Il nome della rosa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Il nome della rosa.jpg
Clawr yr argraffiad 1af
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Awdur Umberto Eco Edit this on Wikidata
Gwlad Yr Eidal Edit this on Wikidata
Iaith Eidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi 1980 Edit this on Wikidata
Genre nofel hanesyddol, dirgelwch hanesyddol, nofel drosedd Edit this on Wikidata
Cymeriadau Wiliam o Baskervile, Adso of Melk, Salvatore Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Il nome della rosa (Enw'r rhosyn) yw'r nofel gyntaf gan yr awdur Eidalaidd Umberto Eco a gyhoeddwyd gyntaf ym 1980.[1] Mae'n ddirgelwch llofruddiaeth hanesyddol wedi'i osod mewn mynachlog Eidalaidd yn y flwyddyn 1327. Fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg gan William Weaver ym 1983 fel The Name of the Rose.[2]

Mae'r nofel wedi gwerthu dros 50 miliwn o gopïau ledled y byd, gan ddod yn un o'r llyfrau sydd wedi gwerthu orau erioed. Mae wedi derbyn llawer o wobrau ac anrhydeddau rhyngwladol, megis Gwobr Strega ym 1981 a Prix Medicis Étranger ym 1982.

Crynodeb Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1327, cyrhaeddodd y brawd Ffransisgaidd William o Baskerville ac Adso o Melk, newyddian yn Urdd y Benedictiad sy'n teithio dan ei warchodaeth, fynachlog Benedictiad yng Ngogledd yr Eidal i fynychu dadliad diwinyddol. Mae'r abaty hwn yn cael ei ddefnyddio fel tir niwtral mewn anghydfod rhwng y Pab Ioan XXII a'r Ffransisiaid, sy'n cael eu hamau o heresi gan y pab.[3]

Mae marwolaeth Adelmo o Otranto, goleuydd (addurnwr llawysgrifau) a berchir am ei ddarluniau, yn tarfu ar y fynachlog. Roedd Adelmo yn fedrus mewn gwaith celf ddoniol, yn enwedig o ran materion crefyddol. Mae abad y fynachlog, Abo o Fossanova, yn gofyn i William ymchwilio i'r farwolaeth. Yn ystod ei ymchwiliad mae'n cael dadl gydag un o fynachod hynaf yr abaty, Jorge o Burgos, am ystyr diwinyddol chwerthin, rhywbeth mae Jorge yn ei ddirmygu.

Drannoeth, mae ysgolhaig ar waith Aristotles a chyfieithydd Groeg ac Arabeg, Venantius o Salvemec, yn cael ei ddarganfod yn farw mewn cerwyn o waed mochyn. Mae Severinus o Sankt Wendel, y llysieuydd, yn dweud wrth William fod gan gorff Venantius staeniau du ar y tafod a'r bysedd, sy'n awgrymu gwenwyn. Mae Benno o Uppsala, ysgolhaig rhethregol, yn datgelu i William fu gan y llyfrgellydd, Malachi o Hildesheim a'i gynorthwyydd Berengar o Arundel, berthynas gyfunrywiol daeth y berthynas i ben pan wnaeth Berengar hudo Adelmo. Bu farw Adelmo o hunanladdiad allan o gywilydd am ei bechod. Yr unig fynachod eraill a oedd yn gwybod am yr annoethineb oedd Jorge a Venantius. Er bod Malachi yn gwahardd William ac Adso rhag mynd i mewn i'r llyfrgell labrinthaidd,[4] maent yn treiddio i'r labrinth, gan ddarganfod mae'n rhaid bod ystafell gudd, o'r enw finis Africae yno yn rhywle. Maen nhw'n dod o hyd i lyfr ar ddesg Venantius ynghyd â rhai nodiadau cryptig. Mae rhywun yn cipio'r llyfr, ac y maen nhw'n ei ddilyn.

Erbyn y diwrnod wedyn, mae Berengar wedi mynd ar goll, sy'n rhoi pwysau ar William. Mae William yn dysgu am sut roedd gan Salvatore o Montferrat, a Remigio o Varagine, dau fynach sy'n gofalu am y seleri, hanes gyda'r hereticiaid Dulcinian. Mae Adso yn dychwelyd i'r llyfrgell ar ei ben ei hun gyda'r nos. Wrth adael y llyfrgell trwy'r gegin, mae Adso yn cael ei hudo gan ferch werinol, mae'n cael ei brofiad rhywiol cyntaf gyda hi. Ar ôl cyfaddef i William am ei bechod, mae Adso yn cael maddeuant, er ei fod yn dal i deimlo'n euog.

Ar y pedwerydd diwrnod, darganfyddir Berengar wedi ei foddi mewn baddon, mae'n dwyn staeniau tebyg i rai Venantius. Mae Bernard Gui, aelod o'r Chwilys, yn cyrraedd i chwilio am y llofrudd trwy ddidyniad Pabaidd. Mae Gui yn arestio’r ferch werinol yr oedd Adso yn ei charu, yn ogystal â Salvatore, gan gyhuddo’r ddau ohonynt o heresi.

Yn ystod y dadliad diwinyddol drannoeth, mae Severinus, wedi iddo gael hyd i lyfr "rhyfedd" yn cael ei ddarganfod yn farw yn ei labordy. Mae William ac Adso yn chwilio'n aflwyddiannus am y llyfr. Yna, mae Remigio yn cael ei holi gan Gui, sy'n ei ddychryn i ddatgelu ei orffennol heretic, yn ogystal â chyfaddef ar gam i droseddau'r Abaty. Mewn ymateb i'r trasiedïau diweddar yn yr abaty, mae Jorge yn cyflwyno pregeth am ddyfodiad yr Anghrist.

