Jack Johnson (paffiwr)
| Jack Johnson | |
|---|---|
| Ganwyd | 31 Mawrth 1878 Galveston |
| Bu farw | 10 Mehefin 1946 o damwain cerbyd Franklinton |
| Label recordio | Ajax Records |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | paffiwr |
| Taldra | 184.2 centimetr |
| Pwysau | 91 cilogram |
| Priod | Etta Terry |
| Gwobr/au | Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, International Boxing Hall of Fame |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Paffiwr o'r Unol Daleithiau oedd John Arthur Johnson (31 Mawrth 1878 – 10 Mehefin 1946). Ef oedd y dyn du cyntaf i ennill pencampwriaeth paffio pwysau trwm y byd, a hynny mewn cyfnod pan oedd deddfau Jim Crow ar eu hanterth. Enillodd y teitl drwy drechu James J. Jeffries, a oedd yn wyn, ar 4 Gorffennaf 1910. Sbardunodd y digwyddiad hwn ddwsinau o derfysgoedd hiliol ledled yr Unol Daleithiau. Yn ôl y gwneuthurwr ffilmiau Ken Burns, "am fwy na thair blynedd ar ddeg, Jack Johnson oedd yr Affricanaidd-Americanwr enwocaf a mwyaf drwg-enwog ar y Ddaear".[1]
Ar anterth ei yrfa, cafodd Johnson ei feirniadu'n hallt gan y wasg am ei ffordd o fyw rodresgar ac am briodi menywod gwyn ddwywaith.[2] Ym 1913 cafwyd Johnson yn euog o dorri Deddf Mann drwy gludo menyw wen – Lucille Cameron, ei ddarpar wraig – ar draws ffin dalaith at "ddibenion anfoesol". Cafodd ei ddedfrydu i flwyddyn yn y carchar a’i ryddhau ar fechnïaeth, tra’n aros am apêl. Ffodd i Ganada; wedyn aeth i Ewrop a bu’n ffoadur am saith mlynedd. Amddiffynnodd y bencampwriaeth dair gwaith ym Mharis cyn iddo ei cholli mewn gornest ar 5 Ebrill 1915 yn erbyn Jess Willard yn La Habana, Ciwba. Yn 1920 ymostyngodd Johnson i'r awdurdodau a threuliodd ei ddedfryd o garchar.
Bu farw mewn damwain car yn 1946.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Unforgivable Blackness: the Rise and Fall of Jack Johnson", rhaglen ddogfen fywgraffyddol (2005)
- ↑ "Jack Johnson", Britannica; adalwyd 20 Rhagfyr 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "About Jack Johnson", PBS