J. Paul Getty

Oddi ar Wicipedia
J. Paul Getty
Ganwyd15 Rhagfyr 1892 Edit this on Wikidata
Minneapolis Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 1976 Edit this on Wikidata
Guildford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Addysgeconomeg, gwyddor gwleidyddiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcasglwr celf, hunangofiannydd, entrepreneur, diwydiannwr, noddwr y celfyddydau Edit this on Wikidata
TadGeorge Getty Edit this on Wikidata
MamSarah Catherine McPherson Risher Edit this on Wikidata
PriodAnn Rork Light, Jeannette Dumont, Allene Ashby, Adolphine Helmle, Theodora Getty Gaston Edit this on Wikidata
PartnerUrsula d'Abo Edit this on Wikidata
PlantGordon Getty, John Paul Getty Jr, Jean Ronald Getty, Timothy Getty, George Franklin Getty II Edit this on Wikidata
LlinachGetty family Edit this on Wikidata

Roedd Jean Paul Getty (15 Rhagfyr, 1892 - 6 Mehefin, 1976) yn ddiwydiannwr Eingl Americanaidd,[1] ac yn batriarch y teulu Getty. Fe sefydlodd Cwmni Olew Getty, ac yn 1957, dywedodd cylchgrawn Fortune mae ef oedd yr Americanwr cyfoethocaf ar dir y byw,[2] a dywedodd Guinness Book of Records 1966 mae ef oedd dinesydd preifat cyfoethoga'r byd, gwerth $ 1.2 biliwn ar y pryd (tua $ 9.05 biliwn yn 2018).[3] Ar ei farwolaeth, roedd yn werth mwy na $6 biliwn (tua $ 25.8 biliwn yn 2018).[4] Fe wnaeth llyfr a gyhoeddwyd ym 1996 ei nodi fel yr 67 fed Americanwr cyfoethocaf a fu erioed, yn seiliedig ar ei gyfoeth fel canran o'r cynnyrch cenedlaethol gros.[5]

Er gwaethaf ei gyfoeth helaeth, roedd Getty yn ddarbodus gyda'i arian, yn enwedig wrth negodi pridwerth ei ŵyr wedi iddo gael ei herwgipio ym 1973.

Roedd Getty yn gasglwr brwd o gelf a hynafiaethau; roedd ei gasgliad yn sail i Amgueddfa J. Paul Getty yn Los Angeles, Califfornia, a chafodd dros $ 661 miliwn (tua $ 2.8 biliwn yn 2017) o'i ystâd ei adael i'r amgueddfa ar ôl ei farwolaeth.[4] Sefydlodd Ymddiriedolaeth J. Paul Getty ym 1953. Yr ymddiriedolaeth yw sefydliad celf cyfoethoga'r byd, ac mae'n gweinyddu Campws Amgueddfa J. Paul Getty: Y Ganolfan Getty, Fila Getty, Sefydliad Getty, Sefydliad Ymchwil Getty a Sefydliad Cadwraeth Getty[6]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Getty yn Minneapolis, Minnesota, i Sarah Catherine McPherson (Risher) a George Getty, a oedd yn gyfreithiwr yn y diwydiant yswiriant. Magwyd Paul i fod yn Fethodist gan ei rieni, roedd ei dad yn Seientydd Gristnogol ac roedd y ddau yn ddirwestwyr llym. Yn 1903, pan oedd Paul yn 10 oed, teithiodd George Getty i Bartlesville, Oklahoma a phrynodd yr hawliau mwynau ar 1,100 erw o dir. O fewn ychydig flynyddoedd, roedd Getty wedi sefydlu ffynhonnau ar y tir a oedd yn cynhyrchu 100,000 casgen o olew crai bob mis.[7]

