Isabel Oyarzábal Smith

Oddi ar Wicipedia
Isabel Oyarzábal Smith
FfugenwBeatriz Galindo, Isabel de Palencia Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Mehefin 1878 Edit this on Wikidata
Málaga Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mai 1974 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sbaen Sbaen
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, diplomydd, actor, cyfieithydd, golygydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Swyddambassador of Spain to Sweden, ambassador of Spain to Finland Edit this on Wikidata
PriodCeferino Palencia Tubau Edit this on Wikidata

Ffeminist a newyddiadurwr o Sbaen oedd Isabel Oyarzábal Smith (12 Mehefin 1878 - 28 Mai 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel diplomydd, actores a chyfieithydd.

Fe'i ganed yn Málaga, Andalucía, Sbaen yn 1878 a bu farw yn Ninas Mecsico.[1][2][3][4][5]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Swydd gyntaf Oyarzábal oedd fel athrawes Sbaeneg yn Sussex, Lloegr. Ar ôl marwolaeth ei thad, cyfarfu â Ceferino Palencia, mab yr actores María Tubau. Dywedodd Oyarzábal wrth Palencia am ei dymuniad i ddod yn actores a threfnodd Palencia iddi gymryd rhan yn y ddrama Pepita Tudó. Ysgrifennai lawer, a chyda'i ffrind Raimunda Avecilla a'i chwaer Ana Oyarzábal golygodd y cylchgrawn La Dama y la Vida Ilustrada. Roedd hefyd yn ohebydd ar gyfer Biwro Newyddion Laffan a'r papur newydd The Standard. [6]

Yn 1909 priododd â Palencia a gweithiodd i'r cylchgronau Sbaeneg Blanco y Negro, El Heraldo, Nuevo Mundo a La Esfera.

Yr awdures[golygu | golygu cod]

Yn 1926, ysgrifennodd lyfr llên gwerin Sbaeneg o'r enw El traje regional de España (Gwisgoedd Rhanbarthol Sbaen). Ym 1930 hi oedd yr unig fenyw yn y Comisiwn Caethwasiaeth Parhaol yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen roedd yn llefarydd dros y Weriniaeth a galwodd am ddiddymu'r Cytundeb yn Erbyn Ymyrraeth Rhyngwladol yng nghyfarfod y Blaid Lafur ym mis Hydref 1936 yn yr Alban. Fe'i penodwyd yn Llysgennad i Sweden ar gyfer Gweriniaeth Sbaen tua diwedd 1936. Yn 1939, adleolodd gyda'i theulu i Fecsico lle bu'n ysgrifennu tan ei marwolaeth ym 1974.[7]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod Sbaen am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  3. Dyddiad geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad marw: https://dialnet.unirioja.es/descarga/articulo/3932762.pdf. dyddiad cyrchiad: 18 Tachwedd 2017. tudalen: 61.
  5. Man geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  6. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  7. Commire, Anne, gol. (2002). "Palencia, Isabel de". Women in World History: A Biographical Encyclopedia. Waterford, Connecticut: Yorkin Publications. ISBN 0-7876-4074-3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Unknown parameter |dead-url= ignored (help); Unknown parameter |subscription= ignored (help)