Pêl-droediwr o Colombia yw James Rodríguez (ganwyd James David Rodríguez Rubio ar 12 Gorffennaf 1991), sy'n chwarae i AS Monaco yn Ligue 1 yn Ffrainc ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Colombia.

Dechreuodd ei yrfa gydag Envigado FC yn ail adran Colombia cyn arwyddo i Club Atlético Banfield yn Yr Ariannin yn 2008. Wedi dau dymor yn Yr Ariannin, dechreuodd ddenu sylw clybiau Ewrop gydag Udinese o'r Eidal yn cael cynnig o €5m wedi ei wrthod gan yr Archentwyr[1].

Ond ar 6 Gorffennaf 2010 arwyddodd Rodríguez i FC Porto o Bortiwgal am €5.1m[2]. Llwyddodd i ennill tair pencampwriaeth Primeira Liga a Chynghrair Europa 2010-11 ym Mhortiwgal cyn symud i AS Monaco am €45m ar 24 Mai 2013 lle'r roedd yn ymuno â'i gyda chwaraewr o Golombia, Radamel Falcao[3].

Yn 2014 llwyddodd i ennill yr Esgid Aur yng Nghwpan y Byd gyda 6 gôl ac ar 22 Gorffennaf cyhoeddodd Real Madrid eu bod wedi ei arwyddo o Monaco am ffi o €80m.[4].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rechazan oferta de 5 millones de euros por James Rodríguez | 20100215". Caracol.com.co. 2013-11-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 2014-06-29.
  2. "Comunicado James Rodriguez" (PDF). FC Porto (yn Portuguese). 2010-07-06.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Monaco pay €70 million for Porto pair". Goal.com. Text "date2013-05-24" ignored (help)
  4. "James Rodriguez: Real Madrid sign Monaco forward". 2014-07-22. Unknown parameter |published= ignored (help)


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.