James Hughes (Iago Trichrug)

Oddi ar Wicipedia
James Hughes
FfugenwIago Trichrug Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Gorffennaf 1779 Edit this on Wikidata
Ciliau Aeron Edit this on Wikidata
Bu farw2 Tachwedd 1844 Edit this on Wikidata
Rotherhithe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd James Hughes (lago Trichrug) (3 Gorffennaf 17792 Tachwedd 1844) yn Weinidog yr Efengyl gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn Llundain ac yn fardd.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Iago Trichrug yn y Neuadd Ddu, Ciliau Aeron; nepell o fryn Trichrug y cymerodd ei enw barddol ohono. Roedd yn fab i Jenkin Hughes, (Siencyn y gof) ac Elen merch Rhys y crydd, ei ail wraig. Bu farw ei mam pan oedd Iago yn flwydd oed a chafodd ei fagu am ychydig gan ddwy fodryb weddw. Ychydig wedyn priododd Siencyn y gof am y drydedd waith i ferch oedd ganddi dri o blant. Symudodd Iago a'r pedwar hanner brodyr a chwiorydd o'r briodas gyntaf i fyw atynt. Oherwydd bod gormod o blant i'w magu danfonwyd plant y wraig newydd allan i weini, rhywbeth a achosodd anghydfod rhwng Iago a'i fam wen. Peth arall oedd yn codi anghydfod yn y teulu oedd hoffter Siencyn y gof o gwrw. Pan oedd Iago tua 15 mlwydd oed penderfynodd Siencyn a rhai o'i gyfeillion, yn eu diod, i fudo i'r America ac ni chlywodd y mab air o sôn amdano wedyn.[2]

Derbyniodd lago Trichrug rhywfaint o addysg elfennol rhwng 7 a 10 oed mewn ysgol ddyddiol Cymraeg oedd yn cael ei gadw yn eglwys Trefilan gan Dafydd Gruffydd o Dal y Fan. Wedi hynny fu i nifer o ysgolion lle fu'n ceisio dysgu Saesneg a Lladin heb fawr o lwyddiant.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi cyfnod yn gweithio fel gwas fferm symudodd Iago Trichrug i Lundain ym 1799. Yn Llundain fu'n gweithio fel gof cyn symud i weithdy cynhyrchu angorau yn Deptford, gan aros yno am 21 mlynedd.[4]

Roedd wedi gwrando ar bregethau gan yr Annibynwyr a'r Arminiad yng Nghiliau Aeron ac wedi ymuno a'r Methodistiaid Calfinaidd yno ym 1797 ond heb fawr rwymiad at achos crefydd. Pan geisiodd symud ei aelodaeth eglwysig i achos Gymraeg yn Llundain, wedi dwy flynedd o fyw yn y ddinas, cafodd ei ddwrdio gan John Elias, a oedd yn ymweld â'r achos, am ei fywyd afradlon a'i ddiffyg ymrwymiad. Roedd Iago'n flin efo John Elias am ei eiriau cas, ond mae'n raid eu bod wedi cael effaith gan ei fod wedyn yn ymroi i fywyd y capel. Ym 1808 cafodd ei godi yn un o flaenoriaid Capel Deptford ac ym 1810 dechreuodd bregethu. Ym 1816 fe'i hordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llangeitho gan wasanaethu cynulleidfaoedd y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain am weddill ei oes. Ym 1823 rhoddodd gorau i'w gwaith fel gwneuthurwr angorau er mwyn ddod yn weinidog ar gapel Methodist newydd Jewin am £80 y flwyddyn.[5]

Bardd a llenor[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth yn ei ieuenctid. Roedd yn hunan addysgedig yn y grefft, gan ddysgu trwy fenthyg llyfrau barddoniaeth ac am farddoniaeth gan gymdogion a chydnabod yn ardal Ciliau Aeron. Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi yn Seren Gomer ac roedd ei gyfieithiadau o gerdd Thomas Grey Bard a cherdd Robert Blair Grave yn hynod boblogaidd fel darnau adrodd yn ei ddydd.

