Jackie Mason

Oddi ar Wicipedia
Jackie Mason
Jackie Mason yn 2006.
GanwydYacov Moshe Hakohen Maza Edit this on Wikidata
9 Mehefin 1928 Edit this on Wikidata
Sheboygan, Wisconsin Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Dinas Efrog Newydd
  • Mesivtha Tifereth Jerusalem Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, sgriptiwr, actor teledu, rabi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jackiemason.com Edit this on Wikidata

Digrifwr stand-yp Americanaidd oedd Jackie Mason (9 Mehefin 192824 Gorffennaf 2021).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Yacov Moshe Maza yn Sheboygan, Wisconsin, ar 9 Mehefin 1928, yn fab i linach hir o rabïaid Uniongred. Mewnfudwyr Iddewig tlawd o Felarws oedd ei rieni, y Rabi Eli Maza a'i wraig Bella Maza, Gitlin gynt. Symudodd y teulu i'r Lower East Side ym Manhattan, Efrog Newydd, pan oedd Yacov yn 5 oed. Derbyniodd radd baglor o Goleg y Ddinas, Efrog Newydd, cyn cychwyn ar ei astudiaethau rabinaidd yn yeshiva Mesivtha Tifereth Jerusalem ym Manhattan. Cafodd ei ordeinio a gwasanaethodd yn rabi yn Weldon, Gogledd Carolina, a Latrobe, Pennsylvania. Roedd yn anhapus wrth ei waith, ond nid oedd yn fodlon siomi ei dad.[1]

Anterth y Borscht Belt[golygu | golygu cod]

Cafodd flas ar y llwyfan drwy fwrw'r haf yn ysgrifennu ymsonau digri a'u perfformio i gynulleidfaoedd y Borscht Belt, y cyrchfannau gwyliau i Americanwyr Iddewig ym Mynyddoedd Catskill, yng nghefn gwlad talaith Efrog Newydd. Yn sgil marwolaeth Eli Maza ym 1959, teimlodd ei fab ei fod yn rhydd i ganlyn galwedigaeth ym myd adloniant, ac ymddiswyddodd Yacov Maza o'r synagog, i fod yn ddigrifwr, gan gymryd yr enw Jackie Mason.[1] Cychwynnodd ar hynt gyffredin y comedïwr Americanaidd yng nghanol yr 20g, gan ennill ei brofiad mewn clybiau nos Efrog Newydd, Los Angeles, a Miami, yn ogystal â'i berfformiadau yn y Catskills. Aeth ar deithiau stand-yp ar draws yr Unol Daleithiau, ac ymddangosodd yn aml ar y teledu yn sgil ei berfformiad ar The Steve Allen Show ym 1961. Rhyddhaodd ei record gomedi gyntaf, I'm the Greatest Comedian in the World, Only Nobody Knows It Yet, ym 1962.[2]

Ar 18 Hydref 1964, pan oedd Mason yn ddigrifwr gwadd ar The Ed Sullivan Show ar sianel CBS, torrwyd ar draws y rhaglen gan ddarllediad byw o araith gan yr Arlywydd Lyndon B. Johnson. Gwnaeth y cyflwynydd, Ed Sullivan, arwydd gyda'i fys at Mason i nodi y bydd toriad yn y rhaglen; wrth i'r sioe ddychwelyd yn fyw, gwnaeth Mason ystum gyda'i fys blaen i ddynwared Sullivan. Cafodd yr ystum ei gamgymryd am y bys canol a'i ystyried yn anweddus gan Sullivan. Addawodd Sullivan y byddai'n rhoi terfyn ar yrfa Mason ym myd adloniant, a na châi ei wahodd yn ôl i'r sioe eto.[3] Fodd bynnag, bu cyhoeddusrwydd yr helynt yn hwb i enwogrwydd Mason ar y pryd, a fe lwyddodd i erlyn Sullivan mewn achos enllib. Byddai Mason yn wyneb gyfarwydd ar sawl sioe sgwrs arall yn y 1960au, gan gynnwys The Joey Bishop Show a The Merv Griffin Show.[4]

Ymddangosodd yn theatr Broadway yn gyntaf ym 1969 yn y gomedi A Teaspoon Every Four Hours, a gyd-ysgrifennwyd gan Mason a Mike Mortman. Cafwyd 97 o rag-berfformiadau, y nifer fwyaf erioed ar y pryd hwnnw, ond caeodd y sioe wedi un perfformiad yn unig.[4]

Sioeau un dyn[golygu | golygu cod]

Ym 1986 perfformiodd ei sioe un dyn The World According to Me am y tro cyntaf yn Los Angeles. Symudodd y sioe i Broadway ac yno cafwyd 573 o berfformiadau. Enillodd Wobr Tony arbennig amdani ym 1987, a Gwobr Emmy yn sgil darlledu'r sioe ar y teledu ym 1988.[4] Perfformiodd sawl sioe un dyn arall, gan gynnwys Brand New (1990–91), Politically Incorrect (1994–95), Love Thy Neighbor (1996–97), Much Ado About Everything (1999–2000), Prune Danish (2002), Freshly Squeezed (2005), a The Ultimate Jew (2008).

Ffilm a theledu[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd Mason mewn sawl ffilm gomedi, gan gynnwys The Stoolie (1972), The Jerk (1979), History of the World: Part 1 (1981), Caddyshack II (1988), a The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (2005). Yn 1990, daeth yn gyfarwydd i wylwyr teledu yng Ngwledydd Prydain drwy An Audience with Jackie Mason ar Channel 4. Enillodd Wobr Emmy am leisio Hyman Krustofski, tad y cymeriad Krusty the Clown, yn The Simpsons, ac ymddangosodd mewn pum pennod arall o'r rhaglen honno.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Cyflwynodd sioe sgwrs ei hun, The Jackie Mason Show, ar sianel CN 8 o 2005 i 2011, a rhaglen radio a ddarlledwyd ar draws yr Unol Daleithiau. Gyda'i gyfaill Raoul Felder, cyd-ysgrifennodd golofn ar-lein, a gyhoeddwyd hefyd yn The Washington Times. Ysgrifennodd Mason a Felder y llyfr Schmucks yn 2007.

Bu farw Jackie Mason yn ei gwsg yn Ysbyty Mount Sinai, Manhattan, yn 93 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) William Grimes, "Jackie Mason, 93, Dies; Turned Kvetching Into Comedy Gold", The New York Times (24 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 12 Awst 2021.
  2. (Saesneg) Jonathan Margolis, "Jackie Mason obituary", The Guardian (25 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 11 Awst 2021.
  3. Steve Krief, "Mason, Jackie" yn Encyclopedia of Jewish American Popular Culture, golygwyd gan Jack R. Fischel a Susan M. Ortmann (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2009), t. 282.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Carmel Dagan, "Jackie Mason, One of the Last Borscht Belt Comedians, Dies at 93", Variety (24 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 11 Awst 2021.