Incwm sylfaenol cyffredinol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Basic Income Performance in Bern, Oct 2013.jpg
Ar 4 Hydref 2013, trefnodd ymgyrchwyr yn Bern, y Swistir ddympio 8 miliwn o ddarnau arian, un darn arian yn cynrychioli poblogaeth y Swistir, ar sgwâr cyhoeddus. Gwnaethpwyd hyn i ddathlu'r casglu dros 125,000 o lofnodion, gan orfodi'r llywodraeth i gynnal refferendwm yn 2016 ynghylch a ddylid ymgorffori'r cysyniad o incwm sylfaenol yn y cyfansoddiad ffederal ai peidio. Ni phasiodd y mesur, gyda 76.9% yn pleidleisio yn erbyn newid y cyfansoddiad ffederal i gefnogi incwm sylfaenol.
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Polisi Edit this on Wikidata
Math Incwm, nawdd cymdeithasol Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf 16G Edit this on Wikidata
Rhan o polisi cymdeithasol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae incwm sylfaenol cyffredinol (UBI), yn rhaglen gyhoeddus gan lywodraeth ar gyfer taliad ariannol cyfnodol a gaiff ei ddosbarthu i holl ddinasyddion y wlad, heb brawf modd na gofyniad gwaith.[1] Mae'r rhaglen yma'n debyg iawn i'r hyn a elwir yn 'dreth incwm negyddol', ond ei bod yn mynd gam ymhellach.

Defnyddir yr enwau canlynol hefyd mewn rhai gwledydd: incwm sylfaenol, incwm dinasyddiaeth, incwm sylfaenol dan warant, cyflog byw sylfaenol, incwm blynyddol gwarantedig, neu ddemogrant cyffredinol.

Esboniad pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir gweithredu incwm sylfaenol yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol ar raddfa sir neu ddinas fawr). Weithiau gelwir incwm diamod sy'n ddigonol i ddiwallu anghenion sylfaenol unigolyn (hy ar y llinell dlodi neu'n uwch na hynny) yn incwm sylfaenol llawn; os yw'n llai na'r swm hwnnw, gellir ei alw'n incwm sylfaenol rhannol. Mae'r trosglwyddiadau a effeithir gan incwm sylfaenol yr un fath neu'n debyg i'r rhai a gynhyrchir gan dreth incwm negyddol.

Mae treth incwm negyddol yn system sy'n gwrthdroi'r cyfeiriad y telir treth am incwm islaw lefel benodol; mewn geiriau eraill, mae enillwyr uwchlaw'r lefel honno'n talu arian i'r wladwriaeth tra bod enillwyr oddi tani (a rhai nad ydynt yn ennill incwm) yn derbyn arian gan y wladwriaeth.

Ailddosbarthiad o incwm wedi'i fynegi fel treth incwm negyddol ac fel incwm sylfaenol.

Gellir ystyried rhai systemau lles, mewn rhai gwledydd, fel camau ar y ffordd i incwm sylfaenol, ond oherwydd bod ganddynt amodau ynghlwm iddyn nhw, nid ydynt yn incwm sylfaenol go-iawn. Enghraifft o hyn yw'r cymhorthdal cyflog, sy'n gynnig tebyg ond llai uchelgeisiol; un arall yw isafswm incwm gwarantedig (guaranteed minimum income), sy'n codi incwm cartrefi i isafswm penodol.

Yng Nghymru, y ddau ladmerydd mwyaf dros incwm sylfaenol cyffredinol yw Tegid Roberts a Mark Hooper.

Mae polisïau sy'n seiliedig ar incwm sylfaenol yn cael cefnogaeth byd-eang gan economegwyr proffesiynol. Canfu arolwg ym 1995 fod 78% o economegwyr America yn cefnogi (gyda neu heb amodau) y cynnig 'y dylai'r llywodraeth ailstrwythuro'r system les yn debyg i dreth incwm negyddol'. [2]

Hyd yn hyn, nid oes yr un wlad wedi cyflwyno incwm sylfaenol diamod fel cyfraith. Cynhaliwyd y refferendwm cenedlaethol cyntaf a’r unig un ynghylch incwm sylfaenol yn y Swistir yn 2016. Y canlyniad oedd gwrthod y cynnig incwm sylfaenol mewn pleidlais o 76.9% i 23.1%.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r syniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 16eg ganrif pan ddarluniodd Syr Thomas More, yn ei gyfrol Utopia, gymdeithas lle mae pawb yn derbyn incwm gwarantedig.[3] Ar ddiwedd y 18g, datganodd y radical Seisnig Thomas Spence a’r chwyldroadwr Americanaidd Thomas Paine eu cefnogaeth i system les a oedd yn gwarantu incwm sylfaenol sicr i bob dinesydd.

