James Davies (gwleidydd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth James Davies (politician))
Jump to navigation Jump to search

Crynodeb[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd James Michael Davies yn gyn-aelod seneddol Toriaid. Yn etholiad 2015, cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol (AS) ar gyfer Dyffryn Clwyd gyda 39% o'r bleidlais, o flaen yr aelod presennol, Chris Ruane a gafodd 38.4% o'r bleidlais. Daliodd Ruane y sedd am 18 mlynedd ond enillodd Davies o 237 pleidlais.

Yn etholiad brys 2017, daeth tro ar fyd, gyda James Davies yn colli i Chris Ruane o 2,379 gyda Llafur yn ennill 50.4% o'r bleidlais.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Davies yn Llanelwy o fewn ei etholaeth, sydd yn gallu rhoi ei linach yn yr ardal o saith cenhedlaeth. Cafodd ei addysgu yn breifat yn Ysgol y Frenin, Caer. Mae'n feddyg sydd yn arbenigo mewn dementia. Cafodd Davies ei ethol i Gyngor Prestatyn yn 2004. Mae'n briod gyda Nina ac mae ganddynt ddau fab.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Chris Ruane
Aelod Seneddol dros Dyffryn Clwyd
2015 – 2017
Olynydd:
Chris Ruane