Iron Bridge
Math | pont bwa dec, pont ffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1 Ionawr 1781 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ironbridge |
Sir | The Gorge |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.6273°N 2.48542°W |
Cod OS | SJ6723803396 |
Hyd | 60 metr |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | English Heritage |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Deunydd | Haearn bwrw, puddled iron |
Pont sy'n croesi Afon Hafren yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw'r Iron Bridge. Agorwyd ym 1781, dyma'r bont fawr cyntaf (mwy na 100 troedfedd (30.5 medr) o hyd) i'w hadeiladu o haearn bwrw.[1]
Roedd y bont yn garreg filltir bwysig yn hanes peirianneg. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac mae'n sefyll yng Ngheunant Ironbridge, sydd ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Abraham Darby I doddi mwyn haearn lleol gyda côc a wnaed o glo Coalbrookdale ym 1709, ac yn y degawdau nesaf daeth yr ardal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig. Defnyddiwyd Afon Hafren ar gyfer cludo deunyddiau, ond roedd y Ceunant Afon Hafren yn rhwystr rhwng tref Broseley i'r de o'r afon a Madeley a Coalbrookdale i'r gogledd. Roedd angen pont uchel gyda dim ond un rhychwant oherwydd bod yn rhaid i longau uchel basio o dan.
Ym 1773 awgrymodd y pensaer Thomas Farnolls Pritchard adeiladu pont a wnaed o haearn. Yn y pen draw, cyflawnwyd ei gynllun, a chafodd y cydrannau eu gwneud yng ngwaith haearn Coalbrookdale ym 1777-79. Agorwyd y bont i draffig yn 1781.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Din Gwrygon; bryngaer Geltaidd 8 hectar ychydig o filltiroedd i'r dwyrain
- Pont y Borth, gan Thomas Telford
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Iron Bridge". Engineering Timelines. Cyrchwyd 3 Chwefror 2017.
- ↑ "Ironbridge Gorge". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 3 Chwefror 2017.