James Herbert Cory

Oddi ar Wicipedia
James Herbert Cory
Ganwyd2 Chwefror 1857, 7 Chwefror 1857 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1933, 7 Chwefror 1933 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJohn Cory Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Hoskin Wills, Elizabeth Cansh Walker Edit this on Wikidata
PlantSir Herbert George Donald Cory, 2nd Bt., Edith Winifred Cory, Frederick Harold Cory, Edward Douglas Cory, Francis Oswald Cory, Jessie Rosalie Cory, Carmen Cory Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Roedd Syr James Herbert Cory, barwnig 1af (7 Chwefror 18577 Chwefror 1933) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Caerdydd rhwng 1915 a 1918 ac AS Unoliaethol De Caerdydd rhwng 1918 a 1923.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cory yn Lannwedhenek, Cernyw yn fab i John Cory perchennog cwmni llongau a Mary ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn ysgol Trerigoni, Cernyw.

Priododd ddwywaith; ym 1879 priododd Elizabeth Hosking Wills merch George Hosking o Bideford, Dyfnaint; bu hi farw ym 1908[2] Bu iddynt 4 mab ac 1 merch. Ym 1910 priododd ei ail wraig, Elizabeth Cansh, merch Alexander Walker o Irbhinn, gogledd swydd Ayr.[3] bu iddynt dwy ferch.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd dau deulu o ddiwydianwyr o’r enw Cory yn masnachu yn Sir Forgannwg o ganol y 18g ac mae’n hawdd eu cymysgu. Sefydlwyd cwmni Cory Brothers and Company ym 1832 gan Richard Cory[4] , doedd gan y cwmni a’r teulu hon dim cysylltiad â theulu Herbert Cory. Sefydlwyd cwmni John Cory and Sons Limited ym 1872 gan Herbert, John ei dad a John ei frawd wedi iddynt symud o Gernyw i Gaerdydd er mwyn bod yn berchnogion llongau. Erbyn i John Cory yr hynaf marw ym 1891 roedd y cwmni yn berchen ar 21 o agerlongau gyda thri arall yn cael eu hadeiladu i’r cwmni. Erbyn i’r ddau frawd marw yn y 1930au roedd dros 30 o is-gwmnïau yn perthyn i’r fam gwmni.[5]

Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar fainc Sir Forgannwg.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar 2il Hydref 1915 lladdwyd AS Ceidwadol Caerdydd, yr Arglwydd Ninian Crichton-Stuart yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn unol â threfniant a wnaed rhwng y pleidiau ar gyfer cyfnod y rhyfel, ni fu etholiad i ddewis aelod newydd. Dewiswyd yr AS newydd gan aelodau plaid y diweddar aelod. Yn achos Caerdydd, dewisodd y Ceidwadwyr Cory i gynrychioli’r etholaeth yn y Senedd.

Ar ddiwedd y rhyfel byd diddymwyd etholaeth Caerdydd a safodd Cory yn etholaeth newydd De Caerdydd gan ei gipio. Llwyddodd i gadw’r sedd yn etholiad 1922 ond fe gollodd i’r ymgeisydd Lafur Arthur Henderson yn etholiad cyffredinol 1923.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Forgannwg ym 1913 ac fe’i hurddwyd yn farwnig ym 1919.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ar ddydd ei 76 pen-blwydd. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym Mynwent Cathays Caerdydd. Fe’i holynwyd yn y farwnigaeth gan ei fab Herbert George Donald Cory.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ‘CORY, Sir (James) Herbert’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014, adalwyd 4 Medi 2017]
  2. "DEATHOFMRSHERBERTCORY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-02-03. Cyrchwyd 2017-09-04.
  3. "FORTHCOMINGMARRIAGEOFMRJHERBERTCORY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-03-18. Cyrchwyd 2017-09-04.
  4. Y Bywgraffiadur CORY (Cory Brothers and Company Limited ) adalwyd 4 Medi 2017
  5. Y Bywgraffiadur CORY (John Cory and Sons Limited ) adalwyd 4 Medi 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arglwydd Ninian Crichton-Stuart
Aelod Seneddol Caerdydd
1915-1918
Olynydd:
diddymu’r sedd
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Sedd newydd
Aelod Seneddol De Caerdydd
1915-1918
Olynydd:
Arthur Henderson