Ius gentium

Oddi ar Wicipedia

Rhan o gyfraith Rhufain a ddefnyddiwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig wrth gynnal cysylltiadau â thramorwyr, yn enwedig deiliaid taleithiol, oedd ius gentium (Lladin am "gyfraith cenhedloedd").[1] Bellach mae'n cyfeirio at y gyfraith naturiol neu gyffredin ymhlith gwladwriaethau o fewn y gymdeithas fyd-eang, yn enwedig rheolau heddwch a rhyfel, ffiniau cenedlaethol, diplomyddiaeth, ac estraddodiad. Yn yr ystyr hon ius gentium, ynghyd ag ius inter gentes, yw cyfraith ryngwladol gyhoeddus.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morwood, James. A Dictionary of Latin Words and Phrases (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998), t. 97.
Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.