James Childs Gould

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd James Childs Gould (9 Medi 1882 - 2 Gorffennaf 1944) yn ddiwydiannwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Caerdydd Canolog rhwng 1918 a 1924.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Gould yng Nghaerdydd yn fab i Richard Gould, saer maen a’i ach yn Nyfnaint[1].

Cafodd ei addysgu yn yr Higher Grade School, Caerdydd[2]

Ym 1908 priododd May B. Flagg, o Grand Manan, New Brunswick.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymadawodd Gould a’r ysgol yn 14 mlwydd oed gan ddechrau gweithio am 4 swllt yr wythnos.

Ym 1901 cafodd swydd fel morwr cyffredin ar y llong Clan Graham, hwyliodd i Dde Affrica lle bu’n gweithio fel labrwr tameidiog; symudodd o Dde’r Affrica i Efrog Newydd lle fu’n gweithio i gwmni yswiriant.[3]

Ym 1912 agorodd ei gwmni yswiriant ei hun yn Llundain gyda swyddfeydd yng Ngwlad Belg a’r Almaen. Daeth y busnes i ben cyn pen blwyddyn ac enillodd Gould dyfarniad o £20,000 yn erbyn partner iddo yn Efrog Newydd am gamliwiad [4]

Ym 1915, gyda chyfalaf o £200 ymrwymodd Gould i brynu’r llong SS Dartsmouth am £36,000. O herwydd yr angen am longau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gludo milwyr a nwyddau bu’r fenter yn hynod lwyddiannus gan ddod a chyfalaf i Gould a’i gwmni, Goulds Steamships & Industrials Ltd o £60,000 o fewn 6 mis. Ail fuddsoddodd yr elw gan brynu llynges a busnes adeiladu llongau gwerth £1,000,000. Erbyn diwedd y Rhyfel amcangyfrifid bod ffortiwn bersonol Gould tua £2 miliwn. Wedi’r rhyfel bu dirwasgiad mawr yn y sector morwrol, gyda nifer y cwmnïau llongau yng Nghaerdydd yn syrthio o 150 i 77; aeth cwmni Gould i fethdaliad gyda dyledion o dros £750,000 ym mis Mai 1925 [5]. Ym mis Mawrth 1926 cafodd ei ryddhau o’i fethdaliad ar amod o dalu £50,000 tuag at ei ddyledion [6]. Methodd i dalu’r £50,000 a chafodd ei wneud yn fethdalwr eto ym 1933 [7]. Cafodd ei ddyfarnu’n rhydd o’r ail fethdaliad, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, ym mis Mehefin 1934[8]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Gould yn aelod o Gyngor Dinas Caerdydd rhwng 1917 a 1918. Safodd yn enw ‘’Plaid yr Unoliaethwr’’ (y Blaid Geidwadol, i bob pwrpas) yn etholiadau 1918, 1922[2] a 1923 gan ennill yn etholaeth Caerdydd Canolog. Gan fod ei ddyledwyr yn ymgynnull, ac nad oedd modd i fethdalwr bod yn Aelod Seneddol, penderfynodd beidio ag ymladd etholiad 1924, a daeth ei gyrfa Seneddol i ben.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn Culsdon, Sussex yn 62 mlwydd oed[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Obituary. Times (London, England) 6 Mehefin 1944: 7. The Times Digital Archive. adalwyd 21 Awst. 2017
  2. 2.0 2.1 2.2 Debretts 1922 adalwyd 21 Awst 1917
  3. 3.0 3.1 Manchester Evening News 06 Gorffennaf 1944; Tud 3, Colofn 3, Millionaire Shipbuilder, Twice bankrupt, Dies
  4. Court of Bankruptcy. Daily Telegraph, 16 Dec. 1925, tud. 17. The Telegraph Historical Archive. Adalwyd 21 Awst 2017
  5. David Jenkins Shipowners of Cardiff: A Class by Themselves Gwasg Prifysgol Cymru 2013
  6. Sheffield Daily Telegraph 13 Mawrth 1926; tud 5, colofn 7; Condition of discharge of ex MP from bankruptcy
  7. Yorkshire Evening Post 08 Medi 1933; Tud 4, Colofn 6, Ex Millionaire’s Failure
  8. Portsmouth Evening News 28 Mehefin 1934; tud 8, colofn 5 Mr J C Gould’s Finances
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Caerdydd Canolog
19181924
Olynydd:
Lewis Lougher