James Boswell
| James Boswell | |
|---|---|
Portread o James Boswell gan Syr Joshua Reynolds (1785). | |
| Ganwyd | 29 Hydref 1740 Caeredin |
| Bu farw | 19 Mai 1795 Llundain |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | dyddiadurwr, ysgrifennwr, cyfreithiwr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The Life of Samuel Johnson |
| Tad | Alexander Boswell |
| Mam | Euphemia Erskine |
| Priod | Margaret Boswell |
| Plant | James Boswell, Veronica Boswell, Euphemia Boswell, Alexander Boswell, Elizabeth Boswell, Sally Boswell, Charles Boswell |
Bywgraffydd, dyddiadurwr, a chyfreithiwr o'r Alban oedd James Boswell (29 Hydref 1740 [18 Hydref yn yr Hen Ddull] – 19 Mai 1795) sy'n nodedig am ei gofiant o'i gyfaill Samuel Johnson, Life of Johnson (cyhoeddwyd mewn dwy gyfrol ym 1791), a ystyrir yn un o'r bywgraffiadau gwychaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg.
Ganed ef yng Nghaeredin[1]. Disgynai ei dad a'i fam o deuluoedd urddasol, ac anfonasant ef i astudio'r gyfraith ym mhrifysgolion Glasgow, Caeredin, ac Utrecht. Ar ôl treulio chwe mis yn Utrecht, aeth ar daith ar y Cyfandir, gan ymweld â nfer o wŷr deallus ac enwog yr oes.
Daeth i gydnabyddiaeth gyntaf â'r Dr Johnson ym 1763, ac ymunodd Boswell â chylchoedd llenyddol bywiog Llundain yr oes hon. Derbyniwyd ef yn 1773 i'r Gymdeithas Lenyddol a sefydlwyd gan Johnson, ac aeth gyda Johnson i ymweled ag Ynysoedd Heledd. Cyhoeddodd ei hanes o'r daith honno ym 1785, ac ym 1791 ymddangosodd ei gofiant o Johnson. Aeth y llyfr hwnnw'n fawr ei fri ar uwaith, ac ailgyhoeddwyd ef drachefn a thrachefn. Bu farw Boswell yn Llundain yn 54 oed.
Teulu a bywyd cynnar (1740–63)
[golygu | golygu cod]Adfocad ac arglwydd tir (laird) Auchinleck, yn Swydd Ayr, ers 1749 oedd ei dad Alexander Boswell, a gafodd ei ddyrchafu i'r fainc gyda'r teitl barnwrol Arglwydd Auchinleck ym 1754. Teulu cefnog a dylanwadol ers amser maith oedd ei lwyth, a bu James dan bwysau cryf ei rieni uchelgeisiol. Casâi James yr ysgol ddydd y'i hanfonwyd iddi yn 5 oed, ac o 8 i 13 cafodd ei addysgu yn y cartref gan diwtoriaid.
Astudiodd gwrs y celfyddydau ym Mhrifysgol Caeredin o 1753 i 1758, ac yna dychwelodd i astudio'r gyfraith. Tynnwyd ei sylw gan fyd y theatr, a chwympodd mewn cariad ag actores Gatholig. Credai'r Arglwydd Auchinleck ei bod yn ddoeth i anfon ei fab i Brifysgol Glasgow, lle mynychodd ddarlithoedd yr athronydd ac economegydd Adam Smith. Yng ngwanwyn 1760, ffoes James i Lundain, ac yno daeth yn fuan i sylweddoli ei fod yn hoff iawn o ddiwylliant y ddinas fawr, ac yn ddyn ifanc cymdeithasol, llawn hwyl, ac yn ddeniadol i ferched. Ar yr adeg hon fe ddaliodd gonorea, afiechyd y bu'n rhaid iddo ei ddioddef sawl gwaith yn ystod ei fywyd.
Dychwelodd i Gaeredin, ac o 1760 i 1762 astudiodd Boswell y gyfraith yn ei gartref teuluol dan oruchwyliaeth lem. Ceisiodd ryddhad rhag diflastod mewn cymdeithasu â merched, ysgrifennu, a sefydlu cymdeithas ffraeth o'r enw'r Soaping Club. Nid yw ei weithiau llenyddol cynnar yn rhoi unrhyw awydd o dalent amlwg.
Ar ddiwedd ei astudiaethau, roedd Boswell yn awyddus i ymuno ag un o warchodluoedd y Fyddin Brydeinig, a chytunodd yr Arglwydd Auchileck, os byddai'n pasio'i arholiadau yn y gyfraith sifil, y byddai'n derbyn blwydd-dâl ychwanegol ac yn cael mynd i Lundain i geisio comisiwn. Pasiodd Boswell yr arholiad yng Ngorffennaf 1762. Gan ragweld hapusrwydd mawr, dechreuodd Boswell, yn yr hydref, y dyddiadur a oedd i fod yn fynegiant canolog o'i athrylith.
