Jâd

Oddi ar Wicipedia
Jâd
Mathcraig fetamorffig, glain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Jadit o Fyrma sy'n dyddio o'r cyfnod Jwrasig.
Arenfaen o Wlad Pwyl.

Carreg led-werthfawr gan amlaf o liw gwyrdd neu wyn yw jâd[1][2] neu jad.[3] Defnyddir i wneud gemwaith, celfyddyd, ac yn hanesyddol blaenau arfau.[3]

Y ddau fath[golygu | golygu cod]

Ceir dau fwyn a elwir yn jâd: jadit[4] ac arenfaen.[1] Mae'r ddau fwyn yn wahanol yn nhermau eu cyfansoddiad cemegol a strwythur grisialaidd, ond mae ganddynt grisialau cydgloëdig sy'n ffurfio cydgasgliad cywasgedig. Gall jadit ac arenfaen ill dau fod yn wyn neu'n ddi-liw, ond gallent droi'n goch, gwyrdd, fioled neu'n llwyd o ganlyniad i bresenoldeb haearn, cromiwm, neu fanganîs.[5]

Jadit[golygu | golygu cod]

Silicad o sodiwm ac alwminiwm yw jadit, sydd yn byrocsen ac yn aml yn dryleu. Y math mwyaf werthfawr o jadit yw'r garreg o liw gwyrdd sy'n debyg i emrallt, ac o ganlyniad gelwir y lliw yn wyrdd jâd.[5][6]

Arenfaen[golygu | golygu cod]

Silicad o galsiwm a magnesiwm yw arenfaen sy'n perthyn i grŵp yr amffibolau, ac yn dremolit.[5] Mae'n loyw yn debyg i gwyr.[6]

Celfyddyd, arfau ac addurniadau[golygu | golygu cod]

Tsieina[golygu | golygu cod]

Cerfiad arenfaen o ddau fwnci'n ymgodymu, o'r oes Qing (18fed ganrif).
Gwisg gladdu jâd Liu Sui, Tywysog Liang, o'r flwyddyn 40 CC.

Ers talwm ystyrir jâd yn bur ac yn annistrywiadwy yn Tsieina, a rhoddwyd i'r garreg hon gwerth yn debyg i'r hynny a roddir i aur yn y Gorllewin.[7] Defnyddiodd y Tsieineaid arenfaen i greu gwrthrychau defodol ers y trydydd filflwyddiant CC. Yn yr Hen Tsieina credir bod jâd yn gallu cadw celanedd, a chanfuwyd y meirw mewn gwisgoedd jâd mewn beddau o'r 2il ganrif CC.[6]

Seland Newydd[golygu | golygu cod]

Hyd at ddyfodiad yr Ewropeaid i Seland Newydd yn y 18g, roedd y Maorïaid yn anghyfarwydd â metelau a defnyddiant cerrig i wneud arfau ac offer. O'r rhain, arenfaen oedd eu hoff garreg, a ddefnyddiwyd i wneud bwyelli, cyllyll, geingion, a neddyfau. Gwnaed hefyd cleddyfau byrion y penaethiaid Maorïaidd o arenfaen, ac roedd rhain yn symbolau o awdurdod yn ogystal ag arfau.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [jade].
  2. Geiriadur y BBC Archifwyd 2014-10-07 yn Archive.is.
  3. 3.0 3.1  jad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.
  4. Geiriadur yr Academi, [jadite].
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 (Saesneg) jade (gemstone). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.
  6. 6.0 6.1 6.2 Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 797.
  7. (Saesneg) Chinese jade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2014.