Iwo Jima
Gwedd
| Math | volcanic island |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | sylffwr |
| Poblogaeth | 400, 0 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Volcano Islands |
| Lleoliad | Y Cefnfor Tawel |
| Sir | Ogasawara-mura |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 23.73 ±0.01 km² |
| Uwch y môr | 161 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
| Cyfesurynnau | 24.78°N 141.32°E |
![]() | |

Un o ynysoedd Japan yw Iwo Jima (hefyd Iwoto neu Iwo To) (硫黄島, Iōtō, gynt Iōjima). Mae'n un o Ynysoedd Bonin, a saif tua 1000 km i'r de o Tokyo, 1100 km i'r gogledd o Gwam a hanner y ffordd rhwng Tokyo a Saipan.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yr ynys o bwysigrwydd strategol oherwydd y meysydd awyr arni. Ym misoedd cyntaf 1945, glaniodd milwyr yr Unol Daleithiau ar yr ynys, gan ddechrau Brwydr Iwo Jima. Cipiwyd yr ynys gan yr Americanwyr wedi wythnosau o ymladd ffyrnig.
Dychwelwyd yr ynys i Japan yn 1968.