Fel miliwnyddion newydd, symudodd y teulu i Los Angeles i ddianc rhag gaeafau caled Minnesota. Yn 14 oed, aeth Paul i Ysgol Filwrol Harvard am flwyddyn, ac yna i Polytechnic High School, lle cafodd y llysenw "Dictionary Getty" oherwydd ei gariad at ddarllen.[8] Daeth yn rhugl yn y Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg - yn ystod ei fywyd busnes, byddai hefyd yn siarad Sbaeneg, Groeg, Arabeg a Rwsieg. Arweiniodd ei gariad at y Clasuron iddo ennill hyfedredd darllen yng Ngroeg yr Henfyd a Lladin.[8] Cofrestrodd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Southern California, ac yna ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, ond fe adawodd y ddwy brifysgol cyn ennill gradd. Wedi syrthio mewn cariad ag Ewrop ar ôl teithio dramor gyda'i rieni ym 1910, cofrestrodd Paul ym Mhrifysgol Rhydychen ym 1912. Galluogodd llythyr o gyflwyniad gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, William Howard Taft, iddo gael hyfforddiant annibynnol gan diwtoriaid yng Ngholeg Magdalen. Er nad oedd yn aelod o Goleg Magdalen, honnodd fod y myfyrwyr aristocrataidd y coleg "yn fy nhrin fel un o'u hunain", a byddai'n ymffrostio am y ffrindiau a wnaeth yn y coleg, gan gynnwys Tywysog Cymru, (Edward VIII, am gyfnod byr wedyn).[9] Enillodd gradd mewn Economeg a Gwyddor gwleidyddiaeth ym 1914. Wedyn treuliodd cyfnod yn teithio ledled Ewrop a'r Aifft, cyn cyfarfod â'i rieni ym Mharis a dychwelyd gyda hwy i America ym mis Mehefin 1914.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn hydref 1914, rhoddodd George Getty $10,000 i'w fab i fuddsoddi mewn ehangu daliadau maes olew'r teulu yn Oklahoma. Roedd y lot gyntaf a brynodd, Safle Olew Nancy Taylor Rhif 1, ger Haskell, Oklahoma, yn hanfodol i'w lwyddiant ariannol cynnar. Cafwyd hyd i olew yno ym mis Awst 1915 ac erbyn yr haf canlynol, roedd ei gomisiwn o 40% yn y fenter wedi ei wneud yn filiwnydd.[10]

Ym 1919, dychwelodd Getty i fusnes yn Oklahoma. Yn ystod y 1920au, ychwanegodd tua $ 3 miliwn i'w ystâd sylweddol. Ar farwolaeth ei dad ym 1930, fe etifeddodd draean o'r stoc gan George Getty Inc, tra bod ei fam yn derbyn y ddau draean arall, gan roi rheolaeth y cwmni iddi hi.[11]

Ym 1936, perswadiodd ei fam iddo gyfrannu at sefydlu ymddiriedolaeth deuluol gwerth $ 3.368 miliwn (tua $ 62.5 miliwn yn 2018), y Sarah C. Getty Trust, i sicrhau y gellid sianelu cyfoeth y teulu mewn i gynllun di-dreth er mwyn sicrhau cyfalaf i genedlaethau teulu Getty y dyfodol.

Trwy fod yn graff wrth fuddsoddi ei adnoddau yn ystod y Dirwasgiad Mawr, llwyddodd  Getty i gaffael y Pacific Western Oil Corporation, a dechreuodd ar gaffaeliad o'r Mission Corporation (cwblhawyd ym 1953). Roedd Mision Corp yn cynnwys cwmniau Tidewater Oil a Skelly Oil. Ym 1967 cyfunodd y biliwnydd y daliadau hyn yng nghwmni Getty Oil.

Gan ddechrau ym 1949, talodd Getty Ibn Saud $9.5 miliwn mewn arian parod a $1 filiwn y flwyddyn am gonsesiwn 60 mlynedd ar ddarn o dir diffaith ger y ffin rhwng Sawdi Arabia a Coweit. Ni ddarganfuwyd unrhyw olew yno, cyn bod pedair blynedd wedi mynd heibio, a chyn gwario $30 miliwn ar y prosiect. O 1953 ymlaen, llwyddodd gambl Getty i echdynnu 16,000,000 casgen (2,500,000 m3) o olew'r flwyddyn, a gyfrannodd yn fawr at y ffortiwn bu'n gyfrifol am ei wneud yn un o'r bobl gyfoethocaf yn y byd.

Cynyddodd Getty cyfoeth y teulu, gan ddysgu siarad Arabeg, a oedd yn ei alluogi ehangu ym mhellach yn y Dwyrain Canol. Roedd Getty yn berchen ar neu a diddordeb rheoli mewn bron i 200 o fusnesau, gan gynnwys Getty Oil.[12]

Bu'n buddsoddi mewn eiddo diriaethol crand yn ogystal ag olew Roedd yn berchen ar y Pierre Hotel ar Fifth Avenue Dinas Efrog Newydd, gwesty Pierre Marques ar draeth Revolcadero ger Acapulco, Mecsico, palas o'r 15g a chastell gyfagos yn Ladispoli ar yr arfordir i'r gogledd-orllewin o Rufain, ransh ym Malibu a Sutton Place, plasty 72 ystafell ger Guildford, Surrey, tua 35 milltir y tu allan i Lundain.

