Jacqueline Pascal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleian a bardd Ffrengig oedd Jacqueline Pascal (4 Hydref 16254 Hydref 1661). Roedd yn chwaer yr athronydd a'r mathemategydd Blaise Pascal. Dechreuodd farddoni pan oedd yn wyth oed a sgwennodd ddrama bum act pan oedd yn unarddeg oed.

Oherwydd dylanwad ei brawd, cafodd droedigaeth i fath o Babyddiaeth Sistersiaidd o'r enw Janseniaeth' a oedd yn boblogaidd yn Ffrainc ac a oedd yn gweld y pechod gwreiddiol, rhagordeiniaeth a gras Duw fel canolbwynt eu ffydd. Daeth yn lleian yn 1652, yn Abaty Port-Royal ym Mharis.[1]

Fe'i ganed yn Clermont-Ferrand, dinas yn Rhanbarth Auvergne, yng nghanol Ffrainc.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. iep.utm.edu; adalwyd Ebrill 2016
Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.