Ymwelodd Boswell â Llundain am yr eildro o Dachwedd 1762 i Awst 1763. Yn fuan ar ôl iddo gyrraedd, cafodd wybod am eni ei fab yn yr Alban, Charles, a drefnodd iddo gael fedydd Anglicanaidd. Mae'n debyg taw morwyn o'r enw Penny Doig oedd y fam. Yn Llundain cyfarfu Boswell ag Oliver Goldsmith, y nofelydd, dramodydd a bardd, yn ogystal â'r gwleidydd a pholemydd radicalaidd John Wilkes. Ar 16 Mai 1763, ym mharlwr cefn yr actor a'r gwerthwr llyfrau Thomas Davies, cafodd gyflwyniad annisgwyl i Samuel Johnson, yr awdur yr oedd yn edmygu ei weithiau ac yr oedd wedi bod yn ceisio'i gyfarfod ers amser maith. Roedd Johnson yn galed wrtho, ond cadwodd Boswell ei dymer. Aeth i alw wythnos yn ddiweddarach â Johnson, a chafodd ei dderbyn yn ffafriol y tro hwn, gan ddechrau'r cyfeillgarwch enwog. Roedd Johnson yn 53 a Boswell yn 22 yr adeg hon, ac o'r herwydd bu'r ddau ohonynt yn ymddwyn yn nawddolyg braidd ar sail oedran, statws, a thybiaethau o ddeallusrwydd y llall. Fodd bynnag, blodeuai cyfeillgarwch cynhyrchiol a pharchus.
Daeth Boswell i'r casgliad nad oedd gobaith o gyrraedd ei nod o ymuno â'r gwarchodlu, felly ildiodd i ddymuniad ei dad a chytunodd i drin y gyfraith am ei damaid. Trefnwyd iddo dreulio'r gaeaf yn astudio'r gyfraith sifil ym Mhrifysgol Utrecht cyn mynd ar dro yn y Cyfandir—taith gymharol fach yn hytrach na Thaith Fawr.
Teithio Ewrop (1763–66)
[golygu | golygu cod]Yn yr Iseldiroedd fe ddaeth Boswell yn gyfaill i'r nofelydd Isabella van Tuyll van Serooskerken (a adwaenid yn ddiweddarach fel Isabelle de Charrière), a cheisiodd heb lwyddiant berthynas rhamantus. Dylanwadwyd yn gryf ar Boswell gan dduwioldeb Johnson, ac ar Ddydd Nadolig 1763, yng nghapel llysgennad Prydain Fawr yn yr Hâg, fe dderbyniodd y cymun yn Eglwys Loegr am y tro cyntaf. Fodd bynnag, pallodd ei frwydfrydedd crefyddol ar ôl cyfnod, ac wedi iddo gael gwybod am farwolaeth ei fab yn yr Alban dioddefai iselder ysbryd a chafodd hunllefau mynych o gael ei grogi. Digalonwyd ef wrth sylweddoli bod bywyd o afradlondeb yn dod â mwy o hapusrwydd iddo na diweirdeb a gwaith caled, ac yn fuan fe lithrodd yn ôl i'w hen arferion a mercheta.
Teithiodd Boswell o Utrecht i Ferlin yng nghwmni'r Iarll Marischal, hen Jacobydd a oedd yn gyfaill ac ymgynghorydd i Ffredrig Fawr. Er hynny, no lwyddodd Boswell byth i gyfarfod â Ffredrig. Wrth deithio drwy'r Swistir yn Rhagfyr 1764, llwyddodd i gyfweld â Jean-Jacques Rousseau a Voltaire. Treuliodd naw mis yn yr Eidal yn ymweld â golygfeydd a safleoedd hanesyddol. Yn Napoli, bu'n cymdeithasu â John Wilkes, a oedd bryd hynny yn alltud o Brydain, a theithiodd gyda'r Arglwydd Mountstuart, mab hynaf Iarll Bute.
Yn nhymor yr hydref 1765, aeth ar daith chwech wythnos i ynys Corsica i gyfweld â'r Cadfridog Pasquale Paoli, arweinydd gwladgarol a oedd wedi datgan Gweriniaeth Corsica yn annibynnol oddi wrth Genova. Syrthiodd Paoli dan swyn Boswell a daeth yn gyfaill iddo am oes. Ar ôl dychwelyd i'r Eidal, anfonodd Boswell adroddiadau at y papurau newydd, gan gymysgu ffeithiau â dyfaliadau gwleidyddol ei hun.
