Ira Levin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ira Levin
Ganwyd27 Awst 1929, 27 Awst 1928 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Tachwedd 2007 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, sgriptiwr, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddullffuglen ddamcaniaethol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.iralevin.org Edit this on Wikidata

Nofelydd a dramodydd Americanaidd oedd Ira Marvin Levin (27 Awst 192912 Tachwedd 2007).[1]

Ganed ym Manhattan, Dinas Efrog Newydd, ac yno ac yn y Bronx cafodd ei fagu. Mynychodd yr ysgol baratoi breifat Ysgol Horace Mann yn y Bronx. Aeth ym Mhrifysgol Drake yn Des Moines, Iowa, am ddwy flynedd cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Efrog Newydd i astudio athroniaeth a Saesneg. Wedi iddo raddio ym 1950, cytunodd ei dad, yn gyndyn, i ariannu Ira am ddwy flynedd tra yr oedd yn cychwyn ar ei yrfa lenyddol. Gwerthodd ei sgript deledu gyntaf i NBC ar gyfer y gyfres antholeg ingol Lights Out ym 1951. Ysgrifennodd hefyd i'r rhaglenni teledu Clocks a The United States Steel Hour.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, y stori ddirgelwch A Kiss Before Dying, ym 1953, yr un adeg iddo gael ei alw i Fyddin yr Unol Daleithiau. Gwasanaethodd gyda'r Corfflu Signalau yn Queens, Efrog Newydd, ac yno bu'n sgriptio a chynhyrchu ffilmiau hyfforddi. Enillodd A Kiss Before Dying Wobr Edgar am y nofel gyntaf orau, a chafodd ei haddasu'n ffilm ym 1956 yn serennu Joanne Woodward a Robert Wagner. Trodd Levin ei sylw at theatr Broadway, ac ym 1955 cafodd lwyddiant gyda'i addasiad o'r llyfr No Time for Sergeants gan Max Hyman. Cafwyd mwy na 700 o berfformiadau yn Broadway, gydag Andy Griffith yn y brif ran. Nid oedd ei ddramâu dilynol yr un mor lwyddiannus: cafwyd pedwar perfformiad o Interlock (1958), gyda Maximilian Schell; trimis o Critic's Choice (1960) gyda Henry Fonda; dau berfformiad o General Seeger (1962), a gyfarwyddwyd gan George C. Scott; ac wythnos yn unig y bu ei sioe gerdd, Drat! That Cat! (1966), ar y llwyfan.

Cyhoeddodd Levin ei ail nofel, y stori arswyd seicolegol Rosemary's Baby, ym 1967. Addaswyd y nofel yn ffilm, a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski ac yn serennu Mia Farrow, ym 1968. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Levin ddrama arall, Dr. Cook's Garden (1968), a'r nofel wyddonias ddystopaidd This Perfect Day (1970). Nofel wyddonias ddychanol yw ei bedwaredd nofel, The Stepford Wives (1972), a addaswyd yn ffilm ym 1975. Cafodd un arall o lyfrau Levin, y nofel wyddonias gyffrous The Boys from Brazil (1976), ei addasu'n ffilm boblogaidd, ym 1978 yn serennu Gregory Peck a Laurence Olivier. Cafodd lwyddiant mawr yn Broadway gyda'i ddrama Deathtrap (1978), a enillai Wobr Edgar ym 1980.

Priododd Levin â Gabrielle Aronsohn ym 1960, a chawsant dri mab cyn diddymu'r briodas ym 1968. Priododd Levin â Phyllis Finkel ym 1979, a diddymwyd y briodas ym 1981. Derbyniodd Wobr Bram Stoker oddi ar Gymdeithas Llenorion Arswyd yr Unol Daleithiau am gyflawniad oes, a chafodd ei urddo'n Uchel Feistr gan Lenorion Dirgelwch America. Dilyniant i Rosemary's Baby oedd ei nofel olaf, Son of Rosemary (1997), a dderbyniodd adolygiadau gwael. Ysgrifennodd ei ddrama olaf, Footsteps, yn 2003. Bu farw yn ei gartref ym Manhattan yn 78 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Peter Guttridge, "Obituary: Ira Levin Archifwyd 2021-04-14 yn y Peiriant Wayback.", The Independent (15 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 14 Ebrill 2021.
  2. (Saesneg) Margalit Fox, "Ira Levin, of ‘Rosemary’s Baby,’ Dies at 78", The New York Times (14 Tachwedd 2007). Adalwyd ar 14 Ebrill 2021.