James Hughes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
James Hughes
Grave of James Hughes, Iago Trichrug - geograph.org.uk - 776589.jpg
Ganwyd 1779 Edit this on Wikidata
Ciliau Aeron Edit this on Wikidata
Bu farw 1844 Edit this on Wikidata
Deptford Edit this on Wikidata
Man preswyl Deptford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth pregethwr, awdur geiriau, emynydd, Bardd Edit this on Wikidata

Pregethwr, esboniwr, emynydd a bardd oedd James Hughes (1779-1844). Fe'i hadnabyddir hefyd wrth ei enw barddol Iago Trichrug. Fe'i ganwyd yng Nghiliau Aeron yng Ngheredigion.

Cafodd fagwraeth anodd ar ôl colli ei fam yn ifanc, a gweld ei dad yn ymfudo i America. Fe'i prentisiwyd fel gof. Yn 1799 symudodd i Lundain fel lawer o bobl ei ardal, ac yno y bu weddill ei ddyddiau. Gweithio mewn iard longau yn Deptford a wnaeth ar ôl cyrraedd Llundain. Ymhen tipyn dechreuodd bregethu a dod yn un o arweinwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain. Prif lafur ei fywyd oedd ei Esboniad o'r Beibl. Daeth Esboniad James Hughes yn un hynod boblogaidd a dylanwadol yng Nghymru'r 19g. Roedd yn emynydd gloyw, a chenir rhai o'i emynau, e.e. 'Cyduned Seion Lân' o hyd. Roedd yn barddoni hefyd yn y mesurau caeth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Robert Rhys James Hughes 'Iago Trichrug Cyfres Llên y Llenor (2007). Mae'r gyfrol hon yn cynnwys llyfryddiaeth lawn o weithiau James Hughes.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 23 Tachwedd 2018.