Gyrfa gyfreithiol (1766–85)
[golygu | golygu cod]Unwaith eto yn yr Alban, derbyniwyd Boswell i Goleg yr Adfocadau ar 26 Gorffennaf 1766, ac am 17 mlynedd bu'n trin y gyfraith yng Nghaeredin yn rheolaidd. Ymwelodd â Llundain pryd bynnag y câi gyfle, bob amser yn ystod y gwyliau hyd at 1784, pan ddaeth ei deithiau'n fwy rheolaidd. Roedd yn gyfreithiwr llys galluog, yn enwedig mewn achosion troseddol, ond yn yr Alban ni ellid ennill na ffortiwn na chlod yn y llys troseddol.
Yn Chwefror 1768 cyhoeddodd An Account of Corsica, The Journal of a Tour to That Island; and Memoirs of Pascal Paoli, ac fe gamodd i fyd yr enwogrwydd. Roedd Ffrainc wedi datgelu ei bwriad i atodi'r ynys, ac roedd pobl yn awchus am wybodaeth am Gorsica a Paoli. Oherwydd cymhellion propaganda, fe'i portreadodd ei hun yn y llyfr fel rhywun hollol naïf, a chwtogodd y daith i ddim ond ffrâm ar gyfer cofiant Paoli, ond mae'r canlyniad yn parhau'n bleserus.
Rhwng 1766 a 1769 diddanodd Boswell ei hun â chynlluniau amrywiol am briodas, tra'n cynnal ar yr un pryd berthynas â Mrs. Dodds ifanc. Ymddengys i'w merch, Sally, farw yn faban, yn union fel Charles. Yn y pen draw priododd Boswell, yn Nhachwedd 1769, ei gefnder gyntaf, Margaret Montgomerie. Yn ystod blynyddoedd cyntaf ei briodas, roedd Boswell ar y cyfan yn hapus, yn gweithio’n galed, yn ffyddlon i’w wraig, ac yn hyderus y câi sedd yn y Senedd, swydd dda yn y llywodraeth, neu o leiaf swydd barnwr yn yr Alban. Ymwelodd Paoli ag ef yn yr Alban yn 1771; yn 1773 fe’i hetholwyd i The Club, y cylch disglair a ffurfiwyd gan Syr Joshua Reynolds o amgylch Dy r Johnson; ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno gwnaeth Johnson y daith enwog i Ynysoedd Heledd gydag ef. Yn y pen draw cafodd Boswell a'i wraig bump o blant iach.
Fe’i penodwyd yn arholwr i Goleg yr Adfocadau ac yn un o guraduron Llyfrgell yr Adfocadau; gwasanaethodd ddwywaith fel meistr Cyfrinfa Canongate Kilwinning y Seiri Rhyddion yng Nghaeredin, a gwrthododd enwebiad i fod yn brif feistr, hynny yw, Saer Rhydd uchaf yr Alban. Ond erbyn 1776 dechreuodd Boswell deimlo arwyddion cryf o fethiant. Roedd ei ymgais ddi-feddwl i ymuno â gwleidyddiaeth Swydd Ayr wedi ei osod yn wrthwynebydd i Henry Dundas, a oedd bryd hynny’n dod i’r amlwg fel meistr gwleidyddol gyda rheolaeth dros etholiadau yn yr Alban. Nid oedd ei ymarfer cyfreithiol yn dod yn fwy nodedig. Dechreuodd yfed yn drwm i adfer ei ysbryd, nid—fel o’r blaen—i’w ryddhau. Dychwelodd at ei hen ymwneud â merched y dref pan oedd wedi’i wahanu oddi wrth ei wraig gan bellter, gan ei beichiogrwydd, neu gan ei chwynion mynych. Mor gynnar â 1778 roedd yn amlwg ei bod hi’n wael iawn â thwbercwlosis.
Rhwng 1777 a 1783 cyhoeddodd Boswell gyfres o 70 o draethodau yn The London Magazine, dan y teitl ystyrlon "The Hypochondriack". Ar ddiwedd 1783, yn y gobaith o ddenu sylw llywodraeth newydd William Pitt, cyhoeddodd bamffled yn ymosod ar Fesur Dwyrain India a gyflwynwyd gan Charles James Fox, prif wrthwynebydd Pitt. Anfonodd Pitt nodyn o ddiolch i Boswell, ond ni wnaeth unrhyw ymdrech i’w gyflogi. Yn sgil marwolaeth ei dad ar 30 Awst 1782, daeth Boswell yn Arglwydd Auchinleck a rheolodd ei stad gyda gofal a rhywfaint o graffter. Ond roedd yn credu mai yn Llundain yn unig y gallai fod yn hapus, ac fe feithrinodd y syniad di-sail y gallai fod yn fwy llwyddiannus ym mar Lloegr nag ym mar yr Alban.