Ychydig iawn o drafodaethau ar incwm sylfaenol a fu yn y 19g, ond yn gynnar yn yr 20g, trafodwyd incwm sylfaenol o'r enw "bonws y wladwriaeth" yn eang. Ym 1945, gweithredodd y Deyrnas Unedig lwfansau teulu diamod ar gyfer ail blant a phlant dilynol pob teulu. Yn y 1960au a'r 1970au, cynhaliodd yr Unol Daleithiau a Chanada sawl arbrawf gyda threthi incwm negyddol a'i system les gysylltiedig.

O'r 1980au ac ymlaen, cychwynnodd y ddadl yn Ewrop yn ehangach, ac ers hynny, mae wedi ehangu i lawer o wledydd ledled y byd. Mae rhai gwledydd wedi gweithredu systemau lles ar raddfa fawr sydd â rhai tebygrwydd ag incwm sylfaenol, fel Bolsa Família ym Mrasil. O 2008 ymlaen, cynhaliwyd sawl arbrawf gydag incwm sylfaenol a systemau cysylltiedig.

Datblygodd y mudiad cymdeithasol cyntaf ar gyfer incwm sylfaenol tua 1920 yn y Deyrnas Unedig. Roedd ei wrthwynebwyr yn cynnwys:

  • Dadleuodd y Cymro Bertrand Russell (1872–1970) dros fodel cymdeithasol newydd a gyfunodd fanteision sosialaeth ac anarchiaeth, ac y dylai incwm sylfaenol fod yn rhan hanfodol o'r gymdeithas newydd honno.
  • Cyhoeddodd y par Dennis a Mabel Milner, Crynwyr o'r Blaid Lafur, bamffled byr o'r enw "Scheme for a State Bonus" (1918) a oedd yn dadlau dros "gyflwyno incwm a delir yn ddiamod yn wythnosol i holl ddinasyddion y DU." Roeddent o'r farn ei bod yn hawl foesol i bawb gael cynhaliaeth, ac felly ni ddylai fod yn amodol ar waith na pharodrwydd i weithio.
  • Roedd C. H. Douglas yn beiriannydd a ddaeth yn bryderus na allai'r mwyafrif o ddinasyddion Prydain fforddio prynu'r nwyddau a gynhyrchwyd, er gwaethaf y cynnydd yng nghynnyrch diwydiant gwledydd Prydain. Ei ateb i'r paradocs hwn oedd system gymdeithasol newydd a alwodd yn gredyd cymdeithasol, cyfuniad o ddiwygio ariannol ac incwm sylfaenol.

Yn 2002, comisiynwyd papur gwyrdd ar y pwnc gan Lywodraeth Iwerddon. [4]

Er 2010, daeth incwm sylfaenol yn bwnc poblogaidd eto mewn sawl gwlad. Ar hyn o bryd, trafodir incwm sylfaenol o ran amryw o safbwyntiau, gan gynnwys yng nghyd-destun otomeiddio a roboteiddio parhaus, yn aml gyda'r ddadl bod y tueddiadau hyn yn golygu llai o waith a llai o gyflog yn y dyfodol. Byddai hyn yn creu angen am fodel lles newydd. Mae sawl gwlad yn arbrofi'n lleol neu'n rhanbarthol gydag incwm sylfaenol neu systemau lles cysylltiedig. Er enghraifft, ceir arbrofion yng Nghanada, y Ffindir, India a Namibia wedi cael sylw cyfryngau rhyngwladol. Trafodwyd y polisi gan Weinyddiaeth Gyllid India mewn arolwg economaidd yn 2017. [5]

Andrew Yang yn annerch
Mae'r entrepreneur ac ymgeisydd Democrataidd 2020 Andrew Yang wedi dadlau dros incwm sylfaenol i wrthsefyll dadleoli swyddi trwy awtomeiddio .

