Is-deyrnas Periw

Oddi ar Wicipedia
Is-deyrnas Periw; lledaeniad mwyaf mewn gwyrdd golau

Talaith drefedigaethol dan reolaeth Teyrnas Sbaen yn Ne America oedd Is-deyrnas Periw neu Raglawiaeth Periw (Sbaeneg: Virreinato del Perú) a fodolai o 1542 i 1824. Hon oedd yr ail o'r pedair is-deyrnas a sefydlwyd gan y Sbaenwyr i lywodraethu tiriogaethau Ymerodraeth Sbaen yn yr Amerig. Fe'i ffurfiwyd yn dilyn concwest Periw ym 1532, ac am gyfnod roedd yn cynnwys rhan helaeth o De America.

Ffurfiwyd Is-deyrnas Granada Newydd o ran o Beriw ym 1717, yn cynnwys Colombia, Ecwador, a Phanama, yna ym 1776 ffurfiwyd Is-deyrnas Río de la Plata o ran o Beriw, yn cynnwys yr Ariannin, Paragwâi, ac Wrwgwái.