Symudodd Getty i Brydain yn y 1950au a daeth yn edmygydd amlwg o Loegr, ei phobl, a'i diwylliant. Bu'n byw ac yn gweithio o'i ystad Tuduraidd, Sutton Place. Daeth y plasty gwledig traddodiadol yn ganolfan i Getty Oil a'i gwmnïau cysylltiedig. Defnyddiodd  yr ystad i ddiddanu ei ffrindiau Prydeinig ac Arabaidd (gan gynnwys y gangen Brydeinig o deulu Rothschild ac arweinwyr nifer o wledydd y Dwyrain Canol). Bu Getty byw gweddill ei oes yn Lloegr, gan farw o fethiant y galon yn Sutton Palace yn 83 mlwydd oed ar 6 Mehefin, 1976.

Casglwr celfyddyd[golygu | golygu cod]

Vincent van Gogh - Gellysg (1889), yng Nghasgliad Getty

Cychwynodd diddordeb Getty mewn casglu celfyddyd tua diwedd y 1930au, pan gymerodd ysbrydoliaeth o gasgliad ddarluniau a dodrefn Ffrengig o'r 18 ganrif a oedd yn eiddo i landlord ei gartref yn Ninas Efrog Newydd, Mrs. Amy Guest, perthynas Syr Winston Churchill.[13] Syrthiodd mewn cariad â Ffrainc y 18g a dechreuodd brynu dodrefn o'r cyfnod am brisiau wedi eu gostwng oherwydd y farchnad gelf ddirwasgedig. Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar gasglu: ''Europe and the 18th Century" (1949), "Collector's Choice: The Chronicle of an Artistic Odyssey through Europe" (1955) a "The Joys of Collecting" (1965). Nod pennaf ei gasglu oedd prynu eitemau am fargen a fyddai'n cynnig elw sicr ar ei fuddsoddiad. Roedd ei gybydd-dod yn cyfyngu ar ystod ei gasglu oherwydd ei fod yn gwgwerth dros $4 miliwn (tua $17.5 miliwn yn 2018), gan gynnwys gwaith gan Rubens, Titian, Gainsborough, Renoir, Tintoretto, Degas, a Monet.[8] Yn ystod y 1950au, symudodd diddordeb Getty i gerfluniau Greco-Rufeinig, a arweiniodd at adeiladu'r Getty Villa yn y 1970au i gartrefu'r casgliad.[14]

Priodasau, ysgariadau a phlant[golygu | golygu cod]

Yn 1917, pan oedd yn 25 oed, cafodd achos tadolaeth ei ddwyn yn erbyn Getty yn Los Angeles gan Elsie Eckstrom, a honnodd ei fod yn dad ei ferch newydd-anedig Paula

.[15] Honnodd Eckstrom fod Getty wedi dwyn ei gwyryfdod a'i beichiogi. Ar ddiwedd 1917, cytunodd i setliad o $10,000.[16][17]

Getty was married and divorced five times. He had five sons with four of his wives:[4][18]