Ei brif waith llenyddol, serch hynny, oedd ei Sylwebaeth ar y Testament Newydd mewn dwy gyfrol, a ddaeth yn llyfr cartref yn y mwyafrif o deuluoedd Methodistaidd Cymru. I lawer, ystyriwyd bod barn Jâms Huws yn awdurdod terfynol. Dechreuodd y gwaith ym 1829, a'i gyhoeddi ym 1835. Gwerthwyd wyth mil o gopïau mewn cyfnod byr, a ystyriwyd yn llwyddiant mawr. Bu llwyddiant ei gyhoeddiad yn sbardun iddo baratoi sylwebaeth debyg ar yr Hen Destament. Cyrhaeddodd y 35ain bennod o Lyfr Jeremeia pan roddodd marwolaeth ddiwedd ar ei lafur. Diweddwyd y gwaith gan y Parch. Roger Edwards.[2]

Cynhwyswyd nifer o'i emynau yn y llyfrau emynau enwadol ac mae dau o hyd yng Nghaneuon Ffydd, y llyfr emynau cyd-enwadol a ddisodlodd y rhai enwadol yn 2001.[6]

Rhif 163:

Cyduned Seion lan
mewn cân bereiddia’i blas
o fawl am drugareddau'r Iôn
ei roddion ef a'i ras

a rhif 297:

Mae enw Crist i bawb o'r saint
fel ennaint tywalltedig
ac yn adfywio iawn ei rin
i'r enaid blin, lluddedig

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Martha Griffiths ym 1807 cawsant dri o blant.[2]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Iago Trichrug

Bu farw yn ei gartref yn Rotherhithe, Llundain, yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bunhill Fields.

Cyhoeddwyd cofiant iddo ym 1911 James Hughes: Sef Cyfrol goffa Yr Hybarch Esboniwr James Hughes (Iago Trichrug), Llundain, yn cynnwys ei fywgraffiad, a detholiad o'i weithiau barddonol a rhyddieithol gan John Evan Davies, (Rhuddwawr).[7] Cyhoeddwyd astudiaeth o'i fywyd a'i gwaith yng Nghyfres Llen y Llenor yn 2007 James Hughes - Iago Trichrug gan Robert Rhys.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Roberts, G. M., (1953). HUGHES, JAMES (‘Iago Trichrug’; 1779 - 1844), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd, ac esboniwr Beiblaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 12 Chwefror 2020
  2. 2.0 2.1 2.2 Evans, Joseph (1907). Biographical dictionary of ministers and preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body: or Presbyterians of Wales; from the start of the denomination to the close of the year 1850 - James Hughes (Iago Trichrug). Carnarvon, [Wales] : D. O'Brien Owen, C. M. Book Agency.
  3. Cymru - Cyf. 56, 1919 Iago Trichrug gan Daniel Thomas
  4. "Hughes, James [pseud. Iago Trichrug] (1779–1844), Welsh Calvinistic Methodist minister | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/14076. Cyrchwyd 2020-02-12.
  5. Y Traethodydd – James Hughes (Iago Trichrug) gan Gomer M Roberts
  6. Caneuon ffydd. [Cymru]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. 2001. ISBN 1-903754-00-3. OCLC 50653939.
  7. "Formats and Editions of James Hughes : sef cyfrol goffa yr hybarch esboniwr James Hughes (Iago Trichrug), Llundain, yn cynnwys ei fywgraffiad, a detholiad o'i weithiau barddonol a rhyddiaethol [WorldCat.org]". www.worldcat.org. Cyrchwyd 2020-02-12.
  8. Rhys, Robert. (2007). James Hughes ('Iago Trichrug'). Caernarfon: Gwasg Pantycelyn. ISBN 978-1-903314-79-1. OCLC 190861283.