J. T. Jones
| J. T. Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | John Thomas Jones 23 Mawrth 1894 Llanfair Talhaearn |
| Bu farw | 1975 Porthmadog |
| Alma mater | Prifysgol Cymru, Bangor |
| Galwedigaeth | Llenor, athro ac academydd |
| Cysylltir gyda | dramâu Shakespeare |
Llenor, bardd, athro ac ysgolhaig o Lanfair Talhaearn oedd J. T. Jones neu John Thomas Jones (23 Mawrth 1894 – 1975) sy'n cael ei gydnabod am gyfieithu neu drosi nifer o weithiau llenyddol i'r Gymraeg.[1] Ymysg ei drosiadau mae gwaith A. E. Housman a Miguel de Cervantes, yn ogystal â 5 drama gan William Shakespeare.[2] Llwyfannwyd ei waith gan Chwarewyr Garthewin a Theatr Genedlaethol Cymru, ymysg nifer eraill. Nododd Syr T. H. Parry-Williams ei fod ymhlith "cewri'r cyfiethu yng Nghymru".[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Llwyn y Maen, Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Llanrwst.[3] Roedd yn fab i Owen Jones ac Elizabeth Jones (Owens gynt).[3]
Bu'n astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor gan ennill gradd ddosbarth cyntaf mewn Cymraeg a Saesneg cyn mynd ati i astudio Gramadegau’r Oesoedd Canol ar gyfer MA dan arweiniad John Morris-Jones. Graddiodd ym 1924. [2][3]
Ymunodd â'r Fyddin rhwng 1916 a 1918 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[3]
Bu'n athro ysgol yn Rhydychen, Bangor [Ysgol Ganolog] a Phorthmadog, ac yno fu'n byw o 1943 hyd ddiwedd ei oes.[2]
Cyfaddefodd mai tua 1936 y dechreuodd "geisio trosi tipyn o waith Shakespeare i'r Gymraeg".[2]
Ymddeolodd o'i swydd fel Prifathro Ysgol Eifionnydd ym 1954.[2]
Darlledwyd ei drosiadau o ddramâu Shakespeare ar y BBC.[2] Darlledwyd Marsiandwr Fenis ym 1939 a 1950.[2]
Enillodd Wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei drosiadau fel Nos Ystwyll yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952.[4]
Roedd yn briod â Menai a chanddo ddau o blant, Dafydd Franklin Jones ac Eirian Jones.[4] [3]
Nododd Manon Gwynant yn Barn [Mai 2021] "Yn ogystal â bod yn gyfieithydd penigamp, dylem gofio am J.T. Jones fel englynwr, fel beirniad dawnus, fel athro, fel ysgolhaig a llawer iawn mwy, un a ysgogwyd ar hyd ei oes gan ei angerdd a’i gariad tuag at Gymru, ei hiaith a’i diwylliant."[3]
Bu farw ym 1975 yn 81 oed a thalwyd teyrnged iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Cyfieithiadau / Trosiadau
[golygu | golygu cod]- Y Llanc o Sir Amwythig (Dinbych: Gwasg Gee, 1939), trosiad o A. E. Housman, A Shropshire Lad (1939)
- Dirgelwch y Ffilm: Stori Dditectif (Dinbych: Gwasg Gee, 1947), trosiad o Michael Pool, The Roll Film Mystery[5]
- Nos Ystwyll (1952; Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1970), trosiad o Shakespeare, Twelfth Night
- Anturiaethau Don Cwicsot (Llandebie: Llyfrau'r Dryw, 1954), trosiad o Cervantes, Don Quixote
- Hamlet (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1960), trosiad o Shakespeare Hamlet
- Marsiandwr Fenis (Porthmadog: Gwasg Tŷ ar y Graig, 1969), trosiad o Shakespeare, The Merchant of Venice
- Romeo a Juliet. Bid wrth eich bodd (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1983), trosiad o Shakespeare, Romeo and Juliet ac As You Like It
- Rhwng Cyfnos a Gwawr (Aberystwyth: Canolfan Astudiaethau Addysg, 1996), trosiad o Oliver Goldsmith, She Stoops to Conquer
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Manon Gwynant, "J. T. Jones, Porthmadog: Llais Shakespeare yn Gymraeg", Barn, Mai 2021
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Rhaglen Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 1987.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Jones, J. T (1969). Marsiandwr Fenis. Tŷ ar y Graig.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Gwynant, Manon (Mai 2021). "J. T. Jones Llais Shakespeare yn Gymraeg". Barn.
- ↑ 4.0 4.1 Jones, J. T. (1970). Nos Ystwyll. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.
- ↑ "Dirglewch y Ffilm". darganfod.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-23.