  1. Jeanette Demont (priodi 1923 - ysgarwyd 1926); un mab George Franklin Getty II (1924-1973)
  2. Allene Ashby (1926-1928),dim plant. Bu i Getty cwrdd â Ashby, 17 mlwydd oed, merch ransh o Texas, yn Ninas Mecsico wrth iddo astudio Sbaeneg a goruchwylio buddiannau busnes ei deulu yn y wlad.[19] Rhedasant ymaith i Cuernavaca, Mecsico i briodi. Roedd y briodas yn un ddwywreigiol gan nad oedd Paul a Janet wedi ysgaru eto. Yn fuan wedi'r briodas penderfynodd y ddau i ddiddymu'r undeb cyn ymadael a Mecsico.[20]
  3. Adolphine Helmle (1928–1932); Un mab Jean Ronald Getty (1929–2009). Roedd Helmle yn ferch i feddyg blaenllaw yn yr Almaen, a oedd yn gwrthwynebu'n gryf iddi briodi'r ddwywaith ysgarredig Getty.[21] Rhedodd y ddau ymaith i Cuernavaca, Mecsico i briodi, yn yr un modd a wnaeth Paul efo Allene Ashby. Bu'r ddau'n byw yn Los Angeles. Yn dilyn geni eu mab, collodd Getty ddiddordeb ynddi a pherswadiodd ei thad iddi ddychwelyd i'r Almaen gyda'u plentyn ym 1929. Ar ôl brwydr hir a dadleuol, cwblhawyd yr ysgariad ym mis Awst 1932, gydag Adolphine yn derbyn swm enfawr fel iawndal a chosb, a gofal lawn dros Ronald.[22]
  4. Ann Rork (1932–1936); dau fab, Eugene Paul Getty, yn ddiweddarach John Paul Getty Jr (1932-2003) a Gordon Peter Getty (a anwyd ym 1934). Cyflwynwyd Getty i Rork pan oedd hi'n 14 mlwydd oed, ond ni ddaethant yn bartneriaid rhamantus nes ei bod hi’n 21 ym 1930. Oherwydd ei fod yng nghanol ei ysgariad ag Adolphine, roedd yn rhaid i'r cwpl aros ddwy flynedd cyn iddynt briodi. Roedd yn absennol yn Ewrop am gyfnodau hir o'u priodas. Ym 1936, gwnaeth ei erlyn am ysgariad, gan honni cam-drin emosiynol ac esgeulustod. Disgrifiodd hefyd ddigwyddiad tra'r oedd y ddau ar wyliau yn yr Eidal, lle honnodd fod Getty wedi gorfodi iddi ddringo i gopa Mynydd Vesuvius tra roedd hi'n feichiog iawn gyda'u mab cyntaf.[23] Penderfynodd y llys o'i phlaid hi ac fe'i dyfarnwyd $2,500 y mis o alimoni  a $1,000 y mis yr un mewn cymorth plant ar gyfer ei meibion.[23]
  5. Louise Dudley "Teddy" Lynch (1939–1958); un mab Timothy Ware Getty (1946–1958)

Herwgipio John Paul Getty III[golygu | golygu cod]

Ym 1973, cafodd ei ŵyr 16 mlwydd oed, John Paul Getty III, ei herwgipio yn Rhufain gan syndicâd Maffia y Ndrangheta o Galabria a chafodd ei gaethiwo, wedi ei gadwyno i stanc, mewn ogof ym mynyddoedd Calabria. Nid oedd gan ei dad Paul Getty II digon o arian i dalu'r $17 miliwn o bridwerth roedd yr herwgipwyr yn ymofyn. Trodd at daid yr hogyn i ofyn am gymorth heb lwyddiant, gan fod ei daid yn ofni y byddai ei 13 ŵyr arall yn troi'n dargedau i herwgipwyr eraill pe bai o'n talu. Ond wedi i un o glustiau Paul Getty III  cael ei ddanfon i bapur newydd yn Rhufain (wedi cael ei ohirio am dair wythnos oherwydd streic bost), cytunodd Paul Getty'r hynaf  i helpu allan gyda'r pridwerth drwy roi $2.2 miliwn mewn taliad uniongyrchol (yr uchafswm gellid ei roi fel rhodd di dreth) ac $1 miliwn o fenthyciad i'w mab ar 4% o log.

Portreadau ar y cyfryngau[golygu | golygu cod]

Mae'r ffilm 2017 All the Money in the World - wedi'i gyfarwyddo gan Ridley Scott ac wedi'i addasu o'r llyfr Painfully Rich: The Fortnight Outrageous and Misfortunes of the Heirs of J. Paul Getty gan John Pearson - yn dramateiddio herwgipio John Paul Getty III. Yn wreiddiol, bu Kevin Spacey yn chware ran Getty. Fodd bynnag, ar ôl ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol lluosog, cafodd ei olygfeydd eu torri a'u hailosod gyda Christopher Plummer yn y rôl. Enwebwyd Plummer ar gyfer Gwobr yr Academi am yr Actor Cynorthwyol Gorau am ei berfformiad.[24]

