J. O. Williams
| J. O. Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | John Owen Williams 18 Mehefin 1892 Bethesda |
| Bu farw | 16 Mawrth 1973 Bethesda |
| Alma mater | Prifysgol Cymru, Bangor |
| Galwedigaeth | llenor, trydanwr |
| Cysylltir gyda | Llyfr Mawr y Plant |
| Adnabyddus am | enillydd cyntaf Y Fedal Ryddiaith |
Llenor, darlledwr ac enillydd cyntaf y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Machynlleth 1937 oedd J. O. Williams (18 Mehefin 1892 – 16 Mawrth 1973)[1] neu John Owen Williams. Mae o hefyd yn enwog am ei gyfrolau o straeon i blant Cymru, yn arbennig felly Llyfr Mawr y Plant ar y cyd â Jennie Thomas.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Fethesda, addysgwyd ef ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.[2]
Priododd Edeila Wynne (1897 – 1964) yn Nolgellau ym 1924.[1]
Cyhoeddodd nifer o storïau byrion yn Y Llenor.[2]
Enillodd ar y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926 a darlledwyd drama radio o'i eiddo, Y Chwarelwr.[3] Pan enillodd y Fedal Ryddiaith ym 1937, disgrifiwyd ef fel "peiriannydd trydanol ifanc"[4] ac yn "draethodydd, awdur, bardd, dramodydd, arlunydd, dychanwr ac ymrysonwr".[5]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
- Llyfr Mawr y Plant (1931)
- Storïau a sgrifau (1933)
- Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill (1937)
- Llyfr Mawr y Plant (1939)
- Llyfr Mawr y Plant (1949)
- Straeon Wil: a storïau eraill (1950)[6]
- Corlannau (1957)
- Helyntion Twm Llongwr (1960)
- Trysor yr Incas (1970)
- Llyfr Mawr y Plant (1975)
- Llyfr Mawr y Plant: Goreuon y Pedair Cyfrol (1999)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Ancestry - Sign in". www.ancestry.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-23.
- ↑ 2.0 2.1 Stephens, Meic (1999). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Eisteddfod". South Wales Daily Post. 4 Awst 1937.
- ↑ "Eisteddfod". The Scotsman. 5 Awst 1937.
- ↑ "Fine Prose Medal". Liverpool Daily Post. 5 Awst 1937.
- ↑ OpenLibrary.org. "J. O. Williams". Open Library. Cyrchwyd 2025-10-23.