Jacques-Émile Abelous
Jacques-Émile Abelous | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Mawrth 1864 ![]() Bédarieux ![]() |
Bu farw | 20 Tachwedd 1940 ![]() Aussillon ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() ![]() ![]() |
Galwedigaeth | meddyg, ffisiolegydd ![]() |
Plant | Frédéric Abelous ![]() |
Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, La Caze Prize of the Academy of Sciences, Fontaine Prize, Gwobr Gwyddoniaeth Montyon ![]() |
Meddyg a ffisiolegydd o Ffrainc oedd Jacques-Émile Abelous (10 Mawrth 1864 – 20 Tachwedd 1940) a fu'n athro cadeiriol ffisioleg ym Mhrifysgol Toulouse o 1897 i 1939.
Ganed ef yn Bédarieux, yn département Hérault yn rhanbarth Ocsitania, yng nghyfnod yr Ail Ymerodraeth. Astudiodd feddygaeth ym Montpellier, gan arbenigo mewn ffisioleg, ac enillodd ei radd ym 1888. Gweithiodd am gyfnod yn labordy Charles Richet. Cafodd ei dderbyn i gyfadran feddygaeth Prifysgol Toulouse ym 1892, a fe'i penodwyd yn athro cadeiriol ffisioleg ym 1897.
Cafodd ei alw i'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gwasanaethodd yn gludwr gwely ac yna yn yr ysbyty milwrol yn Toulouse. Wedi diwedd y rhyfel, fe'i dyrchafwyd yn ddeon y gyfadran feddygaeth. Wedi iddo ymddeol o'r brifysgol ym 1939, ymsefydlodd yn Aussillon yn département Tarn, ac yno bu farw yn 76 oed, pum mis wedi cwymp Ffrainc.
Fe'i penodwyd yn Officier de la Légion d'honneur ym 1923, a fe'i etholwyd i Académie Nationale de Médecine ym 1928.
Protestant ydoedd, a gwasanaethodd ar gyngor yr Eglwys Ddiwygiedig yn Toulouse wedi 1898. Arddelodd weriniaetholdeb a thaliadau adain-chwith yn ei ieuenctid. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, trodd at freninyddiaeth, ac er ei Brotestaniaeth fe ymunodd â l'Action française, y mudiad Catholig cenedlaetholgar adain-dde a arweiniwyd gan Charles Maurras. Cynyddodd ei weithgarwch gwleidyddol yn y 1930au a darlithodd yn fynych i aelodau'r mudiad.
Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Pierre-Yves Kirschleger, « Abelous Jacques Émile » yn Patrick Cabanel a André Encrevé (goln), Dictionnaire biographique des protestants français de 1787 à nos jours, t. I, Paris, Éditions de Paris-Max Chaleil, 2015 (ISBN 978-2-8462-1190-1), t. 7.
- Genedigaethau 1864
- Marwolaethau 1940
- Academyddion y 19eg ganrif o Ffrainc
- Academyddion yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Academyddion Prifysgol Toulouse
- Derbynwyr Légion d'honneur
- Ffisiolegwyr o Ffrainc
- Meddygon y 19eg ganrif o Ffrainc
- Meddygon yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Pobl a aned yn Hérault
- Pobl fu farw yn Tarn
- Protestaniaid o Ffrainc