Neidio i'r cynnwys

James Hill (cyfarwyddwr Prydeinig)

Oddi ar Wicipedia
James Hill
Ganwyd(1919-08-01)1 Awst 1919
Eldwick, Swydd Efrog, Lloegr
Bu farw7 Hydref 1994(1994-10-07) (75 oed)
Llundain, Lloegr
Llysenw/auJimmy Hill
Adnabyddus amBorn Free, Owain Glyndŵr
Gwobr/auDistinguished Flying Cross (United Kingdom) Academy Award; Berlin International Film Festival

Cyfarwyddwr ffilm a theledu o Loegr oedd James Hill (1 Awst 19197 Hydref 1994) oedd hefyd yn adnabyddus fel ysgrifennwr sgrin a chynhyrchydd. Parhaodd ei yrfa am 52 mlynedd rhwng 1937 a 1989, ac fe'i cofir orau am ei raglenni dogfen ac fel cyfarwyddydd y ffilm enwog ryngwladol Born Free. Ef hefyd oedd cyfarwyddwr y ffilm Gymraeg gyntaf i'w dangos ar S4C, Owain Glyndŵr.

Bu hefyd yn ymwneud â nifer o ffilmiau eraill, unai fel cyfarwyddydd, awdur neu gynhyrchydd gan gynnwys Black Beauty, A Study in Terror, Every Day's a Holiday, The Lion at World's End, Captain Nemo and the Underwater City, The Man from ORGY, a'r cyfresi teledu i blant Worzel Gummidge a Worzel Gummidge Down Under .

Bywyd a gwaith

[golygu | golygu cod]

Gyrfa gynnar

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Eldwick, Swydd Efrog ar 1 Awst 1919 a mynychodd Ysgol Bechgyn Belle Vue. Bu'n gweithio fel cynorthwydd ffilm i'r Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1937, a gwasanaethodd yn Uned Ffilm yr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan dderbyn y Distinguished Flying Cross [DFC].[1]

Un o'i ffilmiau mwyaf cofiadwy oedd Born Free ym 1965, ffilm lwyddiannus ryngwladol gyda Bill Travers a Virginia McKenna yn serennu, yn seiliedig ar y llyfr hunangofiannol gan Joy Adamson am Elsa y Llewes.

Yn y degawdau dilynol, cofir Hill orau am Captain Nemo and the Underwater City (1969), Black Beauty (1971), The Belstone Fox (1973), The young visitors (1984), ac am y ddwy gyfres deledu i blant Worzel Gummidge a Worzel Gummidge Down Under, y cyfarwyddodd, ysgrifennodd a/neu gynhyrchodd bron pob un ohonynt.

Cyfarwyddodd y ffilm Gymraeg Owain Glyndŵr ym 1982.

Priodas a marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Priododd James Hill â Lucienne Hill (30 Ionawr 1923 – 29 Rhagfyr 2012). [2] Bu farw yn Llundain ar 7 Hydref 1994, yn 75 oed. [3]

Ffilmograffeg ddethol

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Fel
1949 A Journey for Jeremy cyfarwyddydd
1952 The Stolen Plans cyfarwyddydd, awdur
1953 The Clue of the Missing Ape cyfarwyddydd, awdur
1955 The New Explorers cyfarwyddydd
1960 Giuseppina cyfarwyddydd, cynhyrchydd, wawdur
1961 The Kitchen cyfarwyddydd
1961 Lunch Hour cyfarwyddydd
1962 The Dock Brief cyfarwyddydd
1963 The Home-Made Car cyfarwyddydd, awdur, cynhyrchydd
1964 Every Day's a Holiday cyfarwyddydd, awdur
1964 The Golden Head cyd-gyfarwyddydd
1965 A Study in Terror cyfarwyddydd
1965 Born Free cyfarwyddydd
1967 The Lions Are Free cyfarwyddydd, awdur, cynhyrchydd
1967 Die Hölle von Macao/The Corrupt Ones cyfarwyddydd
1967 An Elephant Called Slowly cyfarwyddydd, awdur, cynhyrchydd
1969 Captain Nemo and the Underwater City cyfarwyddydd
1970 The Man from O.R.G.Y. cyfarwyddydd
1971 The Lion at World's End awdur a chynhyrchydd
1971 Black Beauty cyfarwyddydd, awdur
1973 Jane Goodall and the World of Animal Behavior: The Wild Dogs of Africa producer
1973 The Belstone Fox cyfarwyddydd, awdur
1975 The Man from Nowhere cyfarwyddydd
1976 London Conspiracy cyfarwyddydd
1979–1981 Worzel Gummidge cyfarwyddydd, cynhyrchydd
1980 The Wild and the Free cyfarwyddydd
1983 Owain Glendower, Prince of Wales (TV) cyfarwyddydd, awdur
1984 The Young Visiters cyfarwyddydd, awdur
1987–1989 Worzel Gummidge Down Under cyfarwyddydd, awdur

Gwobrau

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Statws Gwobr Categori
1960 Ennill Gwobrau'r Academi Y Ddogfen Orau, Giuseppina (1960)
1963 Ennill Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin :

Silver Bear

Gwobr arbennig : The Home-Made Car (1963)
1963 Enwebwyd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin :

Gwobr Ffilm i'r Ifanc

Ffilm Orau i'r Ieuenctid: The Home-Made Car (1963)
1964 Enwebwyd Gwobrau'r Academi Y Ffilm Fer Orau: The Home-Made Car (1963)
1967 Enwebwyd Directors Guild of America:

Gwobr DGA

Gwobr am Gyflawniad Rhagorol i Gyfarwyddwr mewn Ffilm: Born Free (1966)
1980 Enwebwyd BAFTA TV Award Worzel Gummidge (1979)
1981 Enwebwyd BAFTA TV Award Worzel Gummidge (1979)
1982 Enwebwyd BAFTA TV Award Worzel Gummidge (1979)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Chatten, Richard (11 October 1994). "Obituary: James Hill". The Independent. London. Cyrchwyd 5 May 2010.
  2. Coveney, Michael (17 January 2013). "Lucienne Hill obituary". The Guardian.
  3. FOLKART, BURT A. (15 October 1994). "James Hill; 'Born Free,' 'Avengers' Director Was 75". Los Angeles Times.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]