Jabas (cyfres ddrama)
| Jabas | |
|---|---|
| Genre | Drama |
| Serennu | Owain Gwilym Buddug Povey Lowri Mererid |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Nifer cyfresi | 2 gyfres a 1 ffilm |
| Nifer penodau | 6 x 2 gyfres |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 30 munud |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Darllediad gwreiddiol | 1988 – 1990 |
Cyfres deledu i bobl ifanc oedd Jabas yn seiledig ar y gyfrol o'r un enw gan Penri Jones ac yn olrhain helyntion "Jabas Jones" a’i gyfeillion dros un haf ym Mhen Llŷn. Ffilmiau Eryri oedd yn gyfrifol am y ddwy gyfres a'r ffilm a ryddhawyd ym 1990. Darlledwyd y gyfres gyntaf ar S4C ym 1988. Gwerthwyd y gyfres i'w darlledu a'i dybio yn y Wyddeleg ym 1991, ac fe'i darlledwyd ar RTE 2.[1]
Yn 2017, 30 mlynedd ers ffilmio'r gyfres gyntaf, rhyddhawyd y ddwy gyfres a'r ffilm Nadolig ar DVD gan gwmni Sain.[2]
Cast
[golygu | golygu cod]- Owain Gwilym - Jabas Jones
- Buddug Povey - Pegi
- Lowri Mererid - Glenda
- Harri Pritchard – Picsi
- Eleri Vaughan Williams – Ruth
- Guto Gwyn Jones – Gwil
- Dafydd Jones Williams [Dafydd Alwyn] – Howard
- Non Jones – Jilly
- Lowri Glain – Lois
- Gari Williams – Sam
- Sian Wheldon – Laura
- Beryl Williams – Anti Olwen
- Guto Roberts – Ab Iorwerth
- Phylip Hughes – Wali Welsh
- Ifan Huw Dafydd – Groucho
- Dewi Rhys – Clint
- J. O. Roberts – Bulldog Parry
- Geraint Eifion – Darren
Cyfres 2
[golygu | golygu cod]- Manon Luned Edwards - Wendy
- Llŷr Huws Griffiths - Llywarch
- Maldwyn John - Jesi
- Stewart Jones - Nedw Beics
- Dyfan Roberts - Nico Gwallt
- Bryn Fôn - Mr Morrison
- Louis Tomos - Llew Blew
- Islwyn Morris - Gweinidog
- Bethan Dwyfor - Miss Morgans
- Christopher Reich - Dieithryn
- Sion Amlyn - ffrind Howard
- Osian Wyn Edwards - Cefnder Picsi
- Grafton Radcliffe - Mr Remington
Criw
[golygu | golygu cod]- Ffotograffiaeth Ray Orton / Mike Harrison
- Dylunio Bruce Grimes (cyfres 1) & Martin Morley (cyfres 2)
- Cerddoriaeth Myfyr Isaac
- Sain Adam Alexander / David Badger
- Golygu Richard Bradley / Caroline Limmer
- Colur – Helen Tucker
- Gwisgoedd – Jan Hooke
- Animeiddio – Joanna Quinn
Manylion Pellach
[golygu | golygu cod]Teitl Gwreiddiol: Jabas
Blwyddyn: 1988 (Cyfres 1)
Hyd y Ffilm: 6 × 30 mun
Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 1 Ebrill 1988
Cyfarwyddwr: Emlyn Williams (cyfres 1) a Gwenan Sage (cyfres 2)
Sgript: Penri Jones
Addasiad o: Jabas gan Penri Jones
Cynhyrchydd: Norman Williams
Cwmnïau Cynhyrchu: Ffilmiau Eryri
Genre: Drama, Plant
Manylion Technegol
[golygu | golygu cod]Lliw: Lliw
Cymhareb: Agwedd 4:3
Llyfrau
[golygu | golygu cod]- Penri Jones, Jabas (Pwllheli: Gwasg Dwyfor, 1986)
- Penri Jones, Jabas 2 (Pwllheli: Gwasg Dwyfor, 1992)
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jabas yn taro deuddeg drwy'r iaith Wyddeleg". Herald Cymraeg. 14 Rhagfyr 1992.
- ↑ Jabas - DVD. Sain. Adalwyd ar 13 Medi 2017.
- Erthygl ynglŷn ag aduniad cast y gyfres wreiddiol ar gyfer pennod o ‘Ble Aeth Pawb?’, Mai 2010 – Caernarfon & Denbigh Herald
- Rhagolwg, Y Cymro, Marwth 30 1988. t. 2.
- Richard Lewis, Adolygiad, Y Cymro, Ebrill 27 1988. t. 2.