Neidio i'r cynnwys

Iorwerth Roberts

Oddi ar Wicipedia
Iorwerth Roberts
Ganwyd18 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
Nantglyn Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 2005 Edit this on Wikidata
Dubai Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, colofnydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaDaily Post Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr o Nantglyn, Hiraethog gyda cholofn ddyddiol boblogaidd yn y Daily Post am 12 mlynedd, oedd Iorwerth Roberts neu Iori Roberts (18 Ebrill 1932 – 9 Mawrth 2005)[1]. Gwasanaethodd y cyhoeddiad am 35 mlynedd.[2] Cafodd ei urddo'n aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd, cyn iddo ymddeol o'i waith ym 1997.[2]

Fe'i magwyd ar fferm ger Nantglyn a'i swydd cyntaf oedd gyda'r Denbigh Times a'r Denbigh Free Press fel newyddiadurwr.[2] Cafodd ei ddylanwadu gan Kate Roberts a Gwilym R. Jones.[3]

Gweithiodd yn Stockport am gyfnod cyn ymuno â'r Daily Post yn ardal Widnes a Runcorn, cyn mudo i Ogledd Cymru, a dod yn ohebydd dros ardal Bangor ac Ynys Môn.

Bu'n byw ym Mangor a Degannwy.

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad ym 1997, awgrymodd ei fod wedi teithio mwy na "700,000 milltir" dros ei gyfnod o 33 mlynedd yn ei swydd yng Ngogledd Cymru.[3] Yn ystod ei 'yrfa, cafodd y cyfle i gyfweld â Gregory Peck ar Yr Wyddfa, Margaret Thatcher ym Mangor, Harold Wilson, Edward Heath a'r Tywysog Charles.[3]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â'r delynores Rona, ac yn dad i ddau o feibion, Iwan a Huw.[2]

Bu farw tra'n ymweld â Dubai ym mis Mawrth 2005, lle roedd ei fab yn gweithio, yn ddim ond 71 oed.[2][3] Tybiwyd ar y pryd mai trawiad ar y galon oedd achos ei farwolaeth.[3]

Teyrngedau

[golygu | golygu cod]

Nododd Golygydd y Daily Post [Alastair Machray] yn Saesneg: "Byddaf yn gweld ei eisiau. Newyddiadurwr gwych, Cymro gwych a dyn gwych oedd â dawn ryfeddol i ganfod hiwmor ym mron unrhyw sefyllfa".[3]

Rhannodd ei gyd-newyddiadurwr Emyr Williams ei atgofion yn ogystal: "Roedd Iori bob amser yn barod i rannu ei arbenigedd a'i brofiad newyddiadurol gyda chydweithwyr iau, ac yn ystafell y wasg yn yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd yn amlwg ymhell ar y blaen i'w gydweithwyr o ran cyfweld ag enillwyr prif gystadlaethau'r Eisteddfod," ychwanegodd.[3]

Roedd yn gyfaill triw i'r Eisteddfod Genedlaethol, a dywedodd trefnydd yr Eisteddfod yng Ngogledd Cymru, Hywel Wyn Edwards: "Bydd ffrindiau niferus Iori yn drist o glywed am ei farwolaeth. Roedd yn wir ffrind i'r Eisteddfod Genedlaethol ac roedd ei adroddiadau dros flynyddoedd lawer bob amser yn ddiddorol, yn fanwl ac yn gefnogol. Bydd colled fawr ar ei ôl."[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Y Llyfrgell Wicipedia". wikipedialibrary.wmflabs.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Medi 2026.
  2. 1 2 3 4 5 "Press Gazette archive".
  3. 1 2 3 4 5 6 7 8 "Daily Post tribute". www.dailypost.co.uk. Cyrchwyd 22 Medi 2026.