Ei fywyd yn Llundain (1785–95)
[golygu | golygu cod]Bu farw Johnson ar 13 Rhagfyr 1784. Penderfynodd Boswell gymryd ei amser wrth ysgrifennu’r Life of Johnson, ac i gyhoeddi ei ddyddiadur o’r daith i Ynysoedd Heledd fel rhan gyntaf. Yng ngwanwyn 1785 aeth i Lundain i baratoi’r gwaith ar gyfer y wasg, a'r flwyddyn honno cyhoeddwyd The Journal of a Tour to the Hebrides, with Samuel Johnson, LL.D.. Daw o gyfnod mwyaf cadarn a hapus bywyd Boswell; mae naratif y daith yn ddiddorol ynddo’i hun, ac mae’n rhoi inni 101 diwrnod yn olynol yng nghwmni Johnson. Roedd y llyfr yn werthwr gorau, ond fe ysgogodd gyhuddiad dirmygus o ffôl-bersonoldeb a fu’n glynu wrth enw Boswell byth ers hynny.
Ym 1786 cafodd Boswell ei alw i far Lloegr o'r Deml Fewnol a symudodd ei deulu i Lundain. Wedi hynny, prin iawn oedd ei waith cyfreithiol. Ei brif waith oedd ysgrifennu'r Life, a bu’n gweithio arno’n afreolaidd ond gyda sylw pryderus.
Er ei fod dan bwysau ariannol, rhoddodd Boswell addysg ddrud i’w blant. Dim ond unwaith yr ymwelodd â Chaeredin ar ôl symud i Lundain, a hyd yn oed bryd hynny bron yn ddirgel. Roedd ei wraig yn hiraethu am Auchinleck ac yn mynnu cael ei chymryd yno pan ddaeth ei hiechyd yn enbyd. Teimlai Boswell fod yn rhaid iddo aros yn Llundain er mwyn gorffen y Life ac i fod ar alwad Iarll Lonsdale, a oedd wedi rhoi anogaeth annisgwyl iddo ac wedi peri iddo gael ei ethol yn gofrestrydd Carlisle. Pan fu farw ei wraig ar 4 Mehefin 1789, nid oedd wrth ei hochr; a phan geisiodd ymbellhau oddi wrth Lonsdale, cafodd ei drin â chreulondeb syfrdanol.
Cyhoeddwyd The Life of Samuel Johnson, LL.D. mewn dwy gyfrol ar 16 Mai 1791. Gosododd beirniadaeth gyfoes y patrwm o glod i’r gwaith a gwawd tuag at ei awdur. Cymerodd Boswell bleser mawr yn ei enwogrwydd llenyddol, ond teimlai ei hun yn fethiant. Roedd blynyddoedd olaf ei fywyd, ar y cyfan, yn anhapus. Gwelodd Boswell ail argraffiad y Life drwy’r wasg yng Ngorffennaf 1793, ac roedd wrthi’n gweithio ar y trydydd argraffiad pan fu farw, ar 19 Mai 1795, yn 54 oed.
Dyddiaduron
[golygu | golygu cod]Am amser hir credid fod papurau preifat Boswell wedi’u dinistrio yn fuan ar ôl ei farwolaeth, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt eu canfod yn y 1920au yng Nghastell Malahide ger Dulyn, a’u gwerthu i gasglwr Americanaidd, Ralph H. Isham, gan or-or-ŵyr- Boswell, yr Arglwydd Talbot de Malahide. Cafodd y papurau hyn, ynghyd ag eraill a ddarganfuwyd yng Nghastell Malahide yn ystod y 1930au, eu huno â rhan arall a ganfuwyd gan athro, Claude Colleer Abbott, yn Swydd Aberdeen, yng nghartref disgynyddion i ysgutor Boswell. Fe’u gwerthwyd i Brifysgol Yale, a ddechreuodd, dan olygyddiaeth Frederick A. Pottle, raglen systematig o’u cyhoeddi mewn cyfrolau lluosog, gan ddechrau gyda Boswell’s London Journal, 1762–63 (1950).[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Charles Rogers (1884). Social Life in Scotland: From Early to Recent Times (yn Saesneg). W. Paterson. t. 148.
- ↑ (Saesneg) James Boswell. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Ionawr 2026.
- Genedigaethau 1740
- Marwolaethau 1795
- Bywgraffyddion y 18fed ganrif o'r Alban
- Bywgraffyddion Saesneg o'r Alban
- Cyfreithwyr y 18fed ganrif o'r Alban
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caeredin
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Glasgow
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Utrecht
- Dyddiadurwyr o'r Alban
- Llenorion taith y 18fed ganrif o'r Alban
- Llenorion taith Saesneg o'r Alban
- Pobl a aned yng Nghaeredin
- Pobl fu farw yn Llundain
- Seiri Rhyddion