Jack the Ripper - Rhestr o bobl sydd wedi eu hamau

Oddi ar Wicipedia
Illustrated Police News - Jack the Ripper
Illustrated Police News - Jack the Ripper

Jack the Ripper (Siôn y Rhwygwr) yw'r enw a roddir i lofrudd cyfresol anhysbys[1]. Bu'n weithgar yn ystod haf a hydref 1888 yn Whitechapel, ardal o Lundain a oedd yn hysbys yn ei gyfnod am dlodi, gorboblogi a phuteindra.

Y pum ddynes y mae’r mwyafrif o ffynonellau yn gytûn eu bod wedi eu llofruddio gan y Ripper yw

Cafodd merched eraill eu llofruddio tua’r un pryd gyda rhai yn honni eu bod yn waith y Ripper ac eraill yn anghytuno.

Mae’r cwestiwn o bwy oedd y llofrudd wedi cael ei dadlau'n frwd ers blynyddoedd. Enwyd dros gant o bobl ar amheuaeth o fod yn Jack. Er bod llawer o ddamcaniaethau wedi cael eu crybwyll, mae arbenigwyr wedi methu dod o hyd i ymgeisydd pendant fel yr un a ddrwgdybir, a phrin fod modd i rai o'r enwau cael eu cymryd o ddifri o gwbl.

Dyma restr (anghyflawn) o rai o'r cyhuddedig.

Wedi eu hamau gan yr heddlu ar y pryd[golygu | golygu cod]

Wedi eu hamau gan y wasg a’r farn cyffredin ar y pryd[golygu | golygu cod]

Wedi eu hawgrymu gan awduron diweddarach[golygu | golygu cod]

Merched dan amheuaeth[golygu | golygu cod]

Cynigiodd Syr Arthur Conan Doyle damcaniaeth bod y llofrudd yn fenyw Jill the Ripper. Mae rhai cefnogwyr y ddamcaniaeth hon yn credu bod y llofrudd yn gweithio fel bydwraig, un a allasai cael ei gweld gyda dillad gwaedlyd heb ddenu amheuaeth. Byddai bydwraig yn cael ei ymddiried yn fwy gan y dioddefwyr na dyn. Ymysg y merched arfaethedig mae:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Richard Davenport-Hines, ‘Jack the Ripper (fl. 1888)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; rhifyn arlein, Ionawr 2011 adalwyd 2 Mai 2017
  2. Ripper Casebook Victims adalwyd 2 mai 2017
  3. Ripper Casebook Dr John Williams adalwyd 1 Mai 2017
  4. Herald Sun British author claims serial killer 'Jack the Ripper' was a woman in new book adalwyd 2 Mai 2017
  5. John Morris (2012). Jack the Ripper: The Hand of a Woman. Llyfrau Seren. ISBN 978-1-85411-566-9