Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019

Oddi ar Wicipedia
Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, 2019
Enghraifft o'r canlynolis-etholiad Seneddol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad1 Awst 2019 Edit this on Wikidata
Jane Dodds, yr ymgeisydd buddugol

Cynhaliwyd isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed i ethol Aelod Seneddol ar gyfer Senedd y Deyrnas Gyfunol ar 1 Awst 2019. Galwyd yr isetholiad ar ôl i Chris Davies, a oedd wedi dal sedd y Ceidwadwyr ers etholiad cyffredinol 2015, gollir'r sedd drwy ddeiseb.[1][2] Enillwyd yr isetholiad gan Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae sedd gyda'r un enw (Brycheiniog a Sir Faesyfed) a'r un ffiniau'n bodoli i ethol Aelod Cynulliad i Gynulliad Cymru ac a gynrychiolwyd yn 2019 gan Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol (ers ei chreu ym 1999).[3]

Roedd yr isetholiad o bwys mawr drwy'r Deyrnas Gyfunol, gan ei bod yng nghanol stormydd gwleidyddol Brexit. Mae'r etholaeth yn gorwedd o fewn sir Powys, ac yn etholiad Senedd Ewrop 2019, y Blaid Brexit enillodd y nifer fwyaf o bleidleisiau.[4] Roedd Boris Johnson hefyd newydd gael ei benodi'n Brif weinidog gyda mwyafrif o ddau.

Cefnogwyd Dodds, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd gan Plaid Cymru, y Gwyrddion, Change UK a'r Blaid Adnewyddu. Dywedodd arweinwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi'n bwysig fod pleidiau sydd am weld y DU yn aros yn o'r Undeb Ewropeaidd yn "cydweithio".[5]

Colli sedd[golygu | golygu cod]

Collodd Chris Davies, yr Aelod Seneddol Ceidwadol ei sedd yn sgil ei gael yn euog o dwyll, ond ceisiodd adennill y sedd yn ôl i'r Ceidwadwyr.[5]

Yn Chwefror 2019, cyhuddwyd Davies o hawlio treuliau ffug, dan Ddeddf Safonau Seneddol 2009.[6] Plediodd yn euog ym Mawrth ac, yn Ebrill cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol o 50 awr o waith di-dâl a dirwy o £1,500.[7][8]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Canlyniad yr is-etholiad[golygu | golygu cod]

Is-etholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed 1 Awst 2019
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds 13,826 43.5 +14.4
Ceidwadwyr Christopher Davies 12,401 39.0 -9.6
Plaid Brexit Des Parkinson 3,331 10.5 n/a
Llafur Tom Davies 1,680 5.3 -12.4
Monster Raving Loony Lady Lily Pink 334 1.0 n/a
Plaid Annibyniaeth y DU Liz Phillips 242 0.8 -0.6
Mwyafrif 1,425
Y nifer a bleidleisiodd 32,887 59.7
Democratiaid Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Canlyniad etholiad 2017[golygu | golygu cod]

Etholiad cyffredinol 2017: Etholaeth: Brycheiniog a Sir Faesyfed[9]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Christopher Davies 20,081 48.6 7.5
Democratiaid Rhyddfrydol James Gibson-Watt 12,043 29.1 +0.8
Llafur Dan Lodge 7,335 17.7 +3.0
Plaid Cymru Kate Heneghan 1,299 3.1 -1.3
Plaid Annibyniaeth y DU Peter Gilbert 576 1.4 -6.9
Mwyafrif 8,038 19.4 +6.7
Y nifer a bleidleisiodd 41,334 +3.1
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MP Chris Davies unseated after petition triggers by-election". BBC News. Cyrchwyd 21 June 2019.
  2. "Brecon & Radnorshire parliamentary constituency - Election 2017" (yn Saesneg). BBC News. Cyrchwyd 2019-06-21.
  3. "Lib Dem leader Williams steps down". 6 May 2016 – drwy www.bbc.co.uk.
  4. "Petition unseats Tory MP Chris Davies". 21 June 2019 – drwy www.bbc.co.uk.
  5. 5.0 5.1 golwg360.cymru; adalwyd 2 Awst 2019.
  6. Conservative MP Christopher Davies charged over 'false expenses claims' Evening Standard
  7. "False expenses claim MP could lose seat" (yn Saesneg). BBC News. 2019-03-25. Cyrchwyd 2019-03-26.
  8. Tory MP Christopher Davies admits expenses fraud The Guardian
  9. Daily Post 10 Mehefin 2017 How Wales Voted - results in detail