Mae'r Abad mewn trallod gan nad yw William wedi datrys y drosedd, a bod y Chwilys yn ei danseilio, felly mae'n diswyddo William. Y noson honno, mae William ac Adso yn treiddio i'r llyfrgell unwaith eto i chwilio am finis Africae.

Mae William ac Adso yn darganfod Jorge yn aros amdanynt yn yr ystafell waharddedig. Dywed ei fod wedi bod yn rheoli’r Abaty ers blynyddoedd. Mae'n dweud mai ei ddioddefwr diweddaraf yw’r Abad ei hun, sydd wedi ei ddal mewn darn cyfrinachol o’r llyfrgell. Mae'r Abad yn mygu, ac mae William yn gofyn i Jorge am ail lyfr Barddoniaeth Aristotles, y mae Jorge yn falch o'i roi iddo. Wrth fflipio trwy dudalennau'r llyfr, sy'n siarad am rinweddau chwerthin, mae William yn dyfarnu bod Jorge wedi rhoi gwenwyn ar dudalennau'r llyfr. Roedd yn gwybod y byddai'n rhaid i ddarllenydd lyfu ei fysedd i droi'r tudalennau. Ar ben hynny, daw William i'r casgliad bod Venantius yn cyfieithu'r llyfr ac wedi marw. Daeth Berengar o hyd i'r corff ac ofni'r canlyniadau wedi ei waredu yng ngwaed mochyn cyn darllen y llyfr ei hun a marw. Cafodd Malachi ei argyhoeddi gan Jorge i ddwyn y llyfr. Roedd y llyfr yn cael ei warchod gan Severinus, felly lladdodd Severinus er mwyn adennill y llyfr. Cyn dychwelyd y llyfr i Jorge penderfynodd Malachi i gael cipolwg ar ei chynnwys a bu ef farw o'r gwenwyn hefyd. Mae Jorge yn cadarnhau hyn i gyd ac yn cyfiawnhau ei weithredoedd fel rhan o gynllun dwyfol.

Mae Jorge yn bwyta tudalennau gwenwynig y llyfr ond cyn marw mae'n defnyddio llusern Adso i gynnau tân, sy'n llosgi'r llyfrgell. Mae Adso yn gweiddi ar y mynachod i geisio diffodd y tân, ond ofer bu eu hymdrech. Wrth i'r tân ledu i weddill yr abaty, mae William yn galaru am ei fethiant. Yn ddryslyd ac wedi eu trechu, mae William ac Adso yn dianc o'r abaty.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Adso, sydd bellach yn hynafgwr, yn dychwelyd i adfeilion yr abaty ac yn achub ychydig ddarnau o lyfrau oedd heb eu llosgi gan y tân sy'n. Mae'n defnyddio'r darnau a achubwyd fel sail i gychwyn llyfrgell newydd.

Cymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif gymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • William o Baskerville - prif gymeriad, brawd Ffransisgaidd
  • Adso o Melk - adroddwr, newyddian yn Urdd y Benedictiad yn cyd-deithio â William

Yn y fynachlog[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Abo o Fossanova - abad mynachlog y Benedictiad
  • Severinus o Sankt Wendel - llysieuydd sy'n helpu William
  • Malachi o Hildesheim - llyfrgellydd
  • Berengar o Arundel - llyfrgellydd cynorthwyol
  • Adelmo o Otranto - goleuydd, newyddian
  • Venantius o Salvemec - cyfieithydd llawysgrifau
  • Benno o Uppsala - myfyriwr rhethreg
  • Alinardo o Grottaferrata – y mynach hynaf yn yr abaty
  • Jorge o Burgos - mynach dall oedrannus
  • Remigio o Varagine – ceidwad y seler
  • Salvatore o Montferrat - mynach, aelod cyswllt o Remigio
  • Nicholas o Morimondo - gwydrwr
  • Aymaro o Alessandria - mynach chwyrn sy'n hoff o hel clecs,
  • Pacificus o Tivoli
  • Pedr o Sant’Albano
  • Waldo o Henffordd
  • Magnus o Iona
  • Patrick o Clonmacnois
  • Rabano o Toledo
Y Pab Ioan XII yn bendithio Bernard Gui (llawysgrif o'r 14C)

Pobl o'r tu allan[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ubertino o Casale - brawd Ffransisgaidd sy'n alltud, ffrind i William
  • Michael o Cesena - Gweinidog Cyffredinol y Ffransisiaid
  • Bernard Gui – Ymholwr o'r Chwilys
  • Bertrand del Poggetto - Cardinal ac arweinydd y lleng Pabaidd
  • Jerome o Kaffa (Jerome o Gatalwnia neu Hieronymus Catalani) - Esgob Kaffa
  • Merch werinol o'r pentref islaw'r fynachlog

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Eco, Umberto (1989). Il nome della rosa (arg. 25. ed. (con Postille) Bompiani). Milano: Bompiani. ISBN 88-452-0705-6. OCLC 20794431.
  2. Eco, Umberto. (1983). The name of the rose (arg. 1st ed). San Diego: Harcourt Brace Jovanovich. ISBN 0-15-144647-4. OCLC 8954772.CS1 maint: extra text (link)
  3. "The Name of the Rose, Harvest in Translation Ser., Umberto Eco, Book - Barnes & Noble". web.archive.org. 21 Medi 2008. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.
  4. "The Name of the Rose". www.goodreads.com. Cyrchwyd 16 Ionawr 2020.