Ioan Croft
Ioan Croft | |
---|---|
Ganwyd | 30 Tachwedd 2001 ![]() Aberteifi ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | paffiwr ![]() |
Chwaraeon |
Paffiwr o Gymru yw Ioan Croft a enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop 2022. Mae ei efaill, Garan, hefyd yn focsiwr.[1]
Dechreuodd y ddau efaill, sy'n hanu o Grymych, i baffio yn Aberteifi ABC ac maent yn siarad Cymraeg. Cawsant sylw mewn rhaglen ddogfen deledu ar S4C cyn Gemau'r Gymanwlad 2022, lle bu'r ddau yn cynrychioli Cymru.[2] Yn y Gemau enillodd Ioan fedal aur a Garan efydd.[3]
Mae Ioan yn ymladd mewn adran pwysau welter, ei frawd Garan ym mhwysau canol.[4] Mae eu mam yn mynnu nad ydyn nhw'n ymladd yn erbyn ei gilydd mewn gornest gystadleuol.[4]
Trodd Ioan yn broffesiynol yn 2024. Ar 19 Ebrill 2025 yn yr LC2, Abertawe, cymerodd e a'i frawd ran yn eu gornest broffesiynol cyntaf yng Nghymru.[5] Enillodd y ornest yn erbyn Dzmitry Atrokhas dros bedwar rownd.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lewis, Mike (29 Mai 2022). "Bronze medal for Ioan Croft at European Championships in Armenia". Tivyside Advertiser. Cyrchwyd 16 Mehefin 2022.
- ↑ "New S4C documentary follows Team Wales athletes as they prepare for the Commonwealth Games". Nation Cymru. 26 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 12 Awst 2022.
- ↑ "Gemau'r Gymanwlad: Aur ac efydd yn y bocsio i ddau frawd o Sir Benfro". S4C. 7 Awst 2022. Cyrchwyd 12 Awst 2022.
- ↑ 4.0 4.1 Jon Doel (28 Gorffennaf 2022). "'Special' Welsh boxing twins won't fight each other so they don't upset their mother". WalesOnline. Cyrchwyd 12 Awst 2022.
- ↑ "Y brodyr Croft yn llawn hyder wrth baratoi i focsio eto". newyddion.s4c.cymru. 2025-04-19. Cyrchwyd 2025-04-19.
- ↑ "Ioan Croft secures third win of pro career in Swansea homecoming". Tivyside Advertiser (yn Saesneg). 2025-04-24. Cyrchwyd 2025-04-24.