Iona ac Andy

Oddi ar Wicipedia

Deuawd canu gwlad Cymraeg ydy Iona ac Andy, sef Iona Boggie ac Andrew Edward Boggie (Andy).[1]

Mae'r ddau bellach yn gerddorion proffesiynol, ond am beth amser roedd Iona'n athrawes Ysgol Gynradd ac roedd Andy'n athro Ffrangeg, yn werthwr gwinoedd, ac yn rheolwr siop. O Nantlle, Caernarfon y daeth Iona ac o Ddyffryn Conwy y daeth Andy, o Benmaenmawr, Gwynedd; mae'r ddau bellach yn byw yn Chwilog ger Pwllheli. Daeth Andy o deulu o Benbedw a ddaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd i Benmaenmawr. Canodd mewn grwpiau roc a rôl yn y 1960au a roc yn y 1970au. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor.

Ar label Cwmni Recordiau Sain, maen nhw wedi cyhoeddi: Llwybrau Breuddwydion, Y Ffordd, Cerdded Dros Y Mynydd a Gwin Yr Hwyrnos.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]