Mae'r herwgipio hefyd yn cael ei dramateiddio yn y gyfres deledu 2018 Trust, wedi ei gyfarwyddo gan Danny Boyle, gyda Donald Sutherland yn chware ran J. Paul Getty.[25][26][27]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Getty, J. Paul. The history of the bigger oil business of George F.S. F. and J. Paul Getty from 1903 to 1939. Los Angeles?, 1941.
  • Getty, J. Paul. Europe in the Eighteenth Century. [Santa Monica, Calif.]: privately printed, 1949.
  • Le Vane, Ethel, and J. Paul Getty. Collector's Choice: The Chronicle of an Artistic Odyssey through Europe. London: W.H. Allen, 1955.
  • Getty, J. Paul. My Life and Fortunes. New York: Duell, Sloan & Pearce, 1963.
  • Getty, J. Paul. The Joys of Collecting. New York: Hawthorn Books, 1965.
  • Getty, J. Paul. How to be Rich. Chicago: Playboy Press, 1965.
  • Getty, J. Paul. The Golden Age. New York: Trident Press, 1968.
  • Getty, J. Paul. How to be a Successful Executive. Chicago: Playboy Press, 1971.
  • Getty, J. Paul. As I See It: The Autobiography of J. Paul Getty. Englewood Cliffs, N.J. : Prentice-Hall, 1976. ISBN 0-13-049593-X.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Whitman, Alden (June 6, 1976). "J. Paul Getty Dead at 83; Amassed Billions From Oil". On This Day. The New York Times. New York City: New York Times Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 21, 2016. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  2. Lubar, Robert (March 17, 1986). "The Odd Mr. Getty: The possibly richest man in the world was mean, miserly, sexy, fearful of travel and detergents". Fortune. New York City: Meredith Corporation. Cyrchwyd March 30, 2018. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  3. McWhirter, Norris; McWhirter, Ross (1966). Guinness Book of Records. London, England: Jim Pattison Group. t. 229.
  4. 4.0 4.1 4.2 Lenzner, Robert. The great Getty: the life and loves of J. Paul Getty, richest man in the world. New York: Crown Publishers, 1985. ISBN 0-517-56222-7
  5. Klepper, Michael M.; Gunther, Robert E. (1996). The wealthy 100: from Benjamin Franklin to Bill Gates: a ranking of the richest Americans, past and present. Secaucus, New Jersey: Carol Publishing Group. ISBN 0-8065-1800-6.
  6. Wyatt, Edward (April 30, 2009). "Getty Fees and Budget Reassessed". The New York Times. New York City: New York Times Company. t. C1. Cyrchwyd March 30, 2018.
  7. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 20.
  8. 8.0 8.1 8.2 Paul Getty Dead at 83; Amassed Billions from Oil Alden Whitman yn yNew York Timesdyddiad 06 Mehefin[dolen marw] adalwyd 28 Awst 2018
  9. Pearson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 29.
  10. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 34.
  11. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 47.
  12. "Thoughts On The Business Of Life" Archifwyd 2013-07-15 yn y Peiriant Wayback. at Forbes
  13. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 72.
  14. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 86–7.
  15. Pearson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 36–7.
  16. Pearson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 37.
  17. The Great Getty : THE LIFE AND LOVES OF J. PAUL GETTY--RICHEST MAN IN THE WORLD gan Robert Lenzner a THE HOUSE OF GETTY gan Russell Miller (Henry Holt: $17.65)adolygiadau 26 Mai 1986 adalwyd 29 Awst 2018
  18. Vallely, Paul (19 Gorffennaf, 2007). "Don't keep it in the family". The Independent. London, England: Independent Print Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Rhagfyr 2016 – drwy The Wayback Machine. Check date values in: |date= (help)
  19. Jean Paul Getty "As I see it: the autobiography of J. Paul Getty", Getty Publications, Los Angeles, California; 1976, tudalen 91 adalwyd 13 Medi 2011]]
  20. Pearson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 42.
  21. Pearson, John (1995). Painfully Rich. New York City: Harper Collins. t. 45.
  22. John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 48,59–60.
  23. 23.0 23.1 John Pearson (1995). Painfully Rich. Harper Collins. t. 71.
  24. "Oscars: 'Shape of Water' Leads With 13 Noms". The Hollywood Reporter. January 23, 2018. Cyrchwyd January 23, 2018.
  25. Holloway, Daniel (15 May 2017). "FX's 'Trust' Casts Harris Dickinson as J. Paul Getty III". Variety. Cyrchwyd 27 Awst 2018.
  26. BBC 2 Trust adalwyd 27 Awst 2018
  27. Petski, Denise (January 5, 2018). "FX Sets 'Atlanta' & 'The Americans' Return Dates, 'Trust' Premiere – TCA". Deadline. Penske Business Media, LLC. Cyrchwyd January 5, 2018.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]