Neidio i'r cynnwys

Iliana Iotova

Oddi ar Wicipedia
Iliana Iotova
Ganwyd24 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Sofia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Bwlgaria Bwlgaria
Alma mater
  • Prifysgol Sofia
  • Alphonse-de-Lamartine High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Vice President of Bulgaria, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Bwlgareg, Vice President of Bulgaria, Arlywydd Bwlgaria Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolBulgarian Socialist Party Edit this on Wikidata

Arlywydd Bwlgaria ers 2026 yw Iliana Malinova Iotova (ganwyd Malinova, 24 Hydref 1964). Mae hi'n wleidydd a newyddiadurwraig o Sofia, sydd wedi gwasanaethu ers 23 Ionawr fel chweched arlywydd y wlad. Hi yw'r fenyw gyntaf i ddal y swydd. Mae hi'n aelod o Blaid Sosialaidd Bwlgaria (BSP). Gwasanaethodd Iotova yn flaenorol fel y pumed is-lywydd o dan yr Arlywydd Rumen Radev.

Cafodd Iliana Malinova ei geni yn Sofia, prifddinas Gweriniaeth Pobl Bwlgaria, ym 1964.[1] [2] Astudiodd yn y Lycée Français de Sofia , [3] [2] Graddiodd mewn ieithyddiaeth Bwlgareg a Ffrangeg o Brifysgol Sofia ac yn ddiweddarach arbenigodd yn yr École nationale d'administration yn Strasbourg, Ffrainc, a'r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd (CEES) ym Mhrifysgol Strasbourg.[2]

Yn ei hugeiniau, gweithiodd Malinova fel nyrs yn Ysbyty Cyntaf Sofia Sant Ioan Fedyddiwr.[4] Ym 1985, priododd a'r meddyg Andrei Iotov. O 1990 i 1997, roedd hi'n gweithio i Teledu Cenedlaethol Bwlgaria fel gohebydd a cyflwynydd rhaglenni newyddion; daeth yn bennaeth y Gyfarwyddiaeth Newyddion a Materion Cyfoes. [3][5] [2] Wedyn, gweithiodd fel cyfarwyddwr gwasanaeth y wasg Plaid Sosialaidd Bwlgaria. Fel Aelod o Senedd Ewrop o 2007 i 2014, [6] roedd hi'n aelod o grŵp y Gynghrair Flaengar o Sosialwyr a Democratiaid. [6]

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi hefyd yn aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol. [7] [5]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Iliana IOTOVA - 8th parliamentary term" (yn Saesneg). European Parliament. 24 October 1964.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Karagyozov, Konstantin; Trifonov, Nikolay (23 Ionawr 2026). "UPDATED Iliana Iotova Becomes Bulgaria's President after Constitutional Court Ruling". Bulgarian News Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2026. Cyrchwyd 25 Ionawr 2026.
  3. 3.0 3.1 "Iliana Iotova". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 December 2025. Cyrchwyd 24 Ionawr 2026.
  4. "Първият джентълмен на България: Кой е съпругът на президента Илияна Йотова" [The First Gentleman of Bulgaria: Who is the husband of President Iliana Yotova?]. Nodyn:Ill (yn Bwlgareg). Netinfo. 23 Ionawr 2026. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2026. Cyrchwyd 25 Ionawr 2026.
  5. 5.0 5.1 "Iliana Iotova becomes Bulgaria's first female president". Bulgarian National Radio. 23 Ionawr 2026. Cyrchwyd 24 Ionawr 2026.
  6. 6.0 6.1 "Key speakers | European Union Agency for Fundamental Rights". fra.europa.eu. 28 August 2014. Cyrchwyd 24 Ionawr 2026.
  7. "Iliana IOTOVA - 8th parliamentary term" (yn Saesneg). European Parliament. 24 Hydref 1964.