Islamoffobia
| Enghraifft o: | non-medical phobia, cysyniad, religious intolerance |
|---|---|
| Math | estrongasedd |
| Y gwrthwyneb | Islamophilia |
| Prif bwnc | Muslim |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/015jb0 |
| Thesawrws y BNCF | 44169 |
| Quora | Islamophobia |
|
Rhan o gyfres ar |
|---|
| Arferion |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
| Sunni · Shi'a |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
| Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Ofn crefydd Islam a Mwslemiaid yn gyffredinol yw Islamoffobia. Yn aml mae'n cynnwys elfennau o hiliaeth hefyd, gan fod llawer o Fwslemiaid yn Arabiaid neu Asiaid.
Er bod enghreifftiau cynnar o Islamoffobia a rhagfarn yn erbyn Islam a'i dilynwyr i'w cael yn hanes Ewrop o'r Oesoedd Canol ymlaen, mae'r term ei hun yn bur ddiweddar. Daeth yn air cyfarwydd gyda thwf Islamiaeth a therfysgaeth gan ffwndamentalwyr, yn enwedig yn sgîl ymosodiadau 11 Medi 2001 yn yr Unol Daleithiau.
Yn y Deyrnas Unedig mae grwpiau asgell dde eithafol fel y BNP wedi cael eu cyhuddo o hyrwyddo Islamoffobia a manteisio arno i ennill cefnogaeth.
