Ivana Brlić-Mažuranić

Oddi ar Wicipedia
Ivana Brlić-Mažuranić
GanwydIvana Mažuranić Edit this on Wikidata
18 Ebrill 1874 Edit this on Wikidata
Ogulin Edit this on Wikidata
Bu farw21 Medi 1938 Edit this on Wikidata
Zagreb Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstria Awstria
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, awdur plant Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Brave Adventures of Lapitch, Croatian Tales of Long Ago, Stribor's Forest Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHans Christian Andersen Edit this on Wikidata
TadVladimir Mažuranić Edit this on Wikidata
PerthnasauIvan Mažuranić Edit this on Wikidata
Gwobr/austar on Croatian Walk of Fame Edit this on Wikidata

Awdures o Awstria-Hwngari ac Iwgoslafia (Croatia heddiw) oedd Ivana Brlić-Mažuranić (18 Ebrill 1874 - 21 Medi 1938) sy'n cael ei hystyried yn rhyngwladol yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, ac awdur plant - y gorau o Croatia. Enwebwyd Brlić-Mažuranić ar gyfer y Wobr Nobel Lenyddol bedair gwaith - yn 1931 a 1935 cafodd ei henwebu gan yr hanesydd Gabriel Manojlović, ac yn 1937 a 1938 ymunodd yr athronydd Albert Bazala i gynnig ei henw.[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Ogulin ar 18 Ebrill 1874 i deulu Croateg adnabyddus Mažuranić. Roedd ei thad Vladimir Mažuranić yn awdur, cyfreithiwr a hanesydd a ysgrifennodd Prinosi za hrvatski pravno-povjestni rječnik, y geiriadur Croateg ar gyfer hanes a chyfraith, yn 1882. Ei thaid oedd y gwleidydd enwog, y bardd Croateg Ivan Mažuranić, tra roedd ei nain Aleksandra Mažuranić yn chwaer i Dimitrija Demeter, awdur adnabyddus ac un o brif bobl y mudiad adfywio cenedlaetholdeb Croateg. Cafodd Ivana ei haddysgu gartref yn bennaf. Gyda'i theulu, symudodd yn gyntaf i Karlovac, yna i Jastrebarsko, gan ddiweddu ei hoes yn Zagreb.[3][4][5][6][7]

Ar ôl priodi Vatroslav Brlić, gwleidydd a chyfreithiwr blaenllaw o deulu bonheddig, yn 1892, symudodd i Brod na Savi (Slavonski Brod heddiw) a bu'n byw yno am y rhan fwyaf o'i bywyd. Daeth yn fam i chwe phlentyn a rhoddodd ei holl waith i'w theulu a'i haddysg. Ysgrifennodd ei chreadigaethau llenyddol cyntaf yn Ffrangeg.

Bu farw yn Zagreb ac fe'i claddwyd ym Mynwent Mirogoj, Zagreb.

Gweithiau llenyddol[golygu | golygu cod]

Cofeb i Ivana Brlić-Mažuranić ym Mynwent Mirogoj, Zagreb

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Brave Adventures of Lapitch, Croatian Tales of Long Ago a Stribor's Forest.[8]

Dechreuodd Ivana Brlić-Mažuranić ysgrifennu barddoniaeth, dyddiaduron a thraethodau yn gynnar, ond ni chyhoeddwyd ei gweithiau tan ddechrau'r 20g. Cyhoeddodd straeon ac erthyglau, fel y gyfres o erthyglau addysgol dan yr enw Ysgol a Gwyliau yn rheolaidd o 1903 ymlaen.

Y llyfr cyntaf i ddod a sylw cenedlaethol iddi, fodd bynnag, oedd Anturiaethau Dewr Lapitch y Prentis, yn 1913. Yn y stori, mae'r prentis anobeithiol Hlapić, yn ddamweiniol, yn canfod merch goll ei feistr, a daw hyn a llygedyn o obaith i'w fywyd.

Ei llyfr Chwedlau Croatiaid yr Hen Fyd (Priče iz davnine; 1916) a sgwennwyd yn bennaf i blant yw ei llyfr enwocaf a mwyaf poblogaidd heddiw yn bennaf oherwydd iddo gael ei gyfieithu a'i addasu fel ffuglen ryngweithiol ar gyfer y cyfrifiadur, gan Helena Bulaja yn 2003/2006. Yn y llyfr creodd Mažuranić gyfres o straeon tylwyth teg newydd, gan ddefnyddio enwau a motiffau o chwedloniaeth Slafeg-Croat. A thros nos, fe'i cymharwyd gyda Hans Christian Andersen a Tolkien.[9] Ysgrifennodd hefyd straeon cwbl newydd ond wedi'u seilio ar rai elfennau o chwedloniaeth go iawn.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Gwyddorau a Chelfyddydau Croatia am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: star on Croatian Walk of Fame (2007) .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Nomination Database – Literature (1931)". Nobelprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 17 Chwefror 2011.
  2. "Nomination Database – Literature (1935)". Nobelprize.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 17 Chwefror 2011.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12781649j. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12781649j. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12781649j. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlić-Mažuranić". "Ivana Brlić-mažuranić".
  6. Dyddiad marw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Hydref 2015. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlic-Mazuranic". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ivana Brlić-Mažuranić". "Ivana Brlić-mažuranić".
  7. Man claddu: https://www.gradskagroblja.hr/trazilica-pokojnika/15. dyddiad cyrchiad: 7 Chwefror 2024.
  8. Worldwide Fairytale Adventure Croatian Tales of Long Ago Archifwyd 22 November 2010[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  9. Edward Picot. "Twice Told Tales" at The Hyperliterature Exchange. "During her own lifetime Mazuranic was known as "the Croatian Andersen". The Bulajas, in one of their notes on her work, make the counter-claim that she should be regarded as "the Croatian Tolkien" instead, and they present several pieces of evidence for this case.."