J. R. R. Tolkien

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth JRR Tolkien)
Jump to navigation Jump to search
J. R. R. Tolkien
Tolkien 1916.jpg
Ganwyd John Ronald Reuel Tolkien Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1892 Edit this on Wikidata
Bloemfontein Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Medi 1973 Edit this on Wikidata (81 oed)
Achos: Niwmonia Edit this on Wikidata
Bournemouth Edit this on Wikidata
Man preswyl Birmingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Addysg athro prifysgol Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth ieithydd, Bardd, academydd, awdur plant, cyfieithydd, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, swyddog, Awdur, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swydd Rawlinson and Bosworth Professor of Anglo-Saxon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am The Hobbit, The Lord of the Rings, The Silmarillion, Tree and Leaf, Roverandom, The Adventures of Tom Bombadil, Beowulf: The Monsters and the Critics Edit this on Wikidata
Arddull Ffantasi, llenyddiaeth plant, Cyfieithu, gwyddoniaeth llenyddiaeth, Barddoniaeth, Rhyddiaith Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad George MacDonald, Edward Wyke Smith, Robert E. Howard, Jules Verne, H. Rider Haggard, Lord Dunsany, Edward Burne-Jones, William Morris, G. K. Chesterton Edit this on Wikidata
Mudiad Inklings Edit this on Wikidata
Mam Mabel Suffield Edit this on Wikidata
Priod Edith Tolkien Edit this on Wikidata
Plant Christopher Tolkien, John Francis Reuel Tolkien, Priscilla Mary Anne Reuel Tolkien Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE, Gwobr Prometheus - Hall of Fame, Prometheus Award, Nebula Award for Best Script, Nebula Award for Best Script, Gwobr Locus am y nofel Ffantasi Orau, Nebula Award for Best Script, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Hugo Award for Best Dramatic Presentation (Long Form), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias Edit this on Wikidata
Gwefan http://tolkienestate.com Edit this on Wikidata
Llofnod
JRR Tolkien signature.svg

Roedd John Ronald Reuel Tolkien (3 Ionawr 18922 Medi 1973) yn ieithydd ac yn academydd amlwg, ac yn athro ar lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen rhwng 1925 a 1945, cyn darlithio ar yr iaith Sacsonaidd yno rhwng 1945 a 1959. Roedd hefyd yn Babydd o ymroddedig. Mae Tolkien fwyaf enwog am ysgrifennu’r llyfrau The Hobbit, The Lord of the Rings a The Silmarillion, sydd wedi eu selio ar fyd ffantasi Middle-earth.

Ganed Tolkien yn Bloemfontein, Orange Free State, (De Affrica nawr) ond symudodd y teulu i Loegr pan oedd yn dair oed.

Tolkien ac iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

O oed cynnar, pan welodd enwau Cymraeg ar drelars glo o dde Cymru, fe ymddiddorodd Tolkien mewn ieithoedd. Graddiodd mewn ieitheg Hen Roegaidd, ac ym 1915 graddiodd gyda Hen Islandeg fel pwnc arbennig. Gweithiodd ar Eiriadur Saesneg Rhydychen rhwng 1918 a 1920. Serch hyn, ei brif ddiddordebau ieithyddol oedd Hen Saesneg a'r Gymraeg.

Aeth Tolkien ati i ddyfeisio nifer o ieithoedd gwahanol ar gyfer The Lord of the Rings, yn cynnwys Sindarin (a seliwyd ar y Gymraeg) a Quenya (a seliwyd ar Ffinneg). Hen Saesneg, neu Rohirric, oedd iaith gwerin gwlad ffuglennol Rohan.

Yn ei draethawd English and Welsh, dywedodd: Welsh is of this soil, this island, the senior language of the men of Britain; and Welsh is beautiful.[1]

Ysgrifau Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â'r enwog The Hobbit a The Lord of the Rings ysgrifennodd Tolkien weithiau yn ymwneud a'i fyd chwedlonol. Ysgrifennodd The Silmarillon cyn yr uchod, sy'n trafod hen hanesion Middle Earth yn ei hoes gyntaf. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd hefyd nifer o ysgrifau gwahanol yn trafod gwahanol agweddau o'i fyd amrywiol.

Ym 1955 traddododd ei ddarlith English and Welsh i Brifysgol Rhydychen, yn disgrifio'r Gymraeg fel iaith 'brydferthach na'r Saesneg'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. WikiQuote; adalwyd 17 Rhagfyr 2013