Iocasta
| Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg |
|---|---|
| Enw brodorol | Ἐπικάστη |
| Dynodwyr | |
Brenhines Thebai trwy ei phriodas â'r brenin Laïos, a mam [a gwraig] Oidipos ym mytholeg Roeg oedd Iocasta ( /dʒoʊˈkæstə/ Hen Roeg: Ἰοκάστη, Iokástē) neu Epicaste ( /ˌɛpɪˈkæstiː/ Ἐπικάστη Epikástē). [1] Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y mythau sy'n ymwneud ag Oidipos, a'i hunanladdiad wedi iddi ddarganfod ei bod wedi priodi ei mab, ac wedi cenhedlu 4 plentyn gydag ef.
Teulu
[golygu | golygu cod]Merch i fenyw anhysbys a Menoicews oedd Iocasta,[2] disgynnydd i Cadmos, sylfaenydd chwedlonol Thebai, a'r "Spartoi Echion".[3] Roedd hi'n chwaer i Creon a Hipponome.[4] Roedd hi'n aelod o ddosbarth llywodraethol Thebai, ond nid yw ei rôl cyn ei phriodas â Laïos, brenin Thebai, yn hysbys. Gyda Laïos, daeth yn Frenhines Thebai a rhoddodd enedigaeth i fab, Oidipos. Yn ddiweddarach, heb wybod pwy oedd Oidipos, priododd ag ef a rhoddodd enedigaeth i Antigone, Eteocles, Poluneices ac Isméne. Felly, hi oedd mam a nain ei phlant. Dyma yw sail nifer o ddramâu trasiedi Groeg yr Henfyd, fel Antigone, Oidipos Frenin ac Oidipos yn Colonos.
| Cadmos | Pentews | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Polydorus | Oclasus | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Labdacus | Menoicews | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Laïos | IOCASTA | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Oidipos | IOCASTA | ||||||||||||||||||||||||||||||||
| Eteocles | Poluneices | Isméne | Antigone | ||||||||||||||||||||||||||||||
Mytholeg
[golygu | golygu cod]Blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Ar ôl i'r brenin Laïos briodi Iocasta, derbyniodd oracl gan y Pythia yn Delffi a ddywedodd wrtho nad oedd y duwiau am iddo genhedlu plant. Os byddai'n anufuddhau, proffwydodd yr oracl y byddai'r plentyn un diwrnod yn ei ladd ac yn priodi Iocasta, a byddai eu disgynyddion yn cael eu melltithio am byth ag anffawd. [5] Fodd bynnag, un noson, meddwodd Laïos a beichiogi Iocasta. Rhoddodd enedigaeth i fab, [Oidipos] ond roedd y brenin yn dal i ofni'r broffwydoliaeth a mynnodd bod y plentyn yn cael ei ladd.[6]
Cymerodd Laïos y plentyn, trywanodd ei fferau â phigau haearn a'u rhwymo gyda'i gilydd cyn gofyn i'w fugail Menoetes i adael y baban ar Fynydd Cithairon, yn llygad yr haul a wyneb y gwynt. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i'r plentyn ifanc, naill ai gan Polybos, brenin Corinth, neu ei wraig, Periboea. Nid oedd ganddynt blant, felly magwyd y plentyn fel aelod o'u teulu, a'i enwi'n Oidipos (Οἰδίπους) ar ôl ei draed chwyddedig.[4]
Dychweliad Oidipos
[golygu | golygu cod]Magwyd Oidipos yng Nghorinth dan y dybiaeth mai ef oedd mab biolegol Polybos a'i wraig. Ar ôl blynyddoedd lawer, cafodd Oidipos ei wawdio gan feddwyn a ddwedodd wrtho "nad oeddwn i'n fab fy nhad". Meddyliodd mai malais gan ddynion ifanc, cenfigennus eraill na allai fod yn fab i Polybos oedd hynny. Pan ofynodd Oidipos wrth ei rieni am y sibrydion hyn, ni chafodd ymateb calonogol, ac felly teithiodd at yr oracl yn Delffi am gymorth. Hysbysodd y Pythia ei fod ef wedi'i dynghedu i ladd ei dad a phriodi ei fam. Gan ofni am ddiogelwch yr unig rieni a oedd yn hysbys iddo, ffodd Oidipos o Gorinth tuag at Thebai cyn y gallai gyflawni'r pechodau hyn.
Yn ystod ei deithiau, daeth Oidipos ar draws Laïos mewn cerbyd, oedd yn cael ei 'yrru ar hyd bwlch cul yn Phocis. Pan ofynnodd Polyphontes, herodr Laïos, i Oidipos symud o'r ffordd, gwrthododd y dyn ifanc. Mae sawl dehongliad o'r hyn ddigwyddodd wedyn. Naill ai bod Laïos wedi gorchymyn i'r cerbyd fwrw ymlaen, gan wasgu troed Oidipos wrth fynd heibio; neu, ni symudodd Oidipos ddigon cyflym, a lladdodd un o weision Laïos un o geffylau Oidipos. Yn gynddeiriog, lladdodd Oidipos Laïos, a chyflawnodd hanner cyntaf y broffwydoliaeth yn anfwriadol.