J. Elwyn Jenkins

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
J. Elwyn Jenkins
Pwll, Pêl a Phulpud (llyfr).jpg
Ganwyd 1933 Edit this on Wikidata
Bu farw 30 Rhagfyr 2013 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
O Ddesg y Gweinidog (llyfr).jpg

Gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd y Parchedig John Elwyn Jenkins (bu farw 30 Rhagfyr 2013[1] yn 80 oed).[2]

Ganwyd ym Mhen-twyn ger Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. Bu'n gweithio yng nglofa Mynydd Mawr ger y Tymbl. Chwaraeodd rygbi i Lanelli ac Abertawe (1954–6), a chwaraeodd i Gymru yn erbyn y Llewod ar 22 Hydref 1955. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Trefeca ac yng Ngholeg Diwinyddol Unedig Aberystwyth. Roedd yn weinidog yn gyntaf yng nghymunedau Moriah, Brynaman a Brynllynfell, Cwmllynfell, ac yna'n weinidog y Tabernacl yn Aberystwyth o 1970 hyd 1998, ac yna yn Llanbedr Pont Steffan.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Marwolaeth John Elwyn Jenkins (11 Ionawr 2014). Adalwyd ar 16 Ionawr 2014.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Rees, D. Ben (14 Ionawr 2014). Obituary: The Rev J Elwyn Jenkins. The Guardian. Adalwyd ar 16 Ionawr 2014.