Ivana Trump
Ivana Trump | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Ivana Marie Zelníčková ![]() 20 Chwefror 1949 ![]() Zlín, Zlín ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model, entrepreneur, sgiwr, awdur, nofelydd, ysgrifennwr, hunangofiannydd, cynllunydd, Sgïwr Alpaidd ![]() |
Arddull | nofel ![]() |
Tad | Miloš Zelníček ![]() |
Priod | Donald Trump, Rossano Rubicondi ![]() |
Plant | Donald Trump Jr., Ivanka Trump, Eric Trump ![]() |
Llinach | Trump family ![]() |
Gwefan | http://www.ivanatrump.com/ ![]() |
Chwaraeon |
Awdures a chyn-fodel o Tsiecoslofacia, Awstria ac Unol Daleithiau America yw Ivana Marie Trump (née Zelníčková; Czech: [ˈzɛlɲiːtʃkovaː], ganwyd 20 Chwefror 1949) sydd hefyd yn entrepreneur; hi oedd gwraig cyntaf Donald Trump, Arlywydd Unol Daleithiau America; mae Donald Trump Jr., Ivanka Trump ac Eric Trump yn blant iddi. [1][2][3]
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Ivana Zelníčková ar Chwefror 20, 1949 yn nhref Morar (Gottwaldov gynt), Tsiecoslofacia. Roedd yn ferch i Miloš Zelníček (1927–1990) a Marie Zelníčková (g. Francová). Pan oedd yn 13 oed, fe wnaeth ei thad feithrin ynddi ei thalent sgïo. Ar ddechrau'r 1970au, aeth i Brifysgol Charles ym Mhrâg.[4][5][6][7]
Yn ôl Trump, fe'i dewiswyd yn ail-ddewis i dîm sgïo Tsiecoslofacia yn ystod Gemau Olympaidd y Gaeaf 1972, gan arbenigo mewn allt a slalom.[8] Fodd bynnag, yn 1989, dywedodd Petr Pomezný, Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Olympaidd Tsiecoslofacia, "Pwy yw'r fenyw Ivana hon, a pham mae pobl yn parhau i'n holi amdani? Nid oes merch o'r fath yn ein cofnodion."[9]

Yn 1971, priododd Zelníčková hyfforddwr sgïo Awstriaidd Alfred Winklmayr i gael dinasyddiaeth Awstria er mwyn iddi allu gadael Tsiecoslofacia Comiwnyddol.[10][11][12] Derbyniodd ei phasbort Awstriaidd ym mis Mawrth 1972 ac arno yr enw Ivana Winklmayr. Yn 1973 ysgarodd y ddau yn Los Angeles, California, lle'r oedd wedi symud i ddysgu sgïo.[10][11][13] Ar ôl marwolaeth ei chariad George (Jiři) Staidl mewn damwain car yn 1973, symudodd Ivana i Ganada lle bu'n byw gyda George (Jiři) Syrovatka yr oedd hi wedi ei ganlyn ers 1967; roedd wedi dianc i Ganada yn 1971 ac roedd yn berchen ar siop sgïo ym Montreal.[14] Am y ddwy flynedd ddilynol, bu'n byw ym Montreal, gan wella ei Saesneg trwy ddilyn cyrsiau nos ym Mhrifysgol McGill, a gweithio fel model. Roedd ei swyddi modelu yn cynnwys hyrwyddo Gemau Olympaidd yr Haf 1976 a gynhaliwyd ym Montreal.[7][15]
Yn y swydd hon roedd Ivana yn Ninas Efrog Newydd gyda grŵp o fodelau ym 1976 lle cyfarfu â Donald Trump. Priododd Donald Trump ac Ivana M. Winklmayr ym 1977.[15]
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n aelod o The Trump Organization am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Disgrifiwyd yn: http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Trumpova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat.
- ↑ Dyddiad geni: Discogs; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2017; enwyd fel: Ivana Trump; dynodwr Discogs (artist): 2055746. Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Trumpova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat.
- ↑ Man geni: http://svazky.cz/test/svazkyMT.php?jmeno=Ivana&prijm=Trumpova&dnar=20.02.1949&hledej=Hledat.
- ↑ Hurt III 1993, t. 96.
- ↑ "Extchyně amerického prezidenta Marie Zelníčková (92) ze Zlína: Trump mi říká bábrle!". Blesk.cz. 23 Hydref 2018. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
- ↑ "Marie Zelníčková (born Francová)". myheritage.com. Cyrchwyd 1 Mehefin 2019.
- ↑ 7.0 7.1 Prachi Gupta, "6 Things You Need to Know About Donald Trump's First Wife, Ivana". Cosmopolitan. 16 Mawrth 2017. Adalwyd 1 Hydref 2017.
- ↑ Bell, B., "They met, they saw and they conquered: Donald and Ivana Trump seemed to have it all", Daily News|location=New York, 11 Chwefror 1990.
- ↑ van Meter, Johnathan (May 1989). "That's Why the Lady is a Trump". Spy. Sussex Publishers, LLC. ISSN 0890-1759. Cyrchwyd June 30, 2013 – drwy Google Books.
- ↑ 10.0 10.1 Hurt III 1993, t. 99.
- ↑ 11.0 11.1 Lague, Louise (March 19, 1990). "Ivana Alone". People Magazine. Cyrchwyd November 4, 2018.
- ↑ McCauley, Dana (Calan Mai 2016). "This is the woman who made Donald Trump a household name". People Magazine. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2018. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Conconi, Chuck (22 Chwefror 1990). "PERSONALITIES". Cyrchwyd 22 Tachwedd 2017 – drwy www.WashingtonPost.com.
- ↑ Burleigh 2018, t. 82.
- ↑ 15.0 15.1 Gross, Michael (15 Hydref 1990). "Ivana's New Life". New York Magazine. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2018.