Yn ystod Pandemig COVID-19 yn 2020, gwrthododd Canghellor Trysorlys y DU Rishi Sunak alwadau am weithredu incwm sylfaenol, gan nodi nad oedd y llywodraeth “o blaid incwm sylfaenol cyffredinol.” [6][7] Rhaid cofio yma mai plaid Ceidwadol oedd yn y Llywodraeth, ac mai pobl gyoethog fyddai'r unig grwp na fyddai'n elwa.

Beirniadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Un feirniadaeth o'r incwm sylfaenol yw'r ddadl y byddai rhai derbynwyr yn gwario incwm sylfaenol ar alcohol a chyffuriau eraill. [8] [9] Fodd bynnag, mae astudiaethau o effaith rhaglenni trosglwyddo arian parod uniongyrchol yn darparu tystiolaeth i'r gwrthwyneb. Daw adolygiad Banc y Byd yn 2014 o 30 astudiaeth wyddonol i'r casgliad canlynol: "Mae pryderon ynghylch defnyddio trosglwyddiadau arian parod ar gyfer yfed alcohol a thybaco yn ddi-sail." [10]

Dadl arall yn erbyn incwm sylfaenol yw, os oes gan bobl arian am ddim a diamod, yna byddent yn "mynd yn ddiog" a pheidio â gweithio cymaint. [11] [12] [13] Dadleua beirniaid fod llai o waith yn golygu llai o refeniw treth ac felly llai o arian i'r wladwriaeth a'r dinasoedd i ariannu prosiectau cyhoeddus. Byddai graddfa unrhyw anghymhelliant i gyflogaeth oherwydd incwm sylfaenol yn debygol o ddibynnu ar ba mor hael oedd yr incwm sylfaenol.

Cydraddoldeb rhyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r economegydd yr Alban Ailsa McKay wedi dadlau bod incwm sylfaenol yn ffordd i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw. [14] [15] Nododd yn 2001 y dylai "diwygio polisi cymdeithasol ystyried yr holl anghydraddoldebau rhyw ac nid dim ond y rhai sy'n ymwneud â'r farchnad lafur draddodiadol" ac y gall "model incwm sylfaenol y dinasyddion fod yn offeryn ar gyfer hyrwyddo hawliau dinasyddiaeth gymdeithasol niwtral o ran rhyw". [16]

Lleihau tlodi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae eiriolwyr incwm sylfaenol yn aml yn dadlau bod ganddo'r potensial i leihau neu hyd yn oed ddileu tlodi . [17]

Yn ôl astudiaeth reoledig ar hap yn Ardal Rarieda yn Kenya a redir gan Abdul Latif Jameel Poverty Action Lab yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) ar y rhaglen Give Directly, effaith trosglwyddiad arian diamod oedd hyn: am bob $1,000 a ddosbarthwyd, bu cynnydd o $270 mewn enillion, cynnydd o $430 mewn asedau, a chynnydd o $330 mewn gwariant ar faeth, heb unrhyw gynnydd ar wariant alcohol neu dybaco. [18]

Cefnogodd yr economegydd Milton Friedman UBI trwy resymu y byddai'n helpu i leihau tlodi. Meddai: "Gogoniant treth incwm negyddol yw ei fod yn trin pawb yr un ffordd. . . a hynny heb y gwahaniaethu anheg ymhlith pobl." [19]

Credai Martin Luther King Jr fod incwm sylfaenol yn anghenraid a fyddai’n helpu i leihau tlodi, waeth beth fo’i hil, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol. Yn llyfr olaf King cyn ei lofruddio, Where Do We Go from Here: Chaos or Community?, meddai: "Rwyf bellach wedi fy argyhoeddi mai'r dull symlaf fydd y mwyaf effeithiol - yr ateb i dlodi yw ei ddiddymu'n uniongyrchol trwy fesur a drafodir yn eang erbyn hyn: yr incwm gwarantedig." [20]

Lleihau costau meddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Pasiodd Cymdeithas Feddygol Canada gynnig yn 2015 i gefnogi incwm sylfaenol ac ar gyfer treialon incwm sylfaenol yng Nghanada. [21]

