Isméne
| Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0lgrb |
Cymeriad ym mytholeg Roeg, yw Isméne /ɪsˈmiːniː/; Hen Roeg: Ἰσμήνη / Ismênê) ac yn dywysoges o ddinas Thebai. Roedd hi'n ferch [a hanner chwaer] i'r brenin Oidipos, ac yn ferch [ac yn wyres] i Iocasta. Efallai bod ei stori yn fwyaf adnabyddus yn sgil ei chwaer Antigone a'i brodyr Eteocles a Poluneices. Mae hi'n ymddangos mewn sawl drama drasig gan Soffocles, gan gynnwys Oidipos Frenin, Oidipos yn Colonos, ac Antigone. Mae hi hefyd yn ymddangos ar ddiwedd y ddrama Saith yn Erbyn Thebai gan Aeschulos.
Teulu
[golygu | golygu cod]Yn draddodiadol, merch Oidipos ac Iocasta (Epicaste), brenin a brenhines Thebai, oedd Isméne. Roedd ganddi dri brawd a chwiorydd llawn: Antigone, Poluneices, ac Eteocles, ac roedd ei thad Oidipos hefyd yn hanner brawd iddi.[1]
| Cadmos | Pentheus | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Polydorus | Oclasus | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Labdacus | Menoeceus | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Laïos | Iocasta | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Oidipos | Iocasta | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Eteocles | Poluneices | ISMÉNE | Antigone | ||||||||||||||||||||||||||||||
Mytholeg
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd y bardd Mimnermus o'r 7fed CC, fod Isméne wedi'i llofruddio gan Tydeus, un o'r Saith a gymerodd arfau yn erbyn Thebai. Yn y stori hon, roedd Isméne yn cymdeithasu â'i chariad Periclymenus (Theoclymenus) pan synnodd Tydeus hwy, ar ôl cael gwybod ble roeddent gan y dduwies Athena. Yna lladdodd Tydeus Isméne.[2] Nid yw'n glir beth oedd cymhelliant Athena; efallai yma mai offeiriades i Athena oedd Isméne, felly roedd y dduwies yn cosbi ei throsedd.[3] Ni ellir cymodi'r traddodiad hwn â'r digwyddiadau a ddarlunnir mewn gweithiau diweddarach gan Aeschulos a Soffocles, lle mae Isméne yn ymddangos yn fyw ar ôl i'r frwydr ddod i ben a bod Tydeus wedi marw; mae hefyd yn anghydnaws â nodweddiad swil a gostyngedig diweddarach Isméne.[4]
Trasiedi 'Roegaidd
[golygu | golygu cod]Caiff Isméne ei hadnabod gyntaf fel merch Oidipos ac Iocasta gan Aeschulos. Mae ei ddrama Saith yn Erbyn Thebai yn darlunio rhyfel a diwedd Eteocles a Poluneices. Ar ddiwedd y ddrama, mae'r corws yn cymhell Isméne ac Antigone i ganu cân o 'alar gyda'i gilydd i'w dau frawd. Tra bod Antigone yn ymadael gyda'r hanner corws cyntaf, gan hebrwng corff Poluneices, mae Isméne a'r ail hanner o'r corws yn gadael gyda chorff Eteocles.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Oidipos Frenin" (yn cy), Wicipedia, 2025-11-07, https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Oidipos_Frenin&oldid=14308922, adalwyd 2025-11-07
- ↑ Grimal, Pierre, 1912-1996. (1991). The Penguin dictionary of classical mythology. Kershaw, Stephen. ([Abridged ed.] ed.). London, England: Penguin Books. ISBN 0140512357. OCLC 25246340.
- ↑ Porter, James I. (1999). Constructions of the Classical Body. Michigan, US: University of Michigan Press. ISBN 0-472-10908-1.
- ↑ Salazar, Fortunato (December 19, 2018). "Did Translators of Sophocles Silence Ismene Because of Her Sexual History?". Electric Literature. Retrieved December 21, 2018.
- ↑ Aeschylus. (2009). The Persians and other plays. Sommerstein, Alan H. London: Penguin. ISBN 9780140449990. OCLC 434561936.