Neidio i'r cynnwys

Is-etholiad Caerffili, 2025

Oddi ar Wicipedia
Is-etholiad Caerffili, 2025
Enillydd y sedd: Lindsay Whittle, Plaid Cymru
MathIs-etholiad o'r Senedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfnod23 Hydref 2025 Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd Is-etholiad Caerffili, 2025, ar ddydd Iau, 23 Hydref 2025, er mwyn ethol aelod newydd Caerffili i Senedd Cymru[1] yn dilyn marwolaeth yr aelod Llafur Hefin David.[2] Enillodd ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle y sedd gyda gogwydd o 27% o Lafur.

Dyma bumed is-etholiad y Senedd ers ei sefydlu yn 1999, a'r un olaf (sy'n cael ei rhagweld) o dan yr hen system etholiadol cyntaf i'r felin.

Roedd yr etholiad yn cael ei weld fel un agos iawn rhwng Plaid Cymru a Reform UK gydag arolwg barn ychydig ddyddiau o flaen yr etholiad yn dangos Reform ar y blaen o 4%.[3]

Y canlyniadau

[golygu | golygu cod]
Is-etholiad Caerffili, 2025[4]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Lindsay Whittle 15,961 47.4 +19.0
Reform UK Llŷr Powell 12,113 36.0 +34.2
Llafur Richard Tunnicliffe 3,713 11.0 -34.9
Ceidwadwyr Gareth Potter 690 2.0 -15.3
Gwyrdd Gareth Hughes 516 1.5 (newydd)
Democratiaid Rhyddfrydol Steven Aicheler 497 1.5 -1.2
Gwlad Anthony Cook 117 0.3 (newydd)
Plaid Annibyniaeth y DU Roger Quilliam 79 0.2 (newydd)
Mwyafrif 3,848 11.4
Y nifer a bleidleisiodd 33,689 50.43 +6.1
Plaid Cymru yn disodli Llafur Gogwydd

Cyn yr etholiad

[golygu | golygu cod]

Dyma'r sefyllfa fel oedd cyn yr etholiad hwn:

Etholiad Senedd Cymru 2021: Caerffili[5]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Hefin David 13,289 46 +10.7
Plaid Cymru Delyth Jewell 8,211 28 -1.5
Ceidwadwyr Steven Mayfield 5,013 17 +8.1
Diddymu Cynulliad Cymru Stephen John Jones 1,119 4 (newydd)
Democratiaid Rhyddfrydol Steven Aicheler 787 3 +0.2
Reform UK Tim Price 495 2 (newydd)
Mwyafrif 5,078
Y nifer a bleidleisiodd 43.8 +0.5
Llafur yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Isetholiad Caerffili: Y gorsafoedd pleidleisio ar agor". newyddion.s4c.cymru. 2025-10-29. Cyrchwyd 2025-10-29.
  2. "Cynnal angladd yr aelod Llafur o'r Senedd Hefin David". newyddion.s4c.cymru. 2025-10-29. Cyrchwyd 2025-10-29.
  3. "Isetholiad Caerffili: Arolwg barn yn awgrymu ras agos rhwng Reform a Phlaid Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2025-10-29. Cyrchwyd 2025-10-29.
  4. "Plaid Cymru wins by-election as Labour loses Caerphilly seat for first time". BBC News. 24 Hydref 2025. Cyrchwyd 24 Hydref 2025.