James Redmond

Oddi ar Wicipedia
James Redmond
Ganwyd24 Tachwedd 1971 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Clifton Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cyflwynydd, cyflwynydd teledu, actor teledu Edit this on Wikidata

Mae James William Forbes Redmond (ganed 24 Tachwedd 1971) yn actor Seisnig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Cliffton. Ar hyn o bryd, mae'n byw ym Mryste.

Daeth Redmond yn enwog pan ddechreuodd fodeli yn Ebrill 1994, wedi iddo gael ei ddarganfod gan chwiliwr modelau ar gyfer Calvin Clein ym Milan. Ar ôl nifer o flynyddoedd fel model, penderfynodd ddilyn gyrfa ar y sgrîn fach. Ymddangosodd ar gyfres o hysbysebion ac yna derbyniodd ran ar gyfer Sianel 4, "Hollyoaks".

Ar ôl cyfnod aflwyddiannus yn cyflwyno SMTV Live ar ITV, derbyniodd ran yn y gyfres ddrama nwydus, "Mile High". Daeth yn fwy enwog am chwarae rhan John 'Abs' Denham yn nrama meddygol y BBC, "Casualty". Ers hynny, mae ef gadael y gyfres a gwelwyd ei berfformiad olaf ar y 18fed o Hydref 2008.

Gwaith teledu nodedig[golygu | golygu cod]

  • Hollyoaks (2000-2003)
  • Movin' On (2001)
  • SMTV Live (2003)
  • Mile High (2003)
  • Casualty (2003-2008)
  • Soccer AM (2006)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]