Mae'r newyddiadurwr o wledydd Prydain, Paul Mason, wedi nodi y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn ôl pob tebyg yn lleihau'r costau meddygol uchel sy'n gysylltiedig â chlefydau tlodi. Yn ôl Mason, mae'n debyg y byddai afiechydon straen fel pwysedd gwaed uchel, diabetes math II a'u tebyg yn dod yn llai cyffredin. [22]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "BIEN | Basic Income Earth Network". BIEN. Cyrchwyd 8 January 2019.
  2. Alston, Richard M.; Kearl, J.R.; Vaughan, Michael B. (May 1992). "Is There a Consensus Among Economists in the 1990s?". The American Economic Review (American Economic Association) 82 (2): 203–09. http://www.weber.edu/wsuimages/AcademicAffairs/ProvostItems/global.pdf. Adalwyd 17 October 2015.
  3. Bryce Covert, "What Money Can Buy: The promise of a universal basic income – and its limitations", The Nation, vol. 307, no. 6 (10 / 17 September 2018), p. 33.
  4. "Basic Income A Green Paper" (PDF). socialjustice.ie. September 2002. Cyrchwyd 22 June 2020.
  5. Zhong, Raymond (31 January 2017). "India Considers Fighting Poverty With a Universal Basic Income".
  6. "Chancellor rejects widespread calls for universal basic income, saying government 'not in favour'". The Independent. 24 March 2020.
  7. "Recap: Sky News' special report into coronavirus care home deaths". Sky News.
  8. Sheahen, Allan. Basic Income Guarantee: Your Right to Economic Security. New York: Palgrave Macmillan, 2012.
  9. Koga, Kenya. "Pennies From Heaven." Economist 409.8859 (2013): 67–68. Academic Search Complete. Web. 12 April 2016.
  10. Evans, David K.; Popova, Anna (1 May 2014) (PDF). Cash Transfers and Temptation Goods: A Review of Global Evidence. Policy Research Working Paper 6886.. The World Bank. Office of the Chief Economist.. pp. 1–3. http://documents.worldbank.org/curated/en/617631468001808739/Cash-transfers-and-temptation-goods-a-review-of-global-evidence. Adalwyd 18 December 2017.
  11. "urn:nbn:se:su:diva-7385: Just Distribution : Rawlsian Liberalism and the Politics of Basic Income". Diva-portal.org. Cyrchwyd 16 February 2014.
  12. Gilles Séguin. "Improving Social Security in Canada – Guaranteed Annual Income: A Supplementary Paper, Government of Canada, 1994". Canadiansocialresearch.net. Cyrchwyd 16 August 2013.
  13. The Need for Basic Income: An Interview with Philippe Van Parijs, Imprints, Vol. 1, No. 3 (March 1997). The interview was conducted by Christopher Bertram.
  14. McKay, Ailsa (2005). The Future of Social Security Policy: Women, Work and a Citizens Basic Income. Routledge. ISBN 9781134287185.
  15. McKay, Ailsa (2007). "Why a citizens' basic income? A question of gender equality or gender bias". Work, Employment & Society 21 (2): 337–348. doi:10.1177/0950017007076643.
  16. McKay, Ailsa (2001). "Rethinking Work and Income Maintenance Policy: Promoting Gender Equality Through a Citizens' Basic Income". Feminist Economics 7 (1): 97–118. doi:10.1080/13545700010022721.
  17. Bregman, Rutger (6 March 2017). "Utopian thinking: the easy way to eradicate poverty – Rutger Bregman". The Guardian – drwy www.theguardian.com.
  18. "Research at GiveDirectly". GiveDirectly. Cyrchwyd 10 October 2018.
  19. Orfalea, Matt (11 December 2015). "Why Milton Friedman Supported a Guaranteed Income (5 Reasons)". Medium. Cyrchwyd 4 December 2018.
  20. King, Martin Luther Jr. (2010). Where Do We Go from Here: Chaos or Community?. King, Coretta Scott; Harding, Vincent. Boston: Beacon Press. ISBN 9780807000670. OCLC 610201386. The chapter is titled "Where We Are Going".
  21. "Opinion – Basic income: just what the doctor ordered". Cyrchwyd 24 April 2018.
  22. Paul Mason (3 March 2016). "PostCapitalism". Talks at Google. Cyrchwyd 28 July 2016.