J. O. Jones (actor)
| J. O. Jones | |
|---|---|
| Ffugenw | Jo Llwyn |
| Ganwyd | John Owen Jones 1931 Dolgellau |
| Bu farw | 2011 Dolgellau |
| Galwedigaeth | actor |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Actor a storïwr Cymraeg o Ddolgellau oedd J. O. Jones (1931 – 3 Tachwedd 2011).[1][2] Bu'n aelod cynnar o Gwmni Theatr Cymru a Theatr Bara Caws yn y 1970au, gan fod yn un o'r actorion gwreiddiol yn eu cynhyrchiad o Bargan (1979). Ymddangososdd hefyd ar ddramâu a ffilmiau cynnar S4C.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Mynychodd Ysgol Ramadeg Dolgellau cyn mynd i weithio mewn Banc. Daeth adref wedi hynny i ffermio ar fferm y teulu ym Meirionnydd.[1]
Bu'n aelod o Gwmni Drama Sir Feirionnydd.[1]
Yn 2004, cododd helynt yn y Daily Post am na chafodd wahoddiad gan BBC Cymru i fod yn rhan o ddathliadau 30 mlynedd o'r gyfres Pobol y Cwm, ac yntau wedi portreadu 5 cymeriad gwahanol yn y gyfres ers y 1970au.[2]
Bu'n gyn-reffari rygbi a dioddefodd strôc ar ganol y 1990au.[2]
Roedd hefyd yn un o brif gyflwynwyr Sesiwn Fawr Dolgellau.[3]
Bu farw yn 80 oed yn 2011.[3] Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Aberystwyth ar ddydd Mercher, 16 Tachwedd am 9.45am.[4]
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod]

Theatr
[golygu | golygu cod]
- Dychweledigion (1974)
- Yr Achos (1974)
- Pwyll Gwyllt (1974/5)
- Afagddu (1975)
- Gwenith Gwyn (1979)
- Bargan (1979) - Theatr Bara Caws
Teledu a Ffilm
[golygu | golygu cod]- Y 'Stafell Ddirgel (BBC)
- Tresarn (BBC)
- Congrinero'r Gorllewin (1983) BBC
- Ar Brawf (HTV)
- Pobol y Cwm (BBC) 5 cymeriad gwahanol
- Hedd Wyn (1992)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 Rhaglen Pwyll Gwyllt - Cwmni Theatr Cymru 1974.
- 1 2 3 Live, North Wales (2004-10-13). "I played five characters across three decades, but Pobol ignored me". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-29.
- 1 2 "Actor and 'colourful character' dies at 80; Tributes paid to storyteller. - Free Online Library". www.thefreelibrary.com. Cyrchwyd 2025-08-29.
- ↑ "Hysbyiad marwolaeth